Does ond ychydig o wythnosau tan agoriad swyddogol Tŷ Pawb – cyfleuster marchnad, cymunedol a chelfyddydol gwerth £4.5m Wrecsam sydd wedi ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Wrecsam, Llywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Ond, tra bydd yn rhaid i rai ohonom ni aros tan yr agoriad swyddogol (Dydd Llun Pawb ar 2 Ebrill – cofiwch ei nodi yn eich dyddiadur), mae grŵp o blant lwcus wedi cael taith unigryw o gwmpas y cyfleuster newydd wrth i’r gwaith dynnu tua’r terfyn.
Mae grŵp o ddisgyblion uwchradd o Ysgol y Grango wedi ymweld, ynghyd â phlant Hafod y Wern ac Ysgol y Santes Fair – ac fe gafodd yr athrawon ddod am dro hefyd!
Mae’r ystafelloedd bron yn barod
Fel rhan o’r daith cafodd y plant gyfle i weld y gofodau newydd cyffrous a fydd, cyn bo hir, yn llawn arddangosfeydd a chynulleidfaoedd digwyddiadau cymunedol, celfyddydol a diwylliannol.
Roedd y rhain yn cynnwys y neuadd farchnad newydd, lle bydd masnachwyr yn galw heibio gyda hyn i godi eu stondinau yn barod ar gyfer yr agoriad, yr ardal berfformio fawr newydd ac Oriel Un, yr ystafell arddangos anhygoel sydd â system reoli hinsawdd i ddiogelu arddangosfeydd bregus.
Cafodd y plant hefyd gyfle i weld lluniau a chynlluniau Tŷ Pawb, gan gynnwys lluniau o’r hen adeilad i weld faint o waith sydd wedi ei wneud i drawsnewid hen Farchnad y Bobl yn adeilad modern a thrawiadol.
Cwt y bugail
Roedd yna hefyd rhywbeth anghyffredin iawn yng nghanol y concrid a’r briciau – cwt bugail traddodiadol! Yn ystod 2015/16, comisiynodd yr oriel Antonia Dewhurst i weithio gyda Phartneriaeth Parc Caia a Sêr Wrecsam i ddylunio ac adeiladu Cwt Bugail.
Roedd y prosiect yma’n gyfle i bobl ifanc (16-25 oed) i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy i’w helpu nhw ganfod gwaith. Mae’n seiliedig ar ddyluniad y cytiau traddodiadol a fyddai i’w gweld yng nghefn gwlad Cymru ers talwm. Bydd y cwt bugail yn cael ei ddefnyddio fel gofod gweithdy/stiwdio yn Nhŷ Pawb.
Ar ôl i’r brif daith ddod i ben, cymerodd blant Ysgol y Santes Fair ran mewn gweithdy byr i ddylunio eu cytiau bugail eu hunain yn defnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau celf.
Cafodd y daith ei threfnu gan ein tîm yn Oriel Wrecsam, neu Tŷ Pawb cyn bo hir, gyda chefnogaeth ein contractwyr, Wynne Construction, sy’n ymgymryd â’r gwaith adeiladu, a The Consortium, sy’n darparu nwyddau a deunyddiau ar gyfer ein hysgolion.
Bu iddynt ein cefnogi fel rhan o Gynllun Budd Cymunedol h.y. pan fo contractwyr sy’n gweithio i’r Cyngor yn cyfrannu neu’n rhoi rhywbeth sydd o fudd i’r gymuned neu’r economi lleol.
Dod â chelfyddyd a diwylliant i’n stepen drws
Dywedodd y Cyng. Hugh Jones, Aelod Arweiniol Pobl, Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae’n braf gweld y brwdfrydedd sy’n cael ei ennyn ar gyfer agoriad swyddogol y cyfleuster gwych yma. Mae cynnwys ysgolion a phobl ifanc leol mewn digwyddiadau celfyddydol a diwylliannol yn mynd i fod yn rhan bwysig o Dŷ Pawb. Mae bob plentyn sydd wedi ymweld wedi rhyfeddu at y cyfleuster a bydd mwy o ymweliadau tebyg yn cael eu cynnal unwaith y bydd y cyfleuster ar agor.”
Meddai’r Cyng. Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg: “Dyma gyfnod cyffrous iawn i Wrecsam ac rydw i’n credu y bydd y cyfleuster newydd hwn yn adnodd gwerthfawr iawn i’n plant. Bydd yn dod â chelf o’r radd flaenaf at garreg eu drws; ac mae pawb yn edrych ymlaen yn fawr iawn at weld yr adeilad wedi ei orffen.”
Bydd Tŷ Pawb yn agor i’r cyhoedd ar 2 Ebrill.
Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat.
DILYNWCH NI AR SNAPCHAT