Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
newyddion.wrecsam.gov.uk
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Nid yw trigolion Cymru yn gymwys am y Grant Cartrefi Gwyrdd – peidiwch â chael eich twyllo
Rhannu
Notification Show More
Latest News
Environment
Parti Coed Parc Acton
Y cyngor Pobl a lle
Register to vote
Eisiau ennill taleb gwerth £50?
Pobl a lle Y cyngor Yn cael sylw arbennig
Lego
Pencampwr LEGOMASTER Lego Channel 4 yn dod i Wrecsam!
Pobl a lle Y cyngor Yn cael sylw arbennig
Yma o hyd mural
Dod at Cyngerdd Kings of Leon ac yn ymweld â Wrecsam am y tro cyntaf? Beth i’w wneud a ble i fynd…
Pobl a lle Yn cael sylw arbennig
Kings of Leon concert in Wrexham
Cyngerdd Kings of Leon – Cau Ffyrdd Arfaethedig dydd Sadwrn a dydd Sul (27 a 28 Mai)
Arall Yn cael sylw arbennig
newyddion.wrecsam.gov.uk
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
newyddion.wrecsam.gov.uk > Blog > Arall > Nid yw trigolion Cymru yn gymwys am y Grant Cartrefi Gwyrdd – peidiwch â chael eich twyllo
ArallYn cael sylw arbennig

Nid yw trigolion Cymru yn gymwys am y Grant Cartrefi Gwyrdd – peidiwch â chael eich twyllo

Diweddarwyd diwethaf: 2020/10/13 at 9:40 AM
Rhannu
Darllen 5 funud
Layout of a house
RHANNU

Mae Safonau Masnach Wrecsam yn rhybuddio trigolion am dwyll yn ymwneud â Grant Cartrefi Gwyrdd y llywodraeth, sydd ond ar gael i drigolion yn Lloegr.

Cynnwys
“Nid yw ar gael i unrhyw un yng Nghymru”Sut mae’r twyll yn gweithioRhywfaint o gyngorSut i ddelio â negeseuon e-bost amheusAdrodd am drosedd seiberCyngor cyffredinol ar sgamiau

Mae’r grant yn rhoi talebau i bobl sy’n byw yn Lloegr – gwerth £5,000 a £10,000 – i helpu gyda gwelliannau i’r cartref.

Gan fod y grant wedi derbyn sylw eang yn ddiweddar, mae ofn y bydd pobl yn bod yn rhy barod i wrando pan fydd y twyllwyr yn cysylltu â nhw ac yn anghofio meddwl a yw’r hyn sy’n cael ei gynnig yn ddilys.

Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.

- Cofrestru -
Get our top stories

“Nid yw ar gael i unrhyw un yng Nghymru”

Dywedodd y Cyng. Hugh Jones, Aelod Arweiniol Pobl, Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae’r grant hwn ar gael i bobl sy’n byw yn Lloegr yn unig, felly os bydd rhywun yn cysylltu â chi am y Grant Cartrefi Gwyrdd yng Nghymru, rydych yn sicr yn cael eich twyllo. Yn syml iawn, nid yw’r grant hwn ar gael i unrhyw un yng Nghymru.

“Pryd bynnag y bydd rhywbeth yn cael ei gynnig i chi, cymerwch ddigon o amser i wneud eich ymchwil a’i wirio’n drwyadl. Peidiwch a gadael i unrhyw un eich rhuthro i wneud penderfyniad byrbwyll y byddwch yn ei ddifaru, a holwch ffrindiau a theulu am gyngor. Bydd gwneud hyn yn eich helpu i gadw’n ddiogel.”

Sut mae’r twyll yn gweithio

Gan mai dim ond nifer cyfyngedig o’r talebau £5,000 a £10,000 sydd ar gael, mae twyllwyr wedi bod yn defnyddio hyn i roi pwysau ar bobl drwy ddweud y byddant yn colli cyfle os na fyddant yn gweithredu’n gyflym.

Mae’r twyll wedi digwydd drwy wahanol ddulliau ar draws y DU yn ddiweddar.

Mae rhai pobl wedi derbyn galwadau ffôn ac mae’r galwr wedi rhoi pwysau arnynt i roi eu manylion banc. Mae llu o negeseuon testun ac e-bost wedi cael eu hanfon at bobl hefyd yn gofyn iddynt drosglwyddo gwybodaeth bersonol.

Mae galw ar y stepen drws hefyd yn broblem fawr, gydag unigolion twyllodrus yn dod i gartrefi pobl i gynnig dêl iddynt. Cofiwch, yn anaml iawn – os o gwbl – y bydd masnachwyr dilys yn galw’n ddirybudd yn eich eiddo.

