Mae yna lawer o sylw wedi bod yn y wasg genedlaethol yn ddiweddar am sbeicio diodydd ac mae yna lawer o bryder pan fydd pobl yn mynd allan. Er bod adroddiadau o hyn yn digwydd yn isel yn Wrecsam, mae yna ychydig o bethau y gallwn ni gyd eu gwneud i sicrhau nad yw hyn yn digwydd i ni.
- Peidiwch â gadael unrhyw ddiodydd heb fod neb yn eu goruchwylio gan y gallai hyn gynyddu’r posibilrwydd y bydd eich diod yn cael ei sbeicio
- Peidiwch â derbyn diodydd gan bobl nad ydych chi’n eu hadnabod yn dda
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Pam fod pobl yn sbeicio diodydd?
Mae troseddwyr yn gwneud hyn er mwyn cyflawni trosedd yn eich erbyn chi megis dwyn, lladrad, neu gamdriniaeth rywiol. Gall ddigwydd i ddynion neu ferched, felly mae angen i bawb ohonom fod yn ofalus pan fyddwn ni allan.
Os oes angen i chi adael eich diod heb neb i gadw golwg arno i fynd i’r lle chwech neu i fynd i ddawnsio, gofynnwch i staff y bar os oes ganddynt orchudd diod y gallwch ei ddefnyddio. Mae nifer o leoliadau yn cadw’r rhain bellach felly gofynnwch, neu ewch ag un eich hun gyda chi os allwch chi.
Edrychwch ar ôl eich ffrindiau
Os ydych chi allan gyda’ch ffrindiau a bod un ohonynt yn dechrau ymddwyn yn feddw gaib neu’n ymddangos yn sâl, gadewch i staff y bar wybod, arhoswch gyda nhw, daliwch i siarad gyda nhw a chadwch lygad agos arnynt. Os ydynt angen cymorth gallwch fynd i’r tŷ diogel yng nghanol y dref yn Hafan y Dref ar nos Wener neu nos Sadwrn. Mae wedi’i leoli yng nghlwb nos Atik.
Peidiwch â gadael iddynt adael y lleoliad gyda rhywun nad ydych chi’n ei adnabod neu’n ymddiried ynddynt a sicrhewch eu bod yn cyrraedd adref yn ddiogel.
Os oes ganddynt broblemau meddygol difrifol, ffoniwch 999.
Dywedodd Claire McGrady, Arolygydd gyda Heddlu Gogledd Cymru “Mae gennym fwy o heddweision yng nghanol y dref dros y cyfnod cyn y Nadolig ac maent yn cael croeso gan y rhai sydd yn ymweld â’r lleoliadau min nos.
“Er bod adroddiadau o sbeicio yn brin yn Wrecsam, rydym wedi cael adroddiadau o achosion honedig o sbeicio, a dylai unrhyw sydd yn mynd allan am noson edrych ar ôl eu diodydd er mwyn edrych ar ôl eu hunain a’u ffrindiau.”
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol, “Mwynhewch eich noson allan ond edrychwch ar ôl eich diodydd a’ch ffrindiau er mwyn sicrhau bod pawb yn cyrraedd adref yn ddiogel er mwyn mwynhau cyfnod y Nadolig.”
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL