Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Edrychiad newydd ein tai cyngor…
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Edrychiad newydd ein tai cyngor…
Pobl a lleY cyngor

Edrychiad newydd ein tai cyngor…

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 27, 2018 6:50 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Edrychiad newydd ein tai cyngor...
RHANNU

Mae cartrefi tenantiaid y cyngor wedi cael trawsnewidiad dramatig fel rhan o’n prosiect gwelliannau enfawr.

Cynnwys
  • Mae tai yn edrych “fel newydd sbon”
  • Gallai gwelliannau arwain at filiau ynni is
  • Mwy o welliannau i ddod

Tai a fflatiau yng Nghoedpoeth yw’r diweddaraf i elwa o gael Inswleiddiad Waliau Allanol wedi ei osod ar eu waliau allanol.

Bwriad y gwaith yw gwella effeithlonrwydd ynni eiddo anhraddodiadol fel eiddo sydd â ffrâm haearn.

Mae tai sydd wedi eu hadeiladu yn y dull hwn yn tueddu i golli gwres yn hawdd iawn drwy eu waliau allanol. Gobeithir y bydd yr inswleiddiad newydd o gymorth i gadw’r gwres i mewn ac arbed arian i denantiaid o bosib ar eu biliau ynni.

Bydd gosod yr inswleiddiad hefyd yn gwella edrychiad allanol yr eiddo. Gall tai sy’n sawl degawd oed edrych fel tai newydd sbon o’r tu allan.

Un o fanteision eraill yr inswleiddiad yw y gall o bosib ymestyn bywyd yr adeilad drwy ei warchod rhag y tywydd.

PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.

Mae tai yn edrych “fel newydd sbon”

Gweithiodd 2 gontractwr gyda ni yng Nghoedpoeth er mwyn cwblhau’r gwaith hwn. RW Hough & Sons Ltd wnaeth y gwaith ar y fflatiau a’r tai ‘Cubbitt’. Cubbitt yw’r enw a roddir i fath penodol o dŷ anhraddodiadol, sydd â ffrâm ddur.

Westdale wnaeth y gwaith ar y tai ‘Airey’. Dyma fath arall o dŷ anhraddodiadol, sy’n adnabyddus am eu slabiau concrid arbennig sy’n gorchuddio eu waliau allanol.

Dywedodd Aelod Lleol Coedpoeth, y Cynghorydd Krista Childs: “Mae’r tai yn edrych yn wych rŵan bod y gwaith wedi ei gwblhau. Maent wedi cael edrychiad modern newydd ac mae hyn wedi gwella sut mae’r stryd gyfan yn edrych.

“Mae tenantiaid yma wedi dweud wrthym eu bod eisoes wedi sylwi ar y gwahaniaeth, gydag eiddo yn haws i’w cynhesu dros fisoedd y gaeaf, felly gobeithio y bydd hyn yn golygu biliau ynni is, sy’n newyddion gwych.”

Edrychiad newydd ein tai cyngor...
Cyn..
Edrychiad newydd ein tai cyngor...
Ar ôl..

Gallai gwelliannau arwain at filiau ynni is

Meddai cyd Aelod Coedpoeth, y Cynghorydd Michal Dixon: “Mae’n braf gweld y gwahaniaeth mae’r gwaith hwn wedi ei wneud i’r eiddo a gweld pa mor dda maent yn edrych bellach.

“Mae llawer iawn o waith gwella wedi ei wneud i gartrefi ein tenantiaid cyngor yma yn ddiweddar, gan gynnwys gosod ceginau, ystafelloedd ymolchi, ffensys, a llwybrau newydd, a gwaith mewnol ac allanol hanfodol. Mae’n brosiect uchelgeisiol gyda llawer o heriau ond mae’n gam cadarnhaol iawn yn y cyfeiriad cywir er mwyn sicrhau bod y cartrefi hyn yn addas at y dyfodol.”

Edrychiad newydd ein tai cyngor...
Cyn..
Edrychiad newydd ein tai cyngor...
Ar ôl..

Mwy o welliannau i ddod

Mae’r gwaith sydd wedi ei wneud yng Nghoedpoeth yn rhan o’n prosiect gwella tai anferth. Rydym yn gwella tai cyngor ar draws y Bwrdeistref Sirol i sicrhau eu bod yn cyrraedd Safon Ansawdd Tai Llywodraeth Cymru.

Bydd y gwaith hwn yn parhau dros y 12 mis nesaf wedi i Fwrdd Gweithredol y Cyngor gymeradwyo buddsoddiad o £50.6 miliwn yn y prosiect ar gyfer 2018/19.

Dywedodd yr Aelod Arweiniol Tai, y Cynghorydd David Griffiths: “Rydym wedi gwneud buddsoddiadau mwy nac erioed ac wedi gwneud llawer iawn o waith ar draws y Bwrdeistref Sirol er mwyn sicrhau bod cartrefi yn cwrdd Safon Ansawdd Tai Cymru. Rydym hefyd wedi gwneud gwir ymdrech i fynd yr ail filltir o ran dyluniad a safon y gwelliannau.

“Rydym wedi ychwanegu rhai nodweddion dylunio ychwanegol i’r Inswleiddiad Waliau Allanol, gan gynnwys yr arwyneb briciau a welwyd ar yr eiddo yng Nghoedpoeth ac rwy’n credu bod hyn wedi helpu i wella’u hedrychiad.

“Mae gwaith yn dal i’w wneud ond rwy’n falch o weld ein bod ar y trywydd iawn i gyflawni’r safon a byddwn yn parhau i weithio’n galed gyda’n contractwyr er mwyn sicrhau bod safon yr hyn rydym yn ei gyflawni mor uchel â phosib.”

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar Safon Ansawdd Tai Cymru ar wefan y cyngor

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/env_services/recycling_waste_w/calendar.htm “] COFIWCH EICH BINIAU[/button]

Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.

Rhannu
Erthygl flaenorol Allwch chi ddod o hyd i'r Wyau Pasg? Allwch chi ddod o hyd i’r Wyau Pasg?
Erthygl nesaf Yn galw pawb sydd rhwng 11 – 25 oed – mae arnom eich angen! Yn galw pawb sydd rhwng 11 – 25 oed – mae arnom eich angen!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Britain in Bloom Wrecsam 2026
Pobl a lle

Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni

Awst 11, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Uwchraddio’r rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru ac ardal y ffin

Awst 10, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English