Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Fel rhan o’r ymgyrch ‘Caru Eich Marchnadoedd Lleol’, fe wnaethom wahodd yr holl fasnachwyr yn y Farchnad Gyffredinol a Marchnad y Cigyddion i ddweud ychydig wrthym am eu busnesau yn eu geiriau eu hunain…
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Fel rhan o’r ymgyrch ‘Caru Eich Marchnadoedd Lleol’, fe wnaethom wahodd yr holl fasnachwyr yn y Farchnad Gyffredinol a Marchnad y Cigyddion i ddweud ychydig wrthym am eu busnesau yn eu geiriau eu hunain…
Pobl a lleY cyngor

Fel rhan o’r ymgyrch ‘Caru Eich Marchnadoedd Lleol’, fe wnaethom wahodd yr holl fasnachwyr yn y Farchnad Gyffredinol a Marchnad y Cigyddion i ddweud ychydig wrthym am eu busnesau yn eu geiriau eu hunain…

Diweddarwyd diwethaf: Mai 20, 2026 2:21 pm
Rhannu
Darllen 10 funud
Fel rhan o'r ymgyrch 'Caru Eich Marchnadoedd Lleol', fe wnaethom wahodd yr holl fasnachwyr yn y Farchnad Gyffredinol a Marchnad y Cigyddion i ddweud ychydig wrthym am eu busnesau yn eu geiriau eu hunain...
RHANNU

Skellytones

Skellytones ydyn ni.  Yn dod â bach o dywyllwch, cerddoriaeth swnllyd, a digon o bersonoliaeth i Wrecsam.  Rydyn ni’n stondin deuluol sy’n llawn crysau-T metel trwm, dillad gothig ac amgen, a nwyddau cartref gwahanol i unrhyw un sy’n hoffi tynnu’n groes i’r graen.  Os ydych chi’n rociwr gydol oes, ysbryd y nos, neu’n caru rhywbeth ychydig yn wahanol, mae Skellytones yn lle diogel i bawb.

Busnesau annibynnol sy’n rhoi cymeriad i farchnadoedd lleol. Maen nhw’n cadw cymunedau yn fywiog, yn unigryw, ac yn llawn pobl go iawn sydd ag angerdd go iawn am hyn maen nhw’n ei wneud. Rydyn ni’n falch o fod yn rhan o gymuned amgen Wrecsam ac i gefnogi ysbryd masnachu annibynnol. Rydyn ni wrth ein bodd yn cwrdd â phobl newydd, chwerthin a chael jôc, a sgwrsio â phawb sy’n stopio, felly dewch i ddweud helo, cefnogi lleol, a dathlu’r busnesau annibynnol sy’n gwneud ein dinas yn arbennig.

Fel rhan o'r ymgyrch 'Caru Eich Marchnadoedd Lleol', fe wnaethom wahodd yr holl fasnachwyr yn y Farchnad Gyffredinol a Marchnad y Cigyddion i ddweud ychydig wrthym am eu busnesau yn eu geiriau eu hunain...

Malabar Mart:  Gwreiddioldeb wedi’i Guradu yn Wrecsam

Yn Malabar Mart, rydyn ni’n profi bod y pethau gorau yn dod mewn pecynnau bach. Wedi’i lleoli yng nghanol marchnad cigyddion Wrecsam, mae ein siop yn groser bwtîc wedi’i churadu’n ofalus gyda’r nod o fod yn siop un stop ar gyfer hanfodion Indiaidd go iawn. Oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi ansawdd dros faint, mae pob modfedd o’n gofod wedi’i neilltuo i’r “petha da” – cynnyrch ffres, sbeisys premiwm, a bwydydd cyflawn na ddowch ar eu traws ar silffoedd yr archfarchnad.

Ein Pwynt Gwerthu Unigryw:

Rydyn ni’n arbenigo mewn dod â chyfoeth bwyd Indiaidd i Wrecsam trwy brofiad siopa cyflym a chyfeillgar. Rydyn ni’n arbennig o falch gydag ystod byrbrydau sydd newydd eu cyflwyno, sy’n cynnwys bwydydd sawrus Indiaidd go iawn. Rydyn ni’n gweithio ar gyflwyno sleisys cacennau a thybiau cacennau newydd mwy poblogaidd.  Mae’r danteithion “i fynd” hyn yn berffaith i’n siopwyr lleol.  Ein nod yw darparu profiad unigryw, fforddiadwy a phersonol, gan ddangos nad oes angen warws enfawr arnoch i gynnig blasau gwirioneddol, amrywiol India.

