Guildhall Wrexham

Mae Gwasanaeth Cynllunio Cyngor Wrecsam yn pwysleisio pwysigrwydd cadw at reolau cynllunio ar ôl i berchennog tir lleol gael ei erlyn gan y cyngor am fethu â chydymffurfio â thelerau Rhybudd Gorfodi.

Roedd y Rhybudd yn gofyn am gael gwared ar adeilad allanol a oedd wedi’i adeiladu ar dir ar Ffordd Rhiwabon, Rhiwabon heb ganiatâd cynllunio.

Cafodd y perchennog tir ei ddyfarnu’n euog yn Llys yr Ynadon Wrecsam lle cafodd ddirwy o £1,000 ynghyd â chostau.

Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Cynllunio: “Mae’r erlyniad hwn yn amlygu pwysigrwydd dilyn rheolau cynlluniau, ac mae peidio â chydymffurfio â thelerau Rhybudd Gorfodi yn rhywbeth rydym yn ei gymryd yn ddifrifol iawn.

“Mae’n bwysig fod tirfeddianwyr yn dilyn rheoliadau cynllunio ac adeiladu wrth wneud gwaith datblygu, a’u bod yn gweithio’n agos gyda’n swyddogion cynllunio.

Dywedodd David Fitzsimon, Prif Swyddog Cynllunio ac Economi Cyngor Wrecsam:

“Mae rheoliadau cynllunio’n helpu i warchod yr amgylchedd a’n cymunedau. Mae swyddogion yn y Tîm Cynllunio yn awyddus iawn i weithio mewn ffordd gadarnhaol gyda pherchnogion tir a rhoi cymorth i sicrhau y cedwir at y rheoliadau.

“Fodd bynnag, rhoddir ystyriaeth o ddifrif i dorri amodau ac ni fydd swyddogion yn oedi cyn cymryd camau gorfodi, gan gynnwys erlyn, pan fo’n briodol gwneud hynny.

“Byddwn yn argymell yn gryf bod perchnogion tir yn cysylltu â’r Gwasanaeth Cynllunio cyn ymgymryd ag unrhyw waith datblygu.”

Gall Gwasanaeth Cynllunio’r Cyngor eich cynghori chi os ydych chi’n ansicr ynghylch a oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer eich prosiect. Anfonwch e-bost at planning@wrexham.gov.uk neu ffoniwch 01978 298994.

Gallwch chi hefyd gael rhagor o wybodaeth ar wefan y cyngor.