Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Edrychwch ar ôl eich diodydd! Peidiwch â chael eich sbeicio!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Edrychwch ar ôl eich diodydd! Peidiwch â chael eich sbeicio!
Y cyngor

Edrychwch ar ôl eich diodydd! Peidiwch â chael eich sbeicio!

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 16, 2021 4:22 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Spiking
RHANNU

Mae yna lawer o sylw wedi bod yn y wasg genedlaethol yn ddiweddar am sbeicio diodydd ac mae yna lawer o bryder pan fydd pobl yn mynd allan. Er bod adroddiadau o hyn yn digwydd yn isel yn Wrecsam, mae yna ychydig o bethau y gallwn ni gyd eu gwneud i sicrhau nad yw hyn yn digwydd i ni.

Cynnwys
  • Pam fod pobl yn sbeicio diodydd?
  • Edrychwch ar ôl eich ffrindiau
  • Peidiwch â gadael unrhyw ddiodydd heb fod neb yn eu goruchwylio gan y gallai hyn gynyddu’r posibilrwydd y bydd eich diod yn cael ei sbeicio
  • Peidiwch â derbyn diodydd gan bobl nad ydych chi’n eu hadnabod yn dda

Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.

Pam fod pobl yn sbeicio diodydd?

Mae troseddwyr yn gwneud hyn er mwyn cyflawni trosedd yn eich erbyn chi megis dwyn, lladrad, neu gamdriniaeth rywiol. Gall ddigwydd i ddynion neu ferched, felly mae angen i bawb ohonom fod yn ofalus pan fyddwn ni allan.

Os oes angen i chi adael eich diod heb neb i gadw golwg arno i fynd i’r lle chwech neu i fynd i ddawnsio, gofynnwch i staff y bar os oes ganddynt orchudd diod y gallwch ei ddefnyddio.  Mae nifer o leoliadau yn cadw’r rhain bellach felly gofynnwch, neu ewch ag un eich hun gyda chi os allwch chi.

Edrychwch ar ôl eich ffrindiau

Os ydych chi allan gyda’ch ffrindiau a bod un ohonynt yn dechrau ymddwyn yn feddw gaib neu’n ymddangos yn sâl, gadewch i staff y bar wybod, arhoswch gyda nhw, daliwch i siarad gyda nhw a chadwch lygad agos arnynt.  Os ydynt angen cymorth gallwch fynd i’r tŷ diogel yng nghanol y dref yn Hafan y Dref ar nos Wener neu nos Sadwrn.  Mae wedi’i leoli yng nghlwb nos Atik.

Peidiwch â gadael iddynt adael y lleoliad gyda rhywun nad ydych chi’n ei adnabod neu’n ymddiried ynddynt a sicrhewch eu bod yn cyrraedd adref yn ddiogel.

Os oes ganddynt broblemau meddygol difrifol, ffoniwch 999.

Dywedodd Claire McGrady, Arolygydd gyda Heddlu Gogledd Cymru “Mae gennym fwy o heddweision yng nghanol y dref dros y cyfnod cyn y Nadolig ac maent yn cael croeso gan y rhai sydd yn ymweld â’r lleoliadau min nos.

“Er bod adroddiadau o sbeicio yn brin yn Wrecsam, rydym wedi cael adroddiadau o achosion honedig o sbeicio, a dylai unrhyw sydd yn mynd allan am noson edrych ar ôl eu diodydd er mwyn edrych ar ôl eu hunain a’u ffrindiau.”

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol, “Mwynhewch eich noson allan ond edrychwch ar ôl eich diodydd a’ch ffrindiau er mwyn sicrhau bod pawb yn cyrraedd adref yn ddiogel er mwyn mwynhau cyfnod y Nadolig.”

Os ydych chi’n chwilio am yrfa newydd ac os hoffech chi helpu pobl yn eich cymuned, ystyriwch swydd gofal cymdeithasol.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/service/care_jobs_in_wrexham”]DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Care Rydym yn edrych am Weithwyr Cefnogi – a ydych yn barod am yr her?
Erthygl nesaf Rail track Gwelliant i amserlen reilffordd Caer i Fanceinion yn dilyn ymgynghoriad

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy
Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy
Y cyngor
Medi 15, 2026
Gwneuthurwr deunydd pecynnu o Wrecsam yn sicrhau grant Parth Buddsoddi i sbarduno twf a chreu swyddi
Gwneuthurwr deunydd pecynnu o Wrecsam yn sicrhau grant Parth Buddsoddi i sbarduno twf a chreu swyddi
Y cyngor
Medi 15, 2026
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Medi 14, 2026
glyndwr
Oeddech chi’n gwybod am Fforwm Landlordiaid 2026 yn Wrecsam?
Digwyddiadau
Medi 14, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Guildhall ceremony room
ArallPobl a lleY cyngor

Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd

Medi 9, 2026
Guildhall
Y cyngor

Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth

Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
ArallPobl a lleY cyngor

Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu

Medi 4, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English