Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dewch i fwynhau’r gwyllt a chefn gwlad yn ystod Wythnos Natur Cymru yn Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Dewch i fwynhau’r gwyllt a chefn gwlad yn ystod Wythnos Natur Cymru yn Wrecsam
Y cyngorArall

Dewch i fwynhau’r gwyllt a chefn gwlad yn ystod Wythnos Natur Cymru yn Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 18, 2023 4:01 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Wrexham Acton Park Gorsedd Stones
RHANNU

Beth am ddechrau eich Gwyliau Haf yn darganfod y trysorau cudd yn eich parc gwledig lleol yn ystod Wythnos Natur Cymru.

Mae Wythnos Natur Cymru yn cynnwys teithiau cerdded natur, sgyrsiau a diwrnodau gweithgareddau ar hyd a lled Cymru, wedi’u trefnu gan amrywiaeth o sefydliadau ac unigolion sy’n dod at ei gilydd i arddangos rhyfeddodau byd natur Cymru.

Fe’i cynhelir rhwng 22 a 30 Gorffennaf, a thema Wythnos Natur Cymru eleni yw ‘Dathlu Trysorau Natur.’

Felly pa ffordd well o ddechrau’r haf na mynd allan i grwydro rhai o’n parciau gwledig a’n mannau agored, gan fwynhau ein tirweddau cyfoethog, ein cynefinoedd gwerthfawr, ein blodau prin a’n harwyr bach.

Mae’r digwyddiadau canlynol wedi’u trefnu gan ein tîm Mannau Agored a Cheidwaid Parciau Gwledig:

22 Gorffennaf 1-3pm Mae natur yn hwyl! ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun (ochr Gwersyllt): Dewch i’r awyr agored gyda Chyngor Wrecsam a dod o hyd i’r gwahanol ffyrdd y gallwch chi gael hwyl gyda natur, beth bynnag fo’r tywydd. Cyfarfod yn y Ganolfan Ymwelwyr.

26 Gorffennaf 10-12pm Tegeirianau Dirgel ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun (maes parcio ochr Llai)

Mae Dyfroedd Alun yn cynnig cynefin unigryw i amrywiaeth o rywogaethau o degeirianau, gan gynnwys rhai prin iawn fel y Dune Helleborine. Ymunwch â’r ceidwaid am daith dywys o amgylch y parc a chael mwy o wybodaeth am y blodau anhygoel hyn.

30 Gorffennaf 1-3pm Dirgelwch y Lleidr Mêl ym Mharc Acton, (wrth y parc chwarae oddi ar Rodfa Herbert Jennings, Wrecsam, LL12 7YG). Mae angen eich help ar y gwenyn!  Allwch chi ddatrys pa bryfyn sydd wedi dwyn mêl o’u cwch gwenyn? Dilynwch y llwybr o amgylch y parc a dod yn dditectif pryfed wrth i chi geisio datrys y lladrad mêl mwyaf a welodd Parc Acton erioed!” Hyd y gweithgaredd: tua 30 – 40 munud.

Meddai’r Cynghorydd Hugh Jones “Mae gennym ni dreftadaeth naturiol wych o Ddyffryn Dyfrdwy gyfoethog i ardaloedd ucheldir Mynyddoedd y Berwyn a Rhiwabon, a phopeth yn y canol! Rydym yn awyddus i ddathlu’r awyr agored ac annog pobl i ddarganfod byd natur ar garreg eu drws, yn ogystal â diogelu cynefinoedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, yn enwedig mewn ardaloedd trefol.”

Meddai Sean McHugh o Bartneriaeth Bioamrywiaeth Cymru: “Bob blwyddyn rydym ni’n dewis thema. Eleni rydym ni’n annog pobl i ddarganfod y rhywogaethau a’r cynefinoedd gwych yng Nghymru o dan ein thema: Dathlu Trysorau Natur. Rydym yn gwerthfawrogi ac yn ymhyfrydu yn rhyfeddod y byd naturiol, o’r pethau bach i’r pethau mawr; o brydferthwch plu drudwy; syfrdanu ar fawredd tirwedd Cymru neu fwynhau byd natur yn y parc lleol.

Mawr a bach, dyma ein trysorau, ein treftadaeth naturiol, a etifeddwyd gan bob cenhedlaeth i’w darganfod, ac mae’n hollbwysig ein bod yn dathlu ac yn gwarchod natur rŵan, ac yn y dyfodol”.

Wythnos Natur Cymru 2023

Cydlynir Wythnos Natur Cymru gan Bartneriaeth Bioamrywiaeth Cymru. Mae Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru yn dwyn ynghyd chwaraewyr allweddol o’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol i hyrwyddo a monitro effaith bioamrywiaeth a’r ecosystem yng Nghymru. Ariennir PBC gan Lywodraeth Cymru a’i gynnal gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

I gael mwy o fanylion am Wythnos Natur Cymru 2023 a’r calendr digwyddiadau, ewch i Bioamrywiaeth Cymru: https://www.biodiversitywales.org.uk/Wythnos-Natur-Cymru

I gael mwy o wybodaeth am y digwyddiadau hyn, cysylltwch â Jacinta.challinor@wrexham.gov.uk

Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Sgyrsiau Carbon a Hinsawdd Wrecsam – dweud eich dweud!

Dewch i fwynhau’r gwyllt a chefn gwlad yn ystod Wythnos Natur Cymru yn Wrecsam

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

Rhannu
Erthygl flaenorol 20mph Y diweddaraf am y terfyn 20mya – pa ffyrdd fydd wedi’u heithrio
Erthygl nesaf Green Flag Newyddion Gwych wrth i naw ardal sicrhau Gwobr y Faner Werdd

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn in Wrexham
Gwirfoddolwyr lleol yn helpu i adrodd stori Prydain yn y Rhyfel… pwyth fesul pwyth
Digwyddiadau Fideo Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Wrecsam letters at Erddig
Llythrennau eiconig WRECSAM yn dechrau eu pennod nesaf yn Erddig
Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Poppy field
Wrecsam yn Cofio
Digwyddiadau
Hydref 2, 2026
Occupational Therapy Week poster
Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Hydref 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam v oxford
ArallPobl a lle

Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd

Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
ArallPobl a lle

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi

Hydref 1, 2026
Dal dwylo
ArallPobl a lle

Rydyn ni’n chwilio am is-gadeirydd ar gyfer ein panel maethu – allech chi fod yr un?

Medi 29, 2026
Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las
Y cyngor

Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las

Medi 29, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English