Rydym ni’n chwilio am ddau aelod annibynnol o’r cyhoedd i fod yn rhan o’n Pwyllgor Safonau.
Mae’n cyfarfod sawl gwaith y flwyddyn, ac mae’n helpu i sicrhau bod y Cyngor yn cynnal safonau moesegol uchel a’i fod yn dilyn Codau Ymddygiad pwysig.
Mae’n rhaid i aelodau o’r cyhoedd sydd ar y pwyllgor (sy’n cael eu galw’n ‘aelodau lleyg’) fod yn anwleidyddol, ac maent yn cael eu talu am roi eu hamser.
Efallai nad yw’n swnio’n gyffrous iawn ar yr olwg gyntaf, ond mae’n waith difyr ac yn rhoi llawer o foddhad.
Os ydych chi’n meddwl y byddech chi’n addas, cysylltwch â ni.