Christmas

Bydd hud y Nadolig yn dechrau ar 24 Tachwedd gyda’r goleuadau yn cael eu cynnau.

Mae’r digwyddiad yn dechrau ar Sgwâr y Frenhines am 4:15 ac fe wahoddir teuluoedd i ymgynnull o amgylch y goeden Nadolig hardd er mwyn cynnau’r goleuadau.  Bydd band pres a chôr cymunedol yn arwain i ganu carolau.  Mae croeso i bawb ymuno gyda detholiad o ffefrynnau Nadoligaidd a fydd yn creu naws hudolus.

Cymorth gyda chostau byw – hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi, lleihewch eich biliau, gofalwch am eich iechyd.

Am 4:50 bydd band pres a diddanwyr stryd yn arwain teuluoedd drwy ganol y dref lle gall y plant helpu i gynnau’r goleuadau Nadolig, fesul stryd, wrth iddynt arwain y ffordd at Ddôl yr Eryrod.

Mae croeso i blant ddod â ffon hud i’r digwyddiad, neu gallant wneud un yn y gweithdy yn Nhŷ Pawb ddydd Sadwrn 19 Tachwedd rhwng 12 a 3 lle gall plant greu ‘ffon hud’ i helpu i gynnau’r Goleuadau Nadolig.

Ar ôl cyrraedd Dôl yr Eryrod bydd digwyddiad terfynol anhygoel, gyda Abz Love gynt o 5ive, a Passmore, Khalysys, Redd a Belle  Bydd dwy awr o adloniant byw, ac yna’r Goleuadau terfynol yn cael eu cynnau am 7pm.

Mae angen JavaScript ar y sioe sleidiau hon.

Bydd yn ddigwyddiad arbennig iawn i nodi dechrau tymor y Nadolig.  Bydd y goleuadau a’r goeden yn ychwanegu naws Nadoligaidd i Wrecsam gan ei wneud yn lleoliad arbennig i wneud ychydig o siopa Nadolig.

Dywedodd Josh Price, Rheolwr Canolfan Dôl yr Eryrod, “Rydym yn falch o gynnal digwyddiad Cynnau Goleuadau Nadolig Swyddogol Wrecsam ac yn edrych ymlaen at groesawu teuluoedd a chyfeillion i Ganolfan Siopa Dôl yr Eryrod.”

Peidiwch ag anghofio bod yr holl feysydd parcio yng nghanol y dref sy’n cael eu rhedeg gan y Cyngor (ar wahân i Tŷ Pawb) yn rhad ac am ddim ar ôl 11am.

Mae dyddiad y Farchnad Nadolig Fictoraidd wedi’i gadarnhau fel dydd Mercher 7 Rhagfyr a gellir dysgu mwy am hynny yma.

O ran costau byw, gallai gwneud yn siwr eich bod yn hawlio yr holl gymorth a chefnogaeth y mae gennych hawl iddo wneud gwahaniaeth mawr.

HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI