Mae Siop//Shop yn Tŷ Pawb yn gwerthu amrywiaeth o anrhegion unigryw ar gyfer pobl o bob oed; gemwaith hardd, tecstilau a nwyddau cartref gan ddylunwyr a dewis cyfoes o gardiau, cylchgronau a chymysgedd eclectig o lyfrau.
Mae popeth yn Siop//Shop yn cael ei ddewis i ategu’r cyfan sydd gan Tŷ Pawb i’w gynnig. Mae’n gwerthu amrywiaeth perffaith o wneuthurwyr ac artistiaid cyfoes, annibynnol ac anrhegion unigryw ar gyfer pobl o bob oed; gemwaith hardd, tecstilau a nwyddau cartref gan ddylunwyr ochr yn ochr â dewis cyfoes o gardiau, cylchgronau a chymysgedd eclectig o lyfrau.
Sean Edwards – Cymru yn Fenis
Y tymor hwn, bydd Siop//Shop yn gwerthu bagiau â dwy handlen wedi’u dylunio gan yr artist Sean Edwards i gyd-fynd â’i arddangosfa unigol ‘Undo Things Done’ yng ngŵyl Venice Biennale.
Mentora’r Gwneuthurwr
Mae Siop//Shop yn meithrin artistiaid newydd ac yn hyrwyddo ymarferwyr sefydledig o Gymru a thu hwnt sydd yn cynnwys Dyfladonc, Ark, Jennie Jackson, Tatty Devine, Jenny Murray a Melin Tregwynt ymysg eraill.
Mae ganddynt brintiau gwreiddiol wedi’u fframio gan gynnwys Jonny Hannah, Alice Patullo, Jeanette Orrell and Pam Newall.
Mae Siop//Shop hefyd yn gwerthu ac yn cefnogi mentrau cymdeithasol fel Jolt, Granby Workshop ac Arthouse Unlimited.
Cysgod Lamp wedi’i Ysbrydoli gan yr Hippodrome
Mae Prosiect ‘Designer Maker’ yn gydweithrediad rhwng Siop//Shop a gwneuthurwyr o brosiect Cyfle Cymru sydd wedi’u lleoli yn Nhŷ Hyrwyddwyr yn Wrecsam.
Gyda’u gilydd maent wedi creu lamp gyfoes, sydd wedi cael ei phlygu trwy ddull traddodiadol gyda stêm sy’n cael ei gwerthu yn Siop//Shop.
Dyluniwyd y lamp gan Tim Denton ac mae wedi’i seilio ar oleuni’r Hippodrome a gafodd ei hachub a’i hadfer gan grŵp Hanes Wrecsam ac mae bellach i’w gweld yn Arcêd y De Tŷ Pawb.
I gael rhagor o wybodaeth am Siop//Shop, anfonwch e-bost: siop.shop@wrecsam.gov.uk