Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ewch am dro i un o barciau deniadol Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Jayne Bryant
Cymunedau Cymru i dderbyn hwb adfywio gwerth £17m
Busnes ac addysg Pobl a lle
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor
Eisteddfod Wrecsam 2025
Eisteddfod Wrecsam 2025!
Digwyddiadau Fideo
Wrexham's Year of Wonder
Lansio “Blwyddyn o Ryfeddod” Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle
Adult holding a child's hand
Galwad o’r newydd am fabwysiadwyr Cymraeg eu hiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol
Digwyddiadau Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Ewch am dro i un o barciau deniadol Wrecsam
Pobl a lle

Ewch am dro i un o barciau deniadol Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: 2017/07/18 at 12:59 PM
Rhannu
Darllen 4 funud
Ewch am dro i un o barciau deniadol Wrecsam
RHANNU

Pan fo’r tywydd yn braf mae’n rhaid i ni wneud yn fawr o’r heulwen.

Cynnwys
Gwobrau Cymunedol y Faner Werdd “Mae yna fannau agored gwych yn Wrecsam”

Ac os ydych chi’n mynd allan am dro, beth am fynd i un o fannau agored neu barciau gwledig Wrecsam – gyda chwech ohonyn nhw wedi ennill statws y Faner Werdd yn 2017.

Y parciau sydd wedi cadw eu statws Baner Werdd eleni yw:

  • Parc Acton
  • Parc Bellevue
  • Parc Ponciau
  • Parc Gwledig Tŷ Mawr
  • Parc Gwledig Dyfroedd Alun
  • Canolfan Ymwelwyr Melin y Nant

Ymunodd Parc Acton â rhestr Wrecsam o barciau’r Faner Werdd y llynedd.

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

Sefydlwyd Gwobr y Faner Werdd yn 1997 er mwyn hyrwyddo parciau gwledig, mannau agored a gerddi deniadol a thaclus ar hyd a lled Prydain, gan wobrwyo’r rheiny y mae gwirfoddolwyr ac awdurdodau lleol wedi bod yn gweithio’n galed i’w cynnal a’u cadw.

Gwobrau Cymunedol y Faner Werdd

Y safleoedd eraill yn y fwrdeistref sirol sydd wedi derbyn Gwobr Gymunedol y Faner Werdd, sy’n gwobrwyo mannau cyhoeddus yng ngofal sefydliadau fel eglwysi, ysgolion, grwpiau cymunedol ac eraill, yw:

  • Plas Pentwyn, Coedpoeth
  • Maes y Pant, Chwarel Merffordd
  • Eglwys y Santes Fair, y Waun
  • Prosiect Bwyd Bendigedig Wrecsam

“Mae yna fannau agored gwych yn Wrecsam”

Dywedodd y Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Roeddwn i’n falch iawn y llynedd pan ychwanegwyd Parc Acton at ein rhestr o barciau’r Faner Werdd, ac mae’n braf gen i weld bod ein parciau wedi cadw eu statws unwaith eto eleni.

“Mae gennym ni fannau agored gwych yma yn Wrecsam gyda thimau ymroddedig yn gofalu amdanyn nhw, yn wirfoddolwyr a cheidwaid, ac yn sicrhau eu bod yn fannau trawiadol a deniadol i bobl ymweld â nhw, ac felly mae’n braf gweld eu hymdrechion yn cael eu cydnabod.

“Llongyfarchiadau i’r holl safleoedd sydd wedi ennill Gwobr Gymunedol y Faner Werdd, mae’n ganmoliaeth ardderchog.

“Rydw i’n argymell pawb sydd efo ychydig o amser yn sbâr i fynd allan i’r haul a mwynhau ein mannau agored a’n parciau gwledig, maen nhw’n cynnig diwrnodau allan gwych.”

Mae Plas Pentwyn, Coedpoeth, wedi ennill Gwobr am yr ail flwyddyn yn olynol.

“Edrychwn ymlaen at y 12 mis nesaf” at Plas Pentwyn

Mae’r gwirfoddolwyr ym Mhlas Pentwyn yn gweithio’n galed i gynnal yr ardd, ac maen nhw wedi cael help gan Ysgol Gynradd Penygelli gerllaw, a fu’n ymweld â’r ardd bob wythnos gyda grŵp bach o blant er mwyn ceisio addysgu sgiliau garddio ymarferol iddyn nhw.

Mae’r gwirfoddolwyr hefyd wedi gweithio ar ddatblygu perllan gymunedol, lle bydd pobl o’r gymuned leol yn gallu dewis ffrwythau iach oddi ar y coed yn y pen draw.

Dywedodd Stacey Deere, Rheolwr Datblygu’r Ganolfan:

‘Rydym wrth ein boddau o ennill Gwobr Gymunedol y Faner Werdd am yr ail flwyddyn.

“Bob blwyddyn mae’r ardd yn gwella, diolch i’r gwirfoddolwyr sydd wrth eu boddau â’r man gwyrdd hwn ac sy’n ei werthfawrogi. Mae’r gwaith pontio’r cenedlaethau maen nhw wedi bod yn ei wneud gyda’r ysgol yn wych ac rydym yn edrych ymlaen at weld beth a ddaw dros y 12 mis nesaf!”

Ychwanegodd y Cyng Bithell: “Hoffwn longyfarch Plas Pentwyn am eu llwyddiant ac rwy’n gobeithio gweld llawer mwy o’r gwobrau hyn yn cael eu rhoi i bobl Wrecsam yn y dyfodol.”

Mae Plas Pentwyn, Canolfan Fenter a Dysgu Gydol Oes a gaiff ei rhedeg gan dîm Datblygu Economaidd Cyngor Wrecsam, i’w gweld ar Ffordd y Castell, Coedpoeth.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.

COFRESTRWCH FI

 

Rhannu
Erthygl flaenorol Wrexham Council community skip days Sut daeth cymuned at ei gilydd i roi’r sbwriel allan..
Erthygl nesaf Ap dysgu Cymraeg wedi’i enwebu am wobr genedlaethol Ap dysgu Cymraeg wedi’i enwebu am wobr genedlaethol

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Jayne Bryant
Cymunedau Cymru i dderbyn hwb adfywio gwerth £17m
Busnes ac addysg Pobl a lle Awst 5, 2025
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor Awst 5, 2025
Eisteddfod Wrecsam 2025
Eisteddfod Wrecsam 2025!
Digwyddiadau Fideo Awst 5, 2025
Wrexham's Year of Wonder
Lansio “Blwyddyn o Ryfeddod” Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle Awst 5, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Jayne Bryant
Busnes ac addysgPobl a lle

Cymunedau Cymru i dderbyn hwb adfywio gwerth £17m

Awst 5, 2025
ruthin road
Pobl a lleY cyngor

Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun

Awst 5, 2025
Wrexham's Year of Wonder
DigwyddiadauPobl a lle

Lansio “Blwyddyn o Ryfeddod” Wrecsam

Awst 5, 2025
Celf ffenestr cartŵn llachar gan 'PaintedCreations by ME' (Michelle Edwards) ar gyfer arddangosfa 'Seirian versus the Leukamians' yn Nhŷ Pawb, Wrecsam
DigwyddiadauPobl a lle

Arddangosfa Seirian yn Nhŷ Pawb: creadigrwydd dewr trigolyn ifanc Wrecsam

Awst 1, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English