Mae’r cynllun glanhau Cymunedol yr Hydref blynyddol yn digwydd ar 25 Hydref rhwng 1pm a 3pm a byddai’r Ceidwaid ym Mharc Stryt Las yn falch o gael eich cymorth.
Mae’r ceidwaid yn ymweld â’r safle bob wythnos i gynnal gwiriad cyffredinol, codi ysbwriel a thacluso’r parc, ond dwywaith y flwyddyn maent yn gwneud gwaith glanhau mawr. Fel hynny, mae’n aros yn lle gwych i blant chwarae ac i drigolion gerdded a gwylio treigl y tymhorau ac i’r adar fynd a dod ar y pwll.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, aelod arweiniol yr amgylchedd a chludiant: “Mae’r Ceidwaid yn gwneud gwaith gwych yn edrych ar ôl ein parciau, ond bob hyn a hyd mae angen eich cefnogaeth arnynt i sicrhau fod pob un o’n parciau yn cael eu cynnal i’r safon uchaf. Helpwch os fedrwch chi a dangos eich cefnogaeth i’n Ceidwaid Parciau.”
Os gallwch chi helpu, dewch i gyfarfod wrth fynedfa’r parc ar Cwm Glas (LL14 2AD)
I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 01978 822780
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau
COFRESTRWCH FI