Olive Ivy & Wool

Mae Olive Ivy & Wool yn fusnes creadigol bach wedi’i leoli yn Wrecsam, sy’n arbenigo mewn addasiadau dillad, atgyweirio, gwaith finyl Cricut a gwnïo a chrosio darnau â llaw.

Gyda Kayleigh wrth y llyw, mae’r busnes yn canolbwyntio ar waith meddylgar, o ansawdd uchel gydag ymdeimlad personol – o atgyweiriadau a hems bob dydd i eitemau wedi’u gwneud â llaw a dyluniadau wedi’u personoli. Mae Olive Ivy & Wool yn cyfuno gwasanaethau gwnïo ymarferol â chreadigrwydd, gyda’r nod o wneud i newidiadau a gwaith wedi’i wneud â llaw deimlo’n hygyrch, modern ac yn llawn cymeriad.

Ochr yn ochr ag addasu a chreu darnau â llaw, mae Olive Ivy & Wool hefyd yn cynnig dewis bach o wlân, cyflenwadau crefft a darnau creadigol, gan helpu cyd-wneuthurwyr i ddod o hyd i ysbrydoliaeth a deunyddiau fforddiadwy yn lleol.

Gyda chariad at grefft araf, gwead ac unigrywiaeth, mae’r busnes yn canolbwyntio ar helpu pobl i gael mwy o fwynhad o’r pethau maen nhw eisoes yn berchen arnyn nhw, tra hefyd yn creu darnau unigryw sy’n teimlo’n bersonol ac yn hirhoedlog.

Mae Olive Ivy & Wool wedi’i adeiladu o amgylch gofal, crefftwaith a chymuned, gyda chynlluniau i dyfu i fod yn ofod creadigol croesawgar ym Marchnad Cigyddion Wrecsam.

Fel rhan o'r ymgyrch 'Caru Eich Marchnadoedd Lleol', fe wnaethom wahodd yr holl fasnachwyr yn y Farchnad Gyffredinol a Marchnad y Cigyddion i ddweud ychydig wrthym am eu busnesau yn eu geiriau eu hunain...

Esme’s Childrenswear

Ers 1946 mae siop Esme yn cynhyrchu ac yn gwerthu dillad babanod a phlant ar gyfer achlysuron arbennig. Rydyn ni hefyd yn gwerthu dillad achlysurol i blant o oed babanod wedi’u geni’n gynnar hyd at bobl ifanc yn eu harddegau. Maen nhw’n ymfalchïo mewn arddangos crefftwaith lleol, wedi’i wneud â llaw ac amrywiaeth enfawr o gynnyrch Cymreig a wasanaethir gan berchennog busnes Jeanette gyda gwybodaeth arbenigol, gwasanaeth personol a gwên gyfeillgar wych.

Fel rhan o'r ymgyrch 'Caru Eich Marchnadoedd Lleol', fe wnaethom wahodd yr holl fasnachwyr yn y Farchnad Gyffredinol a Marchnad y Cigyddion i ddweud ychydig wrthym am eu busnesau yn eu geiriau eu hunain...

When Saturday Comes

Wedi’i sefydlu gan y cefnogwr Wrecsam lleol Andy Jones, tyfodd When Saturday Comes o angerdd am ffasiwn o’r radd flaenaf ac awydd am bwrpas newydd. Wedi’i leoli ym marchnad hanesyddol y cigyddion, rydyn ni’n cynnig detholiad o offer dylunydd vintage wedi’i ddewis â llaw – o ddisgleirdeb technegol CP Company i apêl glasurol Stone Island.

Credwn mai “edrych y rhan” sy’n bwysig wrth roi yn ôl.

Dyna pam rydyn ni’n stocio dillad isaf ODDBALLS, gan helpu i dorri’r stigma o amgylch iechyd dynion a chefnogi’r frwydr yn erbyn canser y ceilliau.  Nid siop yn unig mohonom; Rydyn ni’n lle lle gall y gymuned gysylltu, sgwrsio, a phori cynigion moethus a chynaliadwy yng nghanol ein dinas.

Fel rhan o'r ymgyrch 'Caru Eich Marchnadoedd Lleol', fe wnaethom wahodd yr holl fasnachwyr yn y Farchnad Gyffredinol a Marchnad y Cigyddion i ddweud ychydig wrthym am eu busnesau yn eu geiriau eu hunain...

