Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Efallai eich bod yn cerdded heibio’r tirnod hwn yn Wrecsam bob dydd… ond ydych chi’n gwybod y stori tu cefn iddo?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Efallai eich bod yn cerdded heibio’r tirnod hwn yn Wrecsam bob dydd… ond ydych chi’n gwybod y stori tu cefn iddo?
Pobl a lle

Efallai eich bod yn cerdded heibio’r tirnod hwn yn Wrecsam bob dydd… ond ydych chi’n gwybod y stori tu cefn iddo?

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 12, 2018 12:34 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Wrexham town centre
RHANNU

Rwy’n siŵr eich bod i gyd wedi sylwi arno, ond faint ohonoch sydd wedi holi amdano? Efallai bod eich plant wedi gofyn “pam bod y dynion yna ar bolyn wedi plygu?” neu’n syml “beth ydy hwnne?”

Cynnwys
  • Cefndir
  • Ond pam mae o yno?
  • Effaith mawr ar fywydau pobl
  • Pwysig i bobl Wrecsam
  • Dathlu pwy ydyn ni

Rwy’n siarad am gerflun Y Bwa ar Stryt yr Arglwydd wrth gwrs. Dyma ychydig o wybodaeth gefndir am ‘Y Bwa’.

Cefndir

Cafodd y bwa ei ddadorchuddio ar 2 Chwefror 1996 gan y Cyng Michael Morris, Maer Wrecsam ar y pryd.

Mae’n dangos glöwr a gweithiwr dur ar blinth brics, a’u traed ar led ar 2 fwa dur. Maent wedi ymestyn yn llawn, y ddau yn ceisio plygu’r bwa i gwrdd yn y pen uchaf.

Noddir gan Asiantaeth Datblygu Cymru, Cyd-ffederasiwn Masnach Dur Haearn, Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Ar y gwaelod mae yna gerdd ddwyieithog gan Myrddin ap Dafydd yn dangos llafur gwaith llaw mewn pennill.

Problem gyda cheudwll? Dwedwch wrthym ni ar-lein

Ond pam mae o yno?

Mae pyllau glo yn rhan sylweddol o hanes Wrecsam mor gynnar â’r 14 ganrif pan wnaeth y Burgesses o Holt warchod eu hawl i gloddio am lo yng ‘ngwastraff’ Brymbo a Choedpoeth.

Yn ystod yr 17eg ganrif, cynyddodd y galw am lo wrth i nifer fwy o dai gael simneiau ac yna yn y 18fed ganrif cynyddodd hyd yn oed yn fwy wrth i ddiwydiannau sefydledig fel gwaith haearn Bersham ddechrau defnyddio glo.

Yn y 19eg ganrif, roedd rheilffyrdd yn rhaglfaenu ‘oes aur’ glo gan y defnyddiwyd i wneud y rheiliau haearn a locomotifau stêm.

Gwybodaeth bellach am hanes glo yn Wrecsam.

Mae gwaith dur hefyd yn bwysig iawn i’n hanes lleol ac roedd Brymbo yn leoliad o waith dur pwysig yn genedlaethol, ac yn cael ei ystyried fel ‘calon y gymuned’ nes iddo gau yn 1990.

Effaith mawr ar fywydau pobl

Nid yw’r effaith ar bobl leol ar ôl y cau yn rhywbeth y dylid ei liwio.

Mae’r pentrefi yn rhedeg o’r gogledd i’r de o Brymbo a Llai i lawr i’r Waun, Fron ac Acrefair i gyd yn ymwneud â’r diwydiannau trwm.

Gyda’r cau, roedd yn rhaid i’r cymunedau hunan-gynhaliol hyn ddod o hyd i rôl newydd yn y byd, gyda llawer o bobl yn dewis gadael yr ardal a dod o hyd i waith yn bellach i ffwrdd.

Roedd cymunedau cryf wedi eu gwahanu a chymerodd amser maith i’w hadfer.

Pwysig i bobl Wrecsam

Y cysylltiadau cryf hyn i’n hanes lleol arweiniodd at greu’r cerflun yn 1996.

Meddai Jonathon Gammond, Swyddog Dehongli a Mynediad yn Amgueddfa Wrecsam: “mae gan y rhan fwyaf o drefi enghraifft o’r ‘gwych a’r da’ yn sefyll ar bedestal yn edrych i lawr ar bobl yn mynd heibio. Nid Wrecsam.

“Yn hytrach, mae’r dref wedi dewis dathlu bywydau dau unigolyn cyffredin, y ddau yn cael eu dangos ar lefel palmant, lle gallwn edrych ym myw eu llygaid. Maent yn gweithio’n galed, yn ennill cyflog a ddim yn disgwyl cydnabyddiaeth. Mae hynny’n dweud wrthych beth sy’n bwysig i bobl Wrecsam.”

Dathlu pwy ydyn ni

Ychwanegodd Jonathon: “Oni fyddai’n wych dathlu mwy o weithwyr y gorffennol a’r presennol, mewn cerfluniau o amgylch y dref. Ar gyfer heddiw, byddwn yn dewis rhywun sy’n trin gwallt, tatŵist ac ymgynghorydd canolfan alwadau yn Moneypenny.”

Os hoffech ddysgu mwy am yr hanes lleol, ewch draw i’r amgueddfa lle mae yna arddangosfa yn y prif oriel yn canolbwyntio ar Brymbo. Hefyd, yn yr hippodrome, gall ymwelwyr wylio ffilm newydd am dreftadaeth glofa Wrecsam.

Felly, gobeithio eich bod nawr yn deall ychydig mwy am Y Bwa ac os bydd eich plant yn gofyn am “y dynion ar y polyn wedi plygu”, bydd gennych ateb llawer gwell iddynt.

Problem gyda cheudwll? Dwedwch wrthym ni yn hawdd ac yn gyflym ar-lein

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.wrexham.gov.uk/welsh/online_w/eforms/pothole.htm “] DWEDWCH WRTHYM AM GEUDWLL [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol veterans housing building Sut mae ein cyn-filwyr yn gyrru ymlaen?
Erthygl nesaf wrexham ceiriog valley app Rhowch eich sgidiau cerdded am eich traed… mae eich ap llwybr treftadaeth yma!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Occupational Therapy Week poster
Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Hydref 1, 2026
Wrecsam v oxford
Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd
Arall Pobl a lle
Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi
Arall Pobl a lle
Hydref 1, 2026
Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Pobl a lle
Hydref 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

the longest yarn
DigwyddiadauPobl a lle

Dilynwch y pabïau i ‘The Longest Yarn’

Medi 29, 2026
Baby Brave i ddathlu albwm cyntaf arloesol gyda pharti lansio yn Wrecsam
Pobl a lle

Baby Brave i ddathlu albwm cyntaf arloesol gyda pharti lansio yn Wrecsam

Medi 29, 2026
Dal dwylo
ArallPobl a lle

Rydyn ni’n chwilio am is-gadeirydd ar gyfer ein panel maethu – allech chi fod yr un?

Medi 29, 2026
Cystadleuaeth Dylunio Cymeriad
Busnes ac addysgDigwyddiadauPobl a lle

Lansio cystadleuaeth gelf i blant wrth i ddathliadau’r Flwyddyn o Ryfeddod barhau

Medi 29, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English