Mae gennym ddwy swydd wag ar gyfer Cynorthwywyr Gwybodaeth i Ymwelwyr sy’n medru’r Gymraeg ar gael yn awr.
Wedi’u lleoli yn y Ganolfan Ymwelwyr ar Stryt Caer, bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cefnogi’r rheolwr manwerthu newydd o ddydd i ddydd gan gynnig ystod o wasanaethau twristiaeth yn amrywio o gymorth busnes lletygarwch, trefnu digwyddiadau, a gweithio gyda Chroeso Cymru i hyrwyddo’r sir fel cyrchfan.
Yr oriau yw 28 awr yr wythnos gan gynnwys rhai dyddiau Sadwrn.
Mae’r ganolfan, sydd ar agor yn awr (ond yn bwriadu ailagor yn llawn ym mis Tachwedd) yn parhau i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf, mapiau, newyddion am ddigwyddiadau a thaflenni gwybodaeth leol. Yn ogystal â hyn, mae rheolwr newydd wedi’i recriwtio ar gyfer y ganolfan, o gefndir manwerthu a bwyd / diod lleol cryf, a bydd hyn yn amlwg yn ddyddiol yn y ganolfan.
Bydd y ganolfan yn gweithredu fel siop un alwad ar gyfer ymwelwyr a busnesau yn y sector lletygarwch i ganfod gwybodaeth ac i gael cymorth busnes.
Bydd y swyddi newydd ar gyfer siaradwyr Cymraeg yn addas i eiriolwyr gwybodus, hwyliog a brwdfrydig ar gyfer y sir. Wedi’u lleoli yn y Ganolfan i Ymwelwyr ar Stryt Caer, bydd y rolau’n cynnig y cyfle i groesawu ymwelwyr i ganol y dref, cefnogi digwyddiadau bwyd a diod a hyrwyddo Wrecsam fel lleoliad gwych i ymweld ag ef.
Yn ôl yn 2009, fe roddodd UNESCO deitl Safle Treftadaeth y Byd i Ddyfrbont a Chamlas Pontcysyllte, gan drawsnewid y safle – ynghyd â sector twristiaeth Wrecsam- dros nos i economi dros £100m. Dros ddegawd yn ddiweddarach ac ochr yn ochr â hyn, mae twf a buddsoddiad yn sector twristiaeth Wrecsam wedi bod yn drawiadol gan arwain at gais am Ddinas Diwylliant yn 2025 a denu rhagor o sylw rhyngwladol gydag Americanwyr yn rheoli Clwb Pêl-Droed Wrecsam yn awr.
Mae Joe Bickerton, Rheolwr Cyrchfan yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cefnogi twristiaeth ar draws y Fwrdeistref Sirol a Gogledd Ddwyrain Cymru ac yn gweld y ganolfan newydd fel elfen allweddol o’r sector twristiaeth sy’n tyfu yn Wrecsam ar gyfer y dyfodol. Dywedodd, “Mae Wrecsam wedi wynebu gwelliant o ran twf twristiaeth ers dros ddegawd yn awr, felly mae’r cyfle i ymuno â’r tîm a gweithio yn y ganolfan newydd i ymwelwyr yn un cyffrous iawn a bydd yn cynnig cyfle i rannu eich brwdfrydedd am ein hardal a chefnogi busnesau lleol.
“Mae goresgyn yr heriau a wynebwyd yn 2020 ac adfer wedi hynny yn golygu bod darparu cefnogaeth barhaus ar gyfer y diwydiant twristiaeth wedi bod yn allweddol. Y gobaith yw y bydd y ganolfan newydd a’n cefnogaeth barhaus a’n gwaith hyrwyddo, ynghyd â’r rhaglen ddigwyddiadau, yn cynyddu nifer yr ymwelwyr yn 2023 – ynghyd â’r amlygiad rhyngwladol anhygoel y mae Wrecsam yn ei gael ar hyn o bryd a fydd yn darparu buddion ychwanegol i’n cymuned.”
I wneud cais am swydd fel Cynorthwy-ydd Canolfan Ymwelwyr Wrecsam, cliciwch yma.
4 Tachwedd yw’r dyddiad cau.
HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI