Os ydych chi neu eich plentyn yn mwynhau gwneud lluniau, sut hoffech chi ddod o hyd i’ch gwaith mewn miloedd o byrsiau, waledi a phocedi ar draws y fwrdeistref sirol?

Mae’n amser gweddnewid cardiau llyfrgell Wrecsam, ac rydym yn rhoi’r cyfle i chi eu dylunio nhw!

Mae tri math gwahanol o gerdyn llyfrgell, ieuenctid (o dan 12 oed), oedolyn ifanc (12-15), ac oedolyn, ac rydym yn chwilio am ddyluniadau bywiog a chyffrous i bob un.

GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

Mae’r gystadleuaeth ar agor i bob oed a gallwch gyflwyno dyluniad i un, dau neu bob un. Yr unig reolau yw, bod dim geiriau, dim ond lluniau ac mae’n rhaid i’r dyluniad fod yn llorweddol.

Mae modd i chi ddylunio eich cerdyn gyda llaw, neu’n ddigidol, ond mae’n rhaid ei gyflwyno ar bapur A4 i’ch llyfrgell leol. A chofiwch roi eich enw a’ch manylion cyswllt ar y cefn.

Gair i Gall: Ceisiwch lynu at bum lliw a chadwch eich cynllun yn syml!

Mae gennych tan 30 Tachwedd i fynd â’ch dyluniad draw i’ch llyfrgell leol. Pob lwc!

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau
COFRESTRWCH FI