Rhywfaint o gyngor

Mae’n bwysig iawn dilyn y tri cham hyn wrth benderfynu a yw’n ddiogel i chi wario’ch arian neu roi eich gwybodaeth bersonol:

STOPIWCH – Gall cymryd munud neu ddwy i feddwl cyn penderfynu gwario arian neu ddarparu gwybodaeth bersonol eich cadw chi’n saff.

HERIWCH – A allai fod yn ffug? Mae’n iawn i chi wrthod neu anwybyddu cynigion o’r fath. Dim ond troseddwyr fydd yn ceisio’ch rhuthro i wneud penderfyniad neu’n codi braw arnoch.

AMDDIFFYNNWCH – Os ydych chi’n meddwl eich bod chi wedi’ch twyllo cysylltwch â’ch banc yn syth a rhowch wybod i Action Fraud.

Sut i ddelio â negeseuon e-bost amheus

Creodd y Ganolfan Seiberddiogelwch Cenedlaethol (NCSC), Wasanaeth i Adrodd am Negeseuon E-bost Amheus, sy’n ei gwneud yn hawdd i bobl anfon unrhyw negeseuon e-bost amheus atynt.

Yna bydd yr NCSC yn dadansoddi’r e-bost ac unrhyw wefannau sy’n gysylltiedig â’r neges.

Os ydych chi wedi derbyn e-bost nad ydych yn hollol siŵr amdano, gallwch ei anfon at y Gwasanaeth Adrodd am Negeseuon E-bost Amheus drwy anfon e-bost i report@phishing.gov.uk

Adrodd am drosedd seiber

Os ydych chi’n credu eich bod wedi dioddef twyll neu drosedd seiber, dylech adrodd am hyn i Action Fraud drwy eu gwefan neu drwy ffonio 0300 123 2040.

Action Fraud yw’r Ganolfan Genedlaethol Adrodd am Sgamiau a Throseddau Seiber yn y DU.

Cyngor cyffredinol ar sgamiau

Gellir cael Cyngor i Ddefnyddwyr gan Wasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth. Gellir cysylltu â nhw ar 0808 223 1144 (Cymraeg) neu 0808 223 1133 (Saesneg).

Arhoswch yn ddiogel ac yn ymwybodol o sgamiau.

Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.

Lawrlwythwch yr ap GIG

Rhannu
Erthygl flaenorol Best Dressed Window Amser ar ôl i roi cynnig ar gystadleuaeth y ffenest orau wedi’i haddurno
Erthygl nesaf Acton Park View Scenery Bench Enillwyr Gwobr y Faner Werdd – 8 man gwyrdd yn Wrecsam yn cadw eu statws

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Environment
Parti Coed Parc Acton
Y cyngor Pobl a lle Mehefin 2, 2023
Register to vote
Eisiau ennill taleb gwerth £50?
Pobl a lle Y cyngor Yn cael sylw arbennig Mai 24, 2023
Lego
Pencampwr LEGOMASTER Lego Channel 4 yn dod i Wrecsam!
Pobl a lle Y cyngor Yn cael sylw arbennig Mai 24, 2023
Yma o hyd mural
Dod at Cyngerdd Kings of Leon ac yn ymweld â Wrecsam am y tro cyntaf? Beth i’w wneud a ble i fynd…
Pobl a lle Yn cael sylw arbennig Mai 23, 2023

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Register to vote
Pobl a lleY cyngorYn cael sylw arbennig

Eisiau ennill taleb gwerth £50?

Mai 24, 2023
Lego
Pobl a lleY cyngorYn cael sylw arbennig

Pencampwr LEGOMASTER Lego Channel 4 yn dod i Wrecsam!

Mai 24, 2023
Yma o hyd mural
Pobl a lleYn cael sylw arbennig

Dod at Cyngerdd Kings of Leon ac yn ymweld â Wrecsam am y tro cyntaf? Beth i’w wneud a ble i fynd…

Mai 23, 2023
Kings of Leon concert in Wrexham
ArallYn cael sylw arbennig

Cyngerdd Kings of Leon – Cau Ffyrdd Arfaethedig dydd Sadwrn a dydd Sul (27 a 28 Mai)

Mai 23, 2023
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Fy Niweddariadau
  • Hysbysiadau awtomatig
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Cofrestru
newyddion.wrecsam.gov.uk
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Cofrestru
Prif storiau - tanysgrifwch!

Peidiwch â methu’r newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Sign up
Rhowch gynnig arno! Gallwch ddatdanysgrifio ar unrhyw adeg.

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English