Mae ’na bobl arbennig yn ein cymuned leol ni…
Am nifer o resymau, efallai nad ydyn nhw’n gallu gwneud y pethau maen nhw’n eu mwynhau… maen nhw angen ychydig o help a chefnogaeth.
Beth alla’ i ei wneud?
Os oes gennych chi ambell awr yn rhydd bob wythnos, fe allech chi eu defnyddio nhw i fod yn weithiwr cefnogi hunangyflogedig yn ein Tîm Cefnogaeth Gymunedol.
Os ydych chi’n meddwl nad ydi’r profiad gennych chi… mae’n iawn – fe gewch chi’ch hyfforddi gennym ni!
Os nad ydych chi’n gyrru cerbyd, mae hynny’n iawn hefyd. Mae’n well gennym ni i bobl ddefnyddio cludiant cyhoeddus beth bynnag.
Y cyfan sydd ei angen gennych chi ydi ymrwymiad a natur ofalgar.
Beth fyddai angen i mi ei wneud?
Fel gweithiwr cefnogi, byddwch yn helpu pobl i fwynhau eu bywydau. Byddwch yn eu helpu i ddal i fod yn annibynnol, fel bod eu bywydau’n ymwneud â’r pethau sy’n bwysig iddyn nhw.
Gall hyn gynnwys gweithgareddau hamdden, addysg bellach neu eu helpu i gysylltu â hen ffrindiau eto.
Mae ein gweithwyr cefnogi’n gweithio gyda phobl hŷn, pobl sydd wedi cael diagnosis dementia, oedolion sydd â salwch iechyd meddwl neu anawsterau dysgu, a phlant sy’n newid o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion.
Dau yn siwtio i’r dim?
Beth sy’n dda am y swydd yma ydi ein bod ni’n ceisio rhoi gofalwyr gyda phobl sydd â’r un hobïau a diddordebau. Felly, mewn egwyddor, fe fyddwch chi’n gwneud pethau y bydd y ddau ohonoch chi’n eu mwynhau.
Felly, ambell awr yr wythnos?
Hunangyflogedig ydi’r swydd… gallwch chi reoli am sawl awr rydych chi’n gweithio! Gall fod yn 3 awr yr wythnos neu’n 37… chi sy’n dewis.
Mae gen i ddiddordeb… sut ydw i’n cael gwybod mwy?
Gallwch ffonio’r Tîm Cefnogaeth Gymunedol ar 01978 298429.
DWI ISIO MYNEGI FY MARN DOES DIM OTS GEN I