Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen edrychwch ar y gwahaniaeth y mae ein prosiect gwelliannau tai wedi’i wneud i’r cartrefi hyn..
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Dau oedolyn hŷn yn eistedd gyferbyn â'i gilydd wrth fwrdd yn cael sgwrs
Sesiynau galw heibio i’w cynnal ledled y sir ynghylch gwasanaethau cymdeithasol oedolion
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Ruthin Road
Wrecsam yn erbyn Sheffield Wednesday: Parcio a Theithio
Pobl a lle
J
Canlyniadau TGAU 2025 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Busnes ac addysg Y cyngor
Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol
Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol
Y cyngor
funding
Dyrchafu eich busnes yn Wrecsam – ymunwch â’r digwyddiad rhad ac am ddim hwn ar 19 Medi
Busnes ac addysg
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > edrychwch ar y gwahaniaeth y mae ein prosiect gwelliannau tai wedi’i wneud i’r cartrefi hyn..
Pobl a lleY cyngor

edrychwch ar y gwahaniaeth y mae ein prosiect gwelliannau tai wedi’i wneud i’r cartrefi hyn..

Diweddarwyd diwethaf: 2017/11/28 at 10:41 PM
Rhannu
Darllen 5 funud
edrychwch ar y gwahaniaeth y mae ein prosiect gwelliannau tai wedi'i wneud i'r cartrefi hyn..
RHANNU

Mae cartrefi ar stad dai cyngor leol wedi eu gweddnewid yn ddramatig fel rhan o gynllun moderneiddio o bwys.

Cynnwys
Mae’r tai yn edrych yn “newydd sbon”Trydedd flwyddyn o fuddsoddiad cofnod mewn gwaith taiRydym yn mynd y filltir ychwanegol gydag ansawdd a dyluniad

Mae waliau allanol dros 100 o gartrefi sy’n eiddo i’r cyngor yn Acton wedi cael eu hinswleiddio. Cynlluniwyd yr inswleiddiad i wella effeithlonrwydd ynni eiddo nad ydynt yn draddodiadol, fel y tai ffrâm ddur sydd i’w cael yma yn Acton, sy’n adnabyddus am fod yn anodd eu gwresogi.

Yn ogystal â helpu cadw’r tenantiaid tu mewn yn gynhesach a gwneud arbedion posibl ar filiau ynni, mae inswleiddio waliau allanol yn helpu ymestyn oes yr adeiladau drwy ddiogelu adeileddau rhag yr elfennau. Mae hefyd yn gwella eu hymddangosiad allanol.

Rhoddwyd toeau newydd ar eiddo, lle bo’r angen, fel rhan o’r cynllun.

GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

edrychwch ar y gwahaniaeth y mae ein prosiect gwelliannau tai wedi'i wneud i'r cartrefi hyn..
Anita Russell (CBSW Swyddog Cyswllt Tenantiaid), Geraint Jones (RW Hough & Sons), Y Cyng. Geoff Lowe (Local Member for Acton), Y Cyng. David Griffiths (Aelod Arweinol Tai), Steve Ridge (CBSW), Martin Hough (RW Hough & Sons)

Mae’r tai yn edrych yn “newydd sbon”

Dywedodd Aelod Lleol Acton, Cyng Geoff Lowe: “Mae hyn wedi gwneud gwahaniaeth aruthrol i’r ardal leol. Mae’r eiddo lle mae’r gwaith hwn wedi ei wneud yn edrych yn newydd sbon o’r tu allan rŵan, ac mae wedi helpu trawsnewid golwg y strydoedd hyn.

“Gyda’r gaeaf yn nesáu’n gyflym, mae’n bleser gen i fod gwaith wedi ei gwblhau rŵan i wneud yr adeiladau hyn y well am gadw gwres i mewn ac rwy’n gobeithio y bydd tenantiaid yma yn gallu arbed ar eu biliau ynni dros y misoedd nesaf.

“Yn ogystal â gwelliannau eraill sydd wedi eu gwneud dros y blynyddoedd diwethaf, fel y rhaglen geginau ac ystafelloedd ymolchi, a’r systemau gwres canolog sydd wedi cael eu gosod, mae hyn rŵan yn golygu fod cartrefi’r cyngor yma wedi eu moderneiddio a’u gwneud yn barod at y dyfodol, sy’n newyddion i’w groesawu’n fawr.”

