Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal ymgynghoriad ar hyn o bryd ynghylch cyflwyno cyfyngiadau 20 mya ar strydoedd a ffyrdd prysur mewn cymunedau yng Nghymru.
Maent yn credu y byddai cyflwyno cyfyngiad o 20 mya ar ffyrdd preswyl a strydoedd prysur i gerddwyr ar draws Cymru yn:
- Lleihau’r perygl a difrifoldeb anafiadau o ganlyniad i wrthdrawiadau rhwng ceir a defnyddwyr ffyrdd diamddiffyn
- Annog mwy o bobl i feicio a cherdded
- Gwneud Cymru yn fwy deniadol i’n cymunedau
- Creu manteision iechyd corfforol ac iechyd meddwl.
Fe’ch gwahoddir i roi eich barn ar y cynigion hyn ar-lein neu drwy’r post.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cynhyrchu Cwestiynau ac Atebion defnyddiol am y cynigion a gallwch eu gweld yma.
Meddai’r Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Pa un ai eich bod yn credu bod hyn yn syniad da ai peidio, cymerwch amser i roi eich barn er mwyn cael ymateb mor fawr â phosibl.”
Y dyddiad cau yw 1 Hydref a gallwch gymryd rhan yma.
Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.
TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN