Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Enillwyr Gwobr y Faner Werdd – 8 man gwyrdd yn Wrecsam yn cadw eu statws
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
good to grow
Da i Dyfu
Busnes ac addysg Pobl a lle
PlayDay
Diwrnod Chwarae Wrecsam 2025
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Arall Fideo Y cyngor
Plastic Free July
Ymunwch â’r miliynau sy’n cymryd rhan yn Gorffennaf Heb Blastig
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
housing repairs van
Lleihau’r ôl-groniad atgyweiriadau yn sylweddol, gan nodi cynnydd mawr wrth ddarparu gwasanaethau i Gyngor Wrecsam
Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Enillwyr Gwobr y Faner Werdd – 8 man gwyrdd yn Wrecsam yn cadw eu statws
Y cyngor

Enillwyr Gwobr y Faner Werdd – 8 man gwyrdd yn Wrecsam yn cadw eu statws

Diweddarwyd diwethaf: 2020/10/14 at 12:37 PM
Rhannu
Darllen 3 funud
Acton Park View Scenery Bench
RHANNU

Mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi datgelu enillwyr Gwobr y Faner Werdd eleni – y marc ansawdd rhyngwladol o barc neu fan gwyrdd o safon – ac rydyn ni’n falch iawn bod 8 ardal yn Wrecsam wedi cadw eu statws Baner Werdd.

Bydd Parc Acton, Parc Gwledig Dyfroedd Alun, y Parciau, Parc Ponciau, Parc Gwledig Tŷ Mawr a Mynwent Wrecsam ynghyd ag enillwyr y wobr gymunedol, Maes y Pant a Phlas Pentwyn, i gyd yn chwifio’u baneri am y 12 mis nesaf.

Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.

Mae baneri’n cael eu rhoi i ardaloedd sydd â chyfleusterau gwych i ymwelwyr, safonau amgylcheddol uchel ac yn ymrwymo i ddarparu mannau gwyrdd o safon.

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’n gamp arbennig i’r holl ardaloedd fod wedi cadw eu Statws Baner Werdd yn ystod cyfnod mor heriol. Hoffwn i ddiolch yn fawr i bawb sydd wedi bod ynghlwm â nhw gan fod yr ardaloedd yma hyd yn oed yn bwysicach yn ystod y cyfyngiadau clo lleol wrth i bobl ddewis ymweld â nhw i wneud ymarfer corff a mwynhau’r tirlun hyfryd sydd gennym ni yn Wrecsam.”

Mae 224 o barciau a mannau gwyrdd ar draws y wlad wedi derbyn anrhydedd Gwobr y Faner Werdd a Gwobr Gymunedol y Faner Werdd – o barciau gwledig a gerddi ffurfiol i randiroedd, coetiroedd a mynwentydd.

Mae rhaglen Gwobr y Faner Werdd yn cael ei chynnal yng Nghymru gan yr elusen amgylcheddol, Cadwch Gymru’n Daclus, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Bu arbenigwyr mannau gwyrdd annibynnol un gwirfoddoli eu hamser ddechrau’r hydref i feirniadu’r safleoedd ar wyth maen prawf pendant, gan gynnwys bioamrywiaeth, glendid, rheolaeth amgylcheddol a chynnwys y gymuned.

Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd y Faner Werdd i elusen Cadwch Gymru’n Daclus:  “Mae’r pandemig wedi dangos pa mor bwysig ydi parciau a mannau gwyrdd o safon i’n cymunedau ni. I nifer ohonom ni, maen nhw wedi bod yn fendith ar stepen ein drws ac yn dda i’n hiechyd a’n lles.

“Mae’r 224 o faneri a fydd yn chwifio eleni’n brawf o waith caled staff a gwirfoddolwyr sydd wedi cynnal safonau rhagorol o dan yr amgylchiadau mwyaf heriol. Hoffwn i longyfarch a diolch i bob un ohonyn nhw am eu hymroddiad eithriadol.”

Mae rhestr lawn o enillwyr o wobr i’w gweld ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus https://www.keepwalestidy.cymru/cy

Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.

Lawrlwythwch yr ap GIG

Rhannu
Erthygl flaenorol Layout of a house Nid yw trigolion Cymru yn gymwys am y Grant Cartrefi Gwyrdd – peidiwch â chael eich twyllo
Erthygl nesaf Greyhound Inn Cyflwyno Hysbysiad Cau i’r Greyhound Inn (13.10.2020)

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

good to grow
Da i Dyfu
Busnes ac addysg Pobl a lle Gorffennaf 14, 2025
PlayDay
Diwrnod Chwarae Wrecsam 2025
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Gorffennaf 14, 2025
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Arall Fideo Y cyngor Gorffennaf 14, 2025
Plastic Free July
Ymunwch â’r miliynau sy’n cymryd rhan yn Gorffennaf Heb Blastig
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Gorffennaf 11, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

PlayDay
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Diwrnod Chwarae Wrecsam 2025

Gorffennaf 14, 2025
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
ArallFideoY cyngor

Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam

Gorffennaf 14, 2025
housing repairs van
Y cyngor

Lleihau’r ôl-groniad atgyweiriadau yn sylweddol, gan nodi cynnydd mawr wrth ddarparu gwasanaethau i Gyngor Wrecsam

Gorffennaf 11, 2025
How we can recycle your garden and food waste better, safer and cleaner than before
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Sut y gallwn ailgylchu eich gwastraff gardd a bwyd yn well, yn fwy diogel a glanach nag o’r blaen

Gorffennaf 11, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English