The Wrexham Bookworm

Mae The Wrexham Bookworm yn siop lyfrau annibynnol sy’n cynnig dewis eang o lyfrau amrywiol ar gyfer pob oed. Rydyn ni’n blaenoriaethu’r gymuned trwy gadw ein prisiau yn is na siopau llyfrau cadwyn a chanolbwyntio ar awduron a phobl greadigol lleol!

Mae gennym ni hefyd ddigwyddiadau ar y gweill fel ein clybiau llyfrau misol, lle rydyn ni i gyd yn dod at ein gilydd i fwynhau llyfr da, te a chwmni ein gilydd.

Fel rhan o'r ymgyrch 'Caru Eich Marchnadoedd Lleol', fe wnaethom wahodd yr holl fasnachwyr yn y Farchnad Gyffredinol a Marchnad y Cigyddion i ddweud ychydig wrthym am eu busnesau yn eu geiriau eu hunain...

Mad4Movies.

Mae fy musnes “Mad4Movies” yn 20 oed eleni!

Ar ôl dechrau fel siop a oedd yn gwerthu / cyfnewid DVDs a thapiau VHS, rydw i wedi ehangu i gynnwys fformatau eraill fel crynoddisgiau cerddoriaeth, cylchgronau pos a llyfrau.

Mae gen i griw ffyddlon o gwsmeriaid sy’n galw heibio yn rheolaidd i weld beth sydd ar y gweill gan fod gen i stoc newydd bob dydd.  Mae gen i dros 5,000 o ffilmiau yn y siop yn unig.  Dwi hefyd yn gweld ychydig o adfywiad ym mhoblogrwydd cyfryngau corfforol gyda phobl ifanc sydd â diddordeb arbennig mewn “casglu”.  Mae’n “retro” nawr mae’n debyg!

Mae’r siop hefyd wedi ymddangos ar raglen deledu Disney “Welcome to Wrexham”, ac mae Ryan Reynolds a Rob McElhenney wedi ymweld â ni.

Fel rhan o'r ymgyrch 'Caru Eich Marchnadoedd Lleol', fe wnaethom wahodd yr holl fasnachwyr yn y Farchnad Gyffredinol a Marchnad y Cigyddion i ddweud ychydig wrthym am eu busnesau yn eu geiriau eu hunain...

Rings&Things

Helo, Karen ydw i o Rings&Things, rydw i wedi bod yn fasnachwr marchnad ers dros 25 mlynedd.

Dwi’n cynnig gwasanaeth cyfeillgar, personol gan gynnwys newid batris watshis, tynnu dolenni watshis, a stocio gemwaith gwisg ffansi a fascinators. Dwi’n gallu addasu’r fascinator i chi er mwyn gwneud rhywbeth hollol unigryw i chi. 

Fel rhan o'r ymgyrch 'Caru Eich Marchnadoedd Lleol', fe wnaethom wahodd yr holl fasnachwyr yn y Farchnad Gyffredinol a Marchnad y Cigyddion i ddweud ychydig wrthym am eu busnesau yn eu geiriau eu hunain...

Ella Maes

Helo, Amanda ydw i o Ella Maes yn y Farchnad Cigyddion ac wedi bod yn fasnachwr marchnad balch ers dros 10 mlynedd yn dod â phersawr cartref a bath hardd a chynhyrchion i’r corff wedi’u gwneud â llaw i’m cwsmeriaid.

Mae’r hyn a ddechreuodd fel angerdd am greu arogleuon hyfryd a chynhyrchion ymlaciol wedi tyfu i fod yn frand cynnes, croesawgar.

Mae rhywbeth arbennig am allu codi cynnyrch yn y farchnad, cael sgwrs ac mae’r cysylltiad personol hwnnw wrth wraidd popeth rwy’n ei wneud.

Fel rhan o'r ymgyrch 'Caru Eich Marchnadoedd Lleol', fe wnaethom wahodd yr holl fasnachwyr yn y Farchnad Gyffredinol a Marchnad y Cigyddion i ddweud ychydig wrthym am eu busnesau yn eu geiriau eu hunain...

Monty’s

Mae Monty’s yn siop anifeiliaid anwes annibynnol sy’n cynnig popeth sydd ei angen ar eich anifeiliaid anwes, gydag 20 mlynedd o brofiad ymarferol gydag arbenigedd mewn danteithion naturiol, iach i gŵn a chathod.

