Mae gofalwyr maeth yn creu cartrefi saff a chefnogol i blant a phobl ifanc ond, yn Wrecsam, mae arnom ni angen mwy o bobl i ddangos diddordeb.
Ydych chi erioed wedi ystyried maethu plentyn neu berson ifanc?
Os felly, hoffai Gwasanaeth Maethu Wrecsam glywed gennych chi. Maen nhw’n chwilio am ofalwyr maeth posibl sy’n ymroddedig i blant a phobl ifanc o bob oed. Mae’n bwysig cadw plant yn eu hardaloedd lleol er mwyn sicrhau cysondeb o ran ffrindiau ac ysgolion.
Helpwch ni i gadw plant lleol yn ddiogel yn Wrecsam drwy ddarparu cartref diogel a charedig.
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
Pa gefnogaeth sydd ar gael i mi?
Fel gofalwr maeth, byddwch yn derbyn:
• Pecynnau hyfforddi i’ch cynorthwyo drwy gydol y broses
• Lwfansau i dalu’r gost o faethu
• Cefnogaeth ac arweiniad llawn
• Offer ac adnoddau cartref
• Cymwysterau proffesiynol QCF Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
• Ffioedd proffesiynol
“mae maethu yn hanfodol”
Meddai’r Cyng. Andrew Atkinson, Aelod Arweinio Gwasanaethau Plant, “Mae maethu yn rhan hanfodol o’r ffordd rydym ni’n edrych ar ôl plant yn Wrecsam. Efallai bod pobl yn meddwl nad oes ganddyn nhw’r amser na’r adnoddau i faethu, ond mae arnom ni eisiau dangos iddyn nhw bod maethu yn rhywbeth y gallan nhw ei wneud.
Dydi bod yn ofalwr maeth ddim yn hawdd o bell ffordd, ond gydag ychydig o amser ac ymdrech gallwch wneud gwahaniaeth enfawr i fywyd plentyn mewn gofal.”
Mwy o Wybodaeth
Cysylltwch â Gwasanaeth Maethu Wrecsam a gofynnwch am gael siarad â’r Swyddog Recriwtio
01978295316
Fostering@wrexham.gov.uk
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
COFRESTRWCH FI RŴAN