Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Erlyniadau Cynllunio
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Erlyniadau Cynllunio
Y cyngor

Erlyniadau Cynllunio

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 20, 2025 4:37 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
Erlyniadau Cynllunio
RHANNU

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi erlyn perchennog tir ar Ffordd Bower yn Acrefair am fethu â chydymffurfio â gofynion Hysbysiad Gorfodi. Gwrthodwyd caniatâd cynllunio i godi stablau ar y tir yn 2023. Fodd bynnag, roedd gwaith i lefelu’r tir ac i newid mynediad i gerbydau wedi digwydd heb ganiatâd cynllunio. Cyflwynwyd Hysbysiad Gorfodi ym mis Mai 2023 yn ei gwneud yn ofynnol i lefelau gwreiddiol y tir gael eu hadfer ac i gau’r fynedfa i gerbydau. Er bod ychydig o waith i gydymffurfio â’r hysbysiad wedi digwydd yn ystod 2023 a 2024, nid oedd hyn yn ddigonol i gydymffurfio’n llawn â gofynion yr Hysbysiad.

Cafodd y perchennog orchymyn i dalu dirwy o £500, £550 ar gyfer costau a thâl dioddefwr o £200. Erbyn hyn mae gwaith hefyd wedi’i wneud i fodloni gweddill gofynion yr Hysbysiad.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd: “Mae canlyniad yr achos hwn yn enghraifft arall o Dîm Gorfodi Cynllunio’r Cyngor yn ymateb yn gadarn pan fydd rheoliadau cynllunio yn cael eu torri.

Dylai tirfeddianwyr ofyn am gyngor gan Swyddogion Cynllunio’r Cyngor cyn ymgymryd â gwaith datblygu i wneud yn siŵr nad ydynt yn mynd yn groes i reoliadau cynllunio. Mewn achosion o dorri rheolau, dylai tirfeddianwyr weithredu’n brydlon i ymgymryd â gwaith i unioni hyn cyn gynted â phosibl er mwyn osgoi’r risg o erlyniad.”

Dywedodd David Fitzsimon, Prif Swyddog yr Economi a Chynllunio yng Nghyngor Wrecsam: “Mae ein Swyddogion yn ymateb yn gadarn i achosion o dorri rheolau cynllunio drwy gymryd camau gorfodi. Erlyn yw’r dewis olaf a bydd y Cyngor ond yn cymryd y cam hwn pan fydd tirfeddianwyr yn methu â chymryd camau priodol i unioni achosion o dorri rheolau cynllunio. Mae’r Cyngor yn cynnig gwasanaeth cynghori cyn ymgeisio. Gall y gwasanaeth hwn roi’r cyngor sydd ei angen ar dirfeddianwyr i’w helpu i osgoi torri rheoliadau cynllunio yn y lle cyntaf.”

Rhannu
Erthygl flaenorol Car parking Treialu Parcio a Theithio ar gyfer gemau cartref Clwb Pêl-droed Wrecsam
Erthygl nesaf Chwilio am waith? Dyma rai o'n swyddi gwag diweddaraf… Chwilio am waith? Dyma rai o’n swyddi gwag diweddaraf…

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor
Awst 18, 2026
Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 17, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Cau rheilffyrdd yn Wrecsam: Yr hyn y mae angen i deithwyr ei wybod
Pobl a lle
Awst 17, 2026
Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English