Mae perchennog tir Pentre Fron Road, Coedpoeth wedi cael ei erlyn gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a’i orchymyn i dalu dirwy o £480, ynghyd â chostau o £1,260 a gordal o £192 ar ôl parhau â gwaith datblygu anawdurdodedig yn groes i ofynion Hysbysiad Stop Dros Dro.
Mae’r Cyngor wedi cyflwyno Hysbysiad Gorfodi a Hysbysiad Stop ac mae’n parhau i fonitro’r safle am unrhyw achosion pellach o fynd yn groes i reoliadau cynllunio.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd: “Rydym yn cymryd methiant i gydymffurfio â rheolau cynllunio, gan gynnwys methu â chydymffurfio â Hysbysiadau Gorfodi o ddifrif.
Dylai tirfeddianwyr ofyn am gyngor gan Swyddogion Cynllunio’r Cyngor cyn ymgymryd â gwaith datblygu i wneud yn siŵr nad ydynt yn mynd yn groes i reoliadau cynllunio, sydd yno i ddiogelu’r Fwrdeistref Sirol a’i thrigolion”.
Dywedodd David Fitzsimon, Prif Swyddog yr Economi a Chynllunio yng Nghyngor Wrecsam: “Mae rheoliadau cynllunio yn helpu i ddiogelu’r amgylchedd a’n cymunedau ac mae achosion o fynd yn groes i’r rhain yn cael eu cymryd o ddifrif. Ni fydd swyddogion yn oedi cyn cymryd camau gorfodi, gan gynnwys erlyn, lle mae’n hwylus gwneud hynny.”
“Byddwn yn argymell yn gryf bod tirfeddianwyr yn cysylltu â’r Gwasanaeth Cynllunio cyn ymgymryd ag unrhyw waith datblygu. Gall y Tîm roi cyngor os nad ydych yn siŵr a fydd angen caniatâd cynllunio ar eich prosiect.”