Fel rhan o'r ymgyrch 'Caru Eich Marchnadoedd Lleol', fe wnaethom wahodd yr holl fasnachwyr yn y Farchnad Gyffredinol a Marchnad y Cigyddion i ddweud ychydig wrthym am eu busnesau yn eu geiriau eu hunain...

The shop

Da ni fel Amazon ar y stryd fawr!

Fel rhan o'r ymgyrch 'Caru Eich Marchnadoedd Lleol', fe wnaethom wahodd yr holl fasnachwyr yn y Farchnad Gyffredinol a Marchnad y Cigyddion i ddweud ychydig wrthym am eu busnesau yn eu geiriau eu hunain...

Miss Kiki’s

Mae Miss Kiki’s yn fusnes bwtîc sy’n ymfalchïo mewn ansawdd ac ysbryd cymunedol.  Yn eiddo i Tracey ers mis Tachwedd 2024, mae’r siop wedi dod yn gonglfaen lleol i’r rhai sy’n chwilio am ffasiwn gyflym ac ategolion. Ein cenhadaeth yw darparu ffasiwn o ansawdd da. Rydyn ni’n falch o fod yn rhan o’r ymgyrch ‘Caru Eich Marchnadoedd’ ac yn methu aros i groesawu wynebau cyfeillgar newydd i mewn i’r siop.”

Fel rhan o'r ymgyrch 'Caru Eich Marchnadoedd Lleol', fe wnaethom wahodd yr holl fasnachwyr yn y Farchnad Gyffredinol a Marchnad y Cigyddion i ddweud ychydig wrthym am eu busnesau yn eu geiriau eu hunain...

Dolled By Keisha

Mae Dolled by Kiesha yn gyrchfan harddwch lleol blaenllaw sy’n ymroddedig i helpu pob cleient i edrych a theimlo eu gorau.  Wedi’i sefydlu gan Kiesha, mae’r busnes yn arbenigo mewn celf ewinedd o ansawdd uchel, colur proffesiynol, steilio aeliau manwl, a thrawsnewid blew’r amrannau. Yr hyn sy’n gosod Dolled gan Kiesha ar wahân yw’r ymrwymiad i harddwch pwrpasol; mae pob triniaeth wedi’i theilwra i nodweddion ac arddull yr unigolyn. Felly os ydych chi am drawsnewid eich ymddangosiad neu’n chwilio am hwb i’r hyder, gydag arbenigedd a dull manwl Kiesha cewch ganlyniad arbennig heb os.”

Fel rhan o'r ymgyrch 'Caru Eich Marchnadoedd Lleol', fe wnaethom wahodd yr holl fasnachwyr yn y Farchnad Gyffredinol a Marchnad y Cigyddion i ddweud ychydig wrthym am eu busnesau yn eu geiriau eu hunain...

Mae Eyecadia yn siop sbectol annibynnol yng nghanol Wrecsam sy’n arbenigo mewn sbectol premiwm pwrpasol, steilio personol, arbenigwyr chwaraeon, dadansoddi lliw a fframiau annibynnol.

Yr hyn sy’n gwneud Eyecadia yn arbennig yw’r dull hamddenol a creadigol tuag at sbectol, gan gyfuno gwybodaeth optegol arbenigol â dyluniadau unigryw, ffasiynol sy’n helpu cwsmeriaid i fynegi eu hunigoliaeth.

Dylai pobl ymweld oherwydd ei fod yn cynnig profiad personol a chwaethus, gan wneud i ddod o hyd i’r sbectol berffaith deimlo’n greadigol, yn groesawgar, ac yn wirioneddol bleserus.

Fel rhan o'r ymgyrch 'Caru Eich Marchnadoedd Lleol', fe wnaethom wahodd yr holl fasnachwyr yn y Farchnad Gyffredinol a Marchnad y Cigyddion i ddweud ychydig wrthym am eu busnesau yn eu geiriau eu hunain...
Fel rhan o'r ymgyrch 'Caru Eich Marchnadoedd Lleol', fe wnaethom wahodd yr holl fasnachwyr yn y Farchnad Gyffredinol a Marchnad y Cigyddion i ddweud ychydig wrthym am eu busnesau yn eu geiriau eu hunain...
Fel rhan o'r ymgyrch 'Caru Eich