Ym mis Gorffennaf, lansiodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad yn gofyn am safbwyntiau ynghylch lleihau’r defnydd o blastig untro ac rydym bellach wedi anfon ein hymateb iddynt.
Mae’r ymateb wedi ei ymdrin fel mater busnes brys a gwnaethpwyd penderfyniad dirprwyedig gan yr Aelod Arweiniol Amgylchedd a Chludiant er mwyn sicrhau bod yr ymateb wedi cyrraedd Llywodraeth Cymru erbyn y dyddiad cau sef 22 Hydref.
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
Mae’r ymgynghoriad yn cynnig cyflwyno is-ddeddfwriaeth i atal busnesau rhag darparu eitemau plastig defnydd untro i ddefnyddwyr yng Nghymru, waeth os yw’r busnesau hyn yn bwriadu codi ffi ar gyfer yr eitemau hyn neu beidio.
Yr eitemau hyn yw:
- Ffyn cotwm plastig
- Cytleri
- Platiau
- Troellwyr diodydd
- Gwellt yfed
- Ffyn balwnau
- Cynwysyddion bwyd wedi’u gwneud o bolystyren wedi’i ehangu
- Cwpanau wedi eu gwneud o bolystyren wedi’i ehangu
Mae’r ymateb yn dangos ein bod o blaid y cynnig ond hefyd yn cydnabod yr effaith sylweddol y byddai’n ei gael ar ein cymunedau a’r amgylchedd ond yn ogystal mae’n nodi’r pryderon ynghylch yr effaith ar fusnesau lleol (e.e. gwneuthurwyr y nwyddau hyn) ac ar fanwerthwyr a’r sector lletygarwch sy’n defnyddio’r eitemau hyn.
Mae diwydiant a masnachwyr wedi cael eu heffeithio’n ddrwg gan pandemig y Covid-19, ac rydym wedi gofyn i Lywodraeth Cymru ystyried yn ofalus amseru’r is-ddeddfwriaeth fel lleihau cynhyrchiad neu gynnydd yng nghostau rhedeg a allai fod yn niweidiol i rai busnesau.
Bellach mae angen digon o amser i fusnesau ddatblygu cynnyrch/ datrysiadau amgen i ddefnyddio plastig untro, ac rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru edrych ar gyllid i gefnogi busnesau ddatblygu’r cynnyrch hyn.
Y bwriad yw cael gwared ar ddefnyddio plastig untro
Meddai’r Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym wedi cynyddu faint o blastig rydym yn ei ailgylchu ond ein bwriad yw cael gwared ar ddefnyddio plastig untro er mwyn darparu economi sydd ddim yn ddibynnol ar ddefnyddio adnoddau i’w wneud yn fwy cynaliadwy os ydym eisiau cyflawni dim gwastraff.
“I wneud hyn mae’n rhaid i ni roi sylw at yr hyn yr ydym yn ei ddefnyddio, beth ydym yn ei wneud gyda hyn ac yn bwysicach oll pa effaith mae hyn yn ei gael ar ein hamgylchedd. Fel yr ydym wedi gweld ar y Teledu a’r Cyfryngau, mae plastig o unrhyw fath yn broblem byd-eang, a ni allwn ni fel gwlad unigol ei ddatrys ond gallwn chwarae ein rhan i leihau’r effaith ar Wrecsam a Chymru ar y broblem
“Gobeithiwn y bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb yn gadarnhaol i ganlyniadau’r ymgynghoriad ac yn ystyried maint sylweddol y gwaith sydd angen ei wneud i atal unrhyw ganlyniadau ariannol i fasnachwyr a busnesau tebyg.”
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG