Gwyliau’r haf syml
Ydych chi’n ansicr sut rydych am ymdopi dros chwe wythnos o wyliau haf gyda phlant sydd wedi diflasu?
Peidiwch â phoeni – mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam wedi llunio llyfryn o ddigwyddiadau a gweithgareddau sy’n digwydd ar draws y fwrdeistref sirol a thu hwnt i chi ei ddefnyddio.
Ar draws y fwrdeistref sirol, mae digon yn digwydd o hen ffefrynnau fel nofio am ddim a gwaith chwarae i fentrau newydd fel gwersi piano, gitâr a drymiau yng Nghanolfan Adnoddau Cymunedol Acton.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
“gweithgareddau gwych am ddim”
Dywedodd y Cynghorydd Paul Rogers, Aelod Arweiniol dros Wasanaethau Ieuenctid a Gwrth Dlodi::
“Mae gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam yn wych am lunio’r llyfryn hwn a fydd yn ddefnyddiol iawn ar gyfer rhieni a gofalwyr sydd am gadw eu plant wedi’u difyrru dros wyliau’r haf. Mae hefyd gweithgareddau am ddim gan gynnwys llawer yn ein parciau gwledig sydd bob amser yn werth i chi ymweld â nhw.”
Rydym yn siŵr y byddwch yn gallu dod o hyd i rywbeth bob wythnos sydd naill ai’n rhesymol iawn neu am ddim ac yn addas ar gyfer pob oedran.
Os ydych am gael eich copi eich hun, anfonwch e-bost at fis@wrexham.gov.uk a byddant yn anfon e-bost atoch gyda chopi am ddim.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI