Rwy’n siŵr eich bod i gyd wedi sylwi arno, ond faint ohonoch sydd wedi holi amdano? Efallai bod eich plant wedi gofyn “pam bod y dynion yna ar bolyn wedi plygu?” neu’n syml “beth ydy hwnne?”
Rwy’n siarad am gerflun Y Bwa ar Stryt yr Arglwydd wrth gwrs. Dyma ychydig o wybodaeth gefndir am ‘Y Bwa’.
Cefndir
Cafodd y bwa ei ddadorchuddio ar 2 Chwefror 1996 gan y Cyng Michael Morris, Maer Wrecsam ar y pryd.
Mae’n dangos glöwr a gweithiwr dur ar blinth brics, a’u traed ar led ar 2 fwa dur. Maent wedi ymestyn yn llawn, y ddau yn ceisio plygu’r bwa i gwrdd yn y pen uchaf.
Noddir gan Asiantaeth Datblygu Cymru, Cyd-ffederasiwn Masnach Dur Haearn, Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Ar y gwaelod mae yna gerdd ddwyieithog gan Myrddin ap Dafydd yn dangos llafur gwaith llaw mewn pennill.
Ond pam mae o yno?
Mae pyllau glo yn rhan sylweddol o hanes Wrecsam mor gynnar â’r 14 ganrif pan wnaeth y Burgesses o Holt warchod eu hawl i gloddio am lo yng ‘ngwastraff’ Brymbo a Choedpoeth.
Yn ystod yr 17eg ganrif, cynyddodd y galw am lo wrth i nifer fwy o dai gael simneiau ac yna yn y 18fed ganrif cynyddodd hyd yn oed yn fwy wrth i ddiwydiannau sefydledig fel gwaith haearn Bersham ddechrau defnyddio glo.
Yn y 19eg ganrif, roedd rheilffyrdd yn rhaglfaenu ‘oes aur’ glo gan y defnyddiwyd i wneud y rheiliau haearn a locomotifau stêm.
Gwybodaeth bellach am hanes glo yn Wrecsam.
Mae gwaith dur hefyd yn bwysig iawn i’n hanes lleol ac roedd Brymbo yn leoliad o waith dur pwysig yn genedlaethol, ac yn cael ei ystyried fel ‘calon y gymuned’ nes iddo gau yn 1990.
Effaith mawr ar fywydau pobl
Nid yw’r effaith ar bobl leol ar ôl y cau yn rhywbeth y dylid ei liwio.
Mae’r pentrefi yn rhedeg o’r gogledd i’r de o Brymbo a Llai i lawr i’r Waun, Fron ac Acrefair i gyd yn ymwneud â’r diwydiannau trwm.
Gyda’r cau, roedd yn rhaid i’r cymunedau hunan-gynhaliol hyn ddod o hyd i rôl newydd yn y byd, gyda llawer o bobl yn dewis gadael yr ardal a dod o hyd i waith yn bellach i ffwrdd.
Roedd cymunedau cryf wedi eu gwahanu a chymerodd amser maith i’w hadfer.
Pwysig i bobl Wrecsam
Y cysylltiadau cryf hyn i’n hanes lleol arweiniodd at greu’r cerflun yn 1996.
Meddai Jonathon Gammond, Swyddog Dehongli a Mynediad yn Amgueddfa Wrecsam: “mae gan y rhan fwyaf o drefi enghraifft o’r ‘gwych a’r da’ yn sefyll ar bedestal yn edrych i lawr ar bobl yn mynd heibio. Nid Wrecsam.
“Yn hytrach, mae’r dref wedi dewis dathlu bywydau dau unigolyn cyffredin, y ddau yn cael eu dangos ar lefel palmant, lle gallwn edrych ym myw eu llygaid. Maent yn gweithio’n galed, yn ennill cyflog a ddim yn disgwyl cydnabyddiaeth. Mae hynny’n dweud wrthych beth sy’n bwysig i bobl Wrecsam.”
Dathlu pwy ydyn ni
Ychwanegodd Jonathon: “Oni fyddai’n wych dathlu mwy o weithwyr y gorffennol a’r presennol, mewn cerfluniau o amgylch y dref. Ar gyfer heddiw, byddwn yn dewis rhywun sy’n trin gwallt, tatŵist ac ymgynghorydd canolfan alwadau yn Moneypenny.”
Os hoffech ddysgu mwy am yr hanes lleol, ewch draw i’r amgueddfa lle mae yna arddangosfa yn y prif oriel yn canolbwyntio ar Brymbo. Hefyd, yn yr hippodrome, gall ymwelwyr wylio ffilm newydd am dreftadaeth glofa Wrecsam.
Felly, gobeithio eich bod nawr yn deall ychydig mwy am Y Bwa ac os bydd eich plant yn gofyn am “y dynion ar y polyn wedi plygu”, bydd gennych ateb llawer gwell iddynt.
Problem gyda cheudwll? Dwedwch wrthym ni yn hawdd ac yn gyflym ar-lein
DWEDWCH WRTHYM AM GEUDWLL