Ydych chi’n un o’r tenantiaid sydd wedi symud i un o’n tai cyngor a fu gynt yn wag?
Os felly, byddwch wedi sylwi faint o waith rydym wedi ei wneud i ddiweddaru a gwella’r tai.
Os nad ydych – darllenwch y canlynol!
Yn ddiweddar, rydym wedi newid y ffordd rydym yn diweddaru ein cartrefi gwag, sy’n golygu ein bod yn eu diweddaru y tu mewn a’r tu allan, yn hytrach na’u hailwampio’n sylfaenol yn unig.
Mae hyn yn golygu pethau fel ffitiadau a nodweddion newydd – fel côt newydd o baent, ail-blastro’r tu allan a gwella ceginau ac ystafelloedd ymolchi.
Mae’n waith mwy manwl bellach, yn hytrach nac ychydig bach o waith fan hyn a fan draw. Felly mae’r gwaith yn cymryd mwy o amser nag o’r blaen, ond mae llawer mwy yn cael ei wneud.
Fe wnaethom siarad ag un tenant ar ôl iddynt symud i dŷ cyngor gwag yr ydym wedi ei ddiweddaru.
“Hapus iawn gyda safon y gwaith”
Penderfynodd Jacqueline Fisher, oedd yn arfer byw yn un o eiddo’r cyngor ar Oak Drive, Acton, symud i le bach ar Derwen Close wedi iddi hi a’i gŵr ymddeol, a chanfod eu hunain mewn cartref mwy nag oedd arnynt ei angen.
Cafodd yr eiddo ar Derwent Close ei ailwampio a’i ddiweddaru gan ein tîm tai cyn i Mrs Fisher symud i mewn iddo ddiwedd Chwefror.
Dywedodd: “Pan welais yr adeilad o’r tu allan am y tro cyntaf, roeddwn yn meddwl y byddai’n fach ac yn dywyll, ond pan es i mewn sylweddolais pa mor fawr oedd yr ystafelloedd – cefais fy synnu ar yr ochr orau. Roeddwn yn hapus iawn gyda safon y gwaith a wnaed hefyd.
“Roedd symud yn weddol hawdd gan ei fod yn agos, ac mae pethau wedi eu gwneud mor dda dim ond mater o roi pethau yn eu lle oedd hi. Mae’r cyngor wedi bod o gymorth mawr – maent wedi gwrando ar beth oedd ei eisiau arnaf i.”
Ychwanegodd Mrs Fisher os oes unrhyw denantiaid cyngor yn ystyried symud i eiddo llai, y dylent yn bendant ystyried cysylltu gyda’r tîm tai.
“Mae symud i eiddo llai wedi bod yn gyfleus iawn ac mae’n hawdd ei reoli. Gall fod yn dipyn o beth, ond aeth popeth i’w le yn iawn.
“Ac mae mantais i’r cyngor hefyd, maent yn cael tŷ tair ystafell wely yn ôl sydd yn addas i deulu.
“Mae’r gwelliannau yn wirioneddol wych”
Dywedodd y Cynghorydd David Griffiths, Aelod Arweiniol Tai: “Mae’n hyfryd clywed gan denantiaid sydd wedi symud i eiddo oedd yn arfer bod yn wag ac wedi elwa o faint o waith rydyn ni wedi ei wneud yno.
“Rydym yn gorfod gwneud llawer mwy o waith nawr i’w gymharu ag yn y gorffennol, ac mae’r gwelliannau sydd wedi eu gwneud yn ein heiddo gwag yn wirioneddol wych – ac mae gennym denantiaid bodlon iawn.”
Pwy all gofrestru ar gyfer eiddo’r cyngor?
Myth cyffredin yw mai dim ond pobl ar incwm penodol, neu sy’n derbyn budd-daliadau all gofrestru diddordeb mewn tŷ cyngor.
Nid dyna’r gwir – gall unrhyw un wneud cais am gartref cyngor.
Yn amlwg, rhaid i ni roi blaenoriaeth o ran angen, a meini prawf penodol, fel sefyllfa fyw, budd-daliadau, incwm ac ati.
Er mwyn ychwanegu eich enw at y rhestr aros, gwnewch gais drwy’n gwefan.
A fydd angen cludiant i’r ysgol arnoch ym mis Medi? Gwnewch gais ar-lein rŵan
GWNEWCH GAIS AR-LEIN RŴAN