Ewch i gael eich brechlyn. Byw bywyd i’r eithaf.

Os nad ydych chi wedi cael cyfle i gael eich brechlyn eto, trefnwch i fynd cyn gynted â phosibl (bydd arnoch chi angen dau ddos).

Mae’n debyg y byddwn ni’n byw â’r Coronafeirws am byth, a brechu gymaint o bobl â phosibl – er mwyn lleihau nifer y bobl sy’n mynd yn sâl – yw’r unig ffordd y gallwn ddysgu i fyw â’r feirws.

Ac er bod pethau bellach yn teimlo’n fwy ‘normal’ nag yr oeddent ychydig o fisoedd yn ôl, ni fydd pethau byth yr un fath eto, a bydd brechu’n bwysig mewn sawl ffordd.

Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi fod wedi derbyn y brechlyn er mwyn gallu teithio i lefydd arbennig, mynychu digwyddiadau arbennig, ymweld â lleoliadau arbennig, neu hyd yn oed gweithio mewn swyddi arbennig.

Fe allai olygu’r gwahaniaeth rhwng gwneud y pethau yr hoffech chi eu gwneud ac ymweld â’r llefydd yr hoffech chi fynd ….. ac arwain bywyd mwy cyfyngedig.

Peidiwch ag oedi. Ewch i gael eich brechu cyn gynted â phosibl.

Sut i gael eich brechlyn

Os nad ydych chi eisoes wedi derbyn y ddau ddos, mae sawl ffordd o drefnu i gael eich brechu (nid oes rhaid i chi aros am wahoddiad).

Clinigau Dros Dro

Mae’r GIG yn defnyddio clinigau dros dro yng Ngogledd Cymru. Nid oes angen trefnu apwyntiad – gallwch alw heibio’n ddirybudd i gael eich brechlyn.

Mae’r rhain fel arfer yn cael eu trefnu ar fyr rybudd ac yn cael eu hyrwyddo ar y cyfryngau cymdeithasol (gallwch ddod o hyd i’r wybodaeth ddiweddaraf ar dudalennau Twitter y bwrdd iechyd lleol a Chyngor Wrecsam).

👇👇👇 DIWEDDARIAD 👇👇👇

Fe fydd yna glinig untro yn Ysgol Gynradd Fictoria yn Wrecsam ddydd Sul yma (Gorffennaf 11) o 12pm tan 5pm yn cynnig y dos cyntaf i bobl 18+.

Archebwch le ymlaen llaw gan ddilyn y ddolen hon 👉 https://cutt.ly/Mobile-Vaccine-Van—C19 👈 neu galwch i mewn ar y diwrnod (apwyntiadau cerdded i mewn ar gael tra bo’r stociau’n para).

Archebu ar-lein

Rydych bellach yn gallu archebu apwyntiadau ar gyfer eich dos cyntaf a’ch ail ddos ar-lein.

Mae miloedd o slotiau newydd yn cael eu hychwanegu drwy’r amser, felly sicrhewch eich bod yn gwirio’n rheolaidd.

TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN

Archebu dros y ffôn

Mae’n haws archebu ar-lein, ond os nad ydych yn gallu cael mynediad at y rhyngrwyd, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt Frechu ar 03000 840004.

Mae’r llinellau’n gallu bod yn brysur iawn, felly byddwch yn amyneddgar os gwelwch yn dda.

Cyfleodd galw heibio mewn canolfannau brechu

Ar hyn o bryd, gallwch alw heibio yng nghanolfan Catrin Finch (LL11 2HS) heb apwyntiad, a bydd staff yn gallu cynnig brechlyn i chi.

Gallwch hefyd alw heibio ym Mhlas Madoc (LL14 3HL) rhwng 5pm a 7pm ar y rhan fwyaf o nosweithiau.

Y wybodaeth ddiweddaraf am frechu

Gallwch ddarllen y wybodaeth ddiweddaraf am y broses frechu yng Ngogledd Cymru ar wefan eich bwrdd iechyd GIG lleol.

Covid-hir

Rydym yn parhau i fod yn bryderus bod nifer o bobl ifanc, tra’n penderfynu derbyn y brechiad COVID-19 neu beidio, yn amcangyfrif yn rhy isel y risg o ddatblygu ‘COVID-hir’, all fod yn arbennig o wanychol.

Cafodd bron i un ym mhob pump person 25-34 oed (18.2 y cant) symptomau COVID-hir fel blinder, poen yn y cyhyrau a thrafferth canolbwyntio 12 wythnos ar ôl eu heintio, yr uchaf o unrhyw grŵp oedran yn ôl adroddiad gan y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol.

Gall y brechlyn COVID-19 eich amddiffyn yn erbyn salwch difrifol posibl a sgîl effeithiau gwanychol tymor hirach COVID-hir.

Rydym wedi colli allan ar gymaint dros yr 16 mis diwethaf. Fel mae cyfyngiadau yn cael eu hymlacio’n raddol dros yr wythnosau sydd i ddod, peidiwch â gadael i’r penderfyniad i wrthod y brechlyn beryglu eich siawns o fynd yn ôl i fwynhau bywyd normal.

Gwybodaeth am frechlynnau mewn ieithoedd eraill

Os ydych chi’n adnabod rhywun nad ydynt yn defnyddio’r Gymraeg na’r Saesneg fel eu prif iaith, mae’n bosibl y bydd y llythyrau canlynol yn ddefnyddiol iddynt.

Maent yn cynnwys gwybodaeth am sut i archebu apwyntiad brechu. Lawrlwythwch y rhain a’u rhannu ag unrhyw un fyddai’n elwa ohonynt.

Profion llif unffordd mewn fferyllfeydd

Os nad oes gennych chi symptomau ond mae arnoch chi angen gweld a ydych yn asymptomatig, mae’n bosibl i chi gael ‘prawf llif unffordd’ o’ch fferyllfa leol.

Darllenwch fwy…

Fferyllfeydd i ddarparu profion llif unffordd

Symptomau? Trefnu prawf

Os oes gennych chi symptomau o’r coronafeirws – neu os ydych wedi eich nodi fel ‘cyswllt’ gan y gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu – sicrhewch eich bod yn hunan ynysu ac yn cael prawf.

Darllenwch fwy ar wefan Llywodraeth Cymru.

Symptomau ychwanegol

Gallwch gael prawf am ddim erbyn hyn os oes gennych ystod ehangach o symptomau.

Yn ogystal â’r tri arwydd gwreiddiol – gwres, peswch newydd parhaus neu golli/newid yn y gallu i flasu ac arogli – gall pobl gael prawf os oes ganddyn nhw symptomau eraill hefyd.

Sef:

  • Symptomau fel ffliw nad ydyn nhw’n cael eu hachosi gan gyflyrau eraill (fel clefyd y gwair), gan gynnwys poenau yn y cyhyrau, blinder mawr, cur pen parhaus, trwyn yn rhedeg neu’n llawn, tisian parhaus, dolur gwddf ac/neu grygni, byr o wynt neu frest dynn.
  • Teimlo’n sâl yn gyffredinol a hanes o fod mewn cyswllt gydag achos o Covid-19.
  • Unrhyw symptomau newydd neu newid mewn symptomau yn dilyn prawf negyddol.

Gallwch ddarllen mwy ar wefan y bwrdd iechyd lleol.

Ffynonellau gwybodaeth defnyddiol

Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.

TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN