Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Rhowch eich sgidiau cerdded am eich traed… mae eich ap llwybr treftadaeth yma!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Rhowch eich sgidiau cerdded am eich traed… mae eich ap llwybr treftadaeth yma!
ArallPobl a lle

Rhowch eich sgidiau cerdded am eich traed… mae eich ap llwybr treftadaeth yma!

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 12, 2018 3:58 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
wrexham ceiriog valley app
RHANNU

Cyd-gerddwyr… mae cerdded yn eich ardal ar fin mynd yn llawer mwy diddorol.

Cynnwys
  • Un o drysorau’r sir
  • Sut ydw i’n cael gafael arno?
  • Sut yn union y mae’n gweithio?
  • Swnio’n dda? Mae mwy i ddod…

Lansiwyd ap newydd ar gyfer ymweld â hyfrydwch Dyffryn Ceiriog gan Bartneriaeth y Waun a Dyffryn Ceiriog. Dyma’r ward fwyaf ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam yn ôl arwynebedd ac mae’r ap yn lwybr ibeacon a fydd yn eich helpu gyda’ch ymweliad.

Mae’n eich tywys drwy hanes a rhyfeddodau naturiol Dyffryn Ceiriog wrth i chi deithio o Glyn Wylfa yn y Waun i Lanarmon Dyffryn Ceiriog.

Felly os ydych chi wrth eich bodd yn cerdded a gyda hanes, dylai hwn fod yn berffaith i chi.

Problem gyda cheudwll? Dwedwch wrthym ni ar-lein

Un o drysorau’r sir

Ar hyd y daith, gallwch fwynhau teithiau cerdded i werthfawrogi ei harddwch naturiol neu os oes awydd paned arnoch chi, gallwch stopio i fwynhau ychydig o letygarwch y dyffryn.

Mae cymaint gan y dyffryn i’w gynnig o olygfeydd naturiol heb eu difetha a threftadaeth ddiwylliannol fel Tramffordd Dyffryn Glyn.

Sut ydw i’n cael gafael arno?

Gallwch lawrlwytho’r ap, am ddim, drwy fynd i’r Apple Store neu Google Play, chwilio am ‘Llwybr Dyffryn Ceiriog’ a lawrlwytho’r ap i ffôn symudol neu ddyfais llechen. Mae mor syml a hynny.

Mae’r holl wybodaeth yn cael ei chadw ar y ffôn neu dabled a ni fydd angen i chi boeni am signal gwan gan nad oes angen cysylltiad ffôn symudol pan fyddwch chi ar y llwybr.

Sut yn union y mae’n gweithio?

Wrth deithio i fyny’r Dyffryn gyda’ch ffôn/llechen ymlaen a’r ap ar agor, dylai ibeadon danio signal i ddangos y tudalennau ar gyfer y lleoliad hwnnw.

Mae gan yr ap fap sy’n dangos ble mae’r ibeacons wedi eu lleoli. Mae yna daflenni, sydd hefyd yn dangos ble mae’r ibeacons, sut i lawrlwytho’r ap a gwybodaeth am y Waun a Dyffryn Ceiriog.

Gallwch godi’r rhain o Ganolfannau Croeso ac mewn rhai busnesau lleol.

Swnio’n dda? Mae mwy i ddod…

Mae’r ap llwybr ibeacon yn un o 18 prosiect ibeacon yng Ngogledd Ddwyrain Cymru sy’n cael eu rhedeg gan Gadwyn Clwyd gyda chyllid gan y cynllun LEADER.

Mae LEADER yn gronfa ar gyfer ardaloedd gwledig Cymru i archwilio dulliau newydd arloesol a thechnolegau arbrofol i fynd i’r afael â thlodi, creu swyddi a chymell datblygu economaidd cynaliadwy.

Mae’n rhan o Raglen Ddatblygu Wledig – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014–20, sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Iawn, dw i wedi clymu fy nghareiau. Wela’ i chi wedyn.

Am ragor o wybodaeth, ewch i www.chirkandtheceiriogvalley.co.uk.

Problem gyda cheudwll? Dwedwch wrthym ni yn hawdd ac yn gyflym ar-lein

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.wrexham.gov.uk/welsh/online_w/eforms/pothole.htm “] DWEDWCH WRTHYM AM GEUDWLL [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Wrexham town centre Efallai eich bod yn cerdded heibio’r tirnod hwn yn Wrecsam bob dydd… ond ydych chi’n gwybod y stori tu cefn iddo?
Erthygl nesaf Mae cwpan y byd yn dod i Tŷ Pawb... Mae cwpan y byd yn dod i Tŷ Pawb…

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da
Pobl a lleDigwyddiadauFideo

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da

Hydref 20, 2026
Ty Pawb and Pittsburgh University
Pobl a lle

Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr

Hydref 12, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
DigwyddiadauDatgarboneiddio WrecsamFideo

Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English