Trydedd flwyddyn o fuddsoddiad cofnod mewn gwaith tai

Mae’r gwelliannau’n rhan o brosiect cynhwysfawr sydd ar y gweill i sicrhau ein bod yn cyflawni Safon Ansawdd Tai Llywodraeth Cymru erbyn 2020.

Mae inswleiddiad yn cael ei osod ar waliau allanol dros 1,600 eiddo ar draws y fwrdeistref sirol erbyn 2020, gyda gwaith mewn sawl ardal fel Cefn, Coedpoeth, Acrefair a Gresffordd naill ai ar y gweill neu eisoes wedi ei gwblhau.

Mae £56.4m yn cael ei fuddsoddi yn y prosiect gwelliannau cyfan yn 2017/18. Dyma’r drydedd flwyddyn i ni dorri’r record am fuddsoddi mewn gwelliannau i dai.

Dywedodd yr Aelod Arweiniol Tai, y Cynghorydd David Griffiths: “Dyma’r prosiect gwelliannau mwyaf i ni ei gyflawn ar dai cyngor yma ers sawl degawd ac mae’n wych gweld yr holl filoedd o gartrefi hyn yn cael eu codi i safon uchel, fodern o’r diwedd.

edrychwch ar y gwahaniaeth y mae ein prosiect gwelliannau tai wedi'i wneud i'r cartrefi hyn..
o’r blaen
edrychwch ar y gwahaniaeth y mae ein prosiect gwelliannau tai wedi'i wneud i'r cartrefi hyn..
ar ôl

Rydym yn mynd y filltir ychwanegol gydag ansawdd a dyluniad

Parhaodd y Cyng Griffiths: “Rydym wedi gweithio’n galed i fynd yr ail filltir gydag ansawdd y gwaith sy’n cael ei wneud. Rydym wedi ychwanegu nodweddion dylunio i’r Inswleiddiad Waliau Allanol i ychwanegu amrywiaeth a gwella’i ymddangosiad ac rwy’n credu ei fod wedi gwneud gwahaniaeth go iawn.

“Gall tenantiaid hefyd ddewis o ddetholiad o liwiau a chynlluniau o ansawdd uchel wrth gael eu ceginau a’u hystafelloedd ymolchi newydd. Rydym eisiau i’n tenantiaid gael cartrefi y gallant fod yn falch ohonynt.

“Mae rhywfaint o waith yn dal i’w wneud a heriau i’w goresgyn ond rwy’n falch i weld ein bod ar y trywydd cywir i gyflawni’r safon ac fe wnawn ein gorau i gynnal y safonau uchel hyn wrth i’r gwaith fyn yn ei flaen.”

Gallwch gael newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam gyda Fy Niweddariadau.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”]COFRESTRWCH FI[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Cynghorydd yn mynd i’r afael â llwyth o sbwriel Cynghorydd yn mynd i’r afael â llwyth o sbwriel
Erthygl nesaf Ydych chi’n manteisio ar y gwasanaeth bws Cyswllt Tref newydd? Ydych chi’n manteisio ar y gwasanaeth bws Cyswllt Tref newydd?

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Dau oedolyn hŷn yn eistedd gyferbyn â'i gilydd wrth fwrdd yn cael sgwrs
Sesiynau galw heibio i’w cynnal ledled y sir ynghylch gwasanaethau cymdeithasol oedolion
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Awst 22, 2025
Ruthin Road
Wrecsam yn erbyn Sheffield Wednesday: Parcio a Theithio
Pobl a lle Awst 21, 2025
J
Canlyniadau TGAU 2025 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Busnes ac addysg Y cyngor Awst 21, 2025
Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol
Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol
Y cyngor Awst 20, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Dau oedolyn hŷn yn eistedd gyferbyn â'i gilydd wrth fwrdd yn cael sgwrs
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Sesiynau galw heibio i’w cynnal ledled y sir ynghylch gwasanaethau cymdeithasol oedolion

Awst 22, 2025
Ruthin Road
Pobl a lle

Wrecsam yn erbyn Sheffield Wednesday: Parcio a Theithio

Awst 21, 2025
J
Busnes ac addysgY cyngor

Canlyniadau TGAU 2025 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr

Awst 21, 2025
Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol
Y cyngor

Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol

Awst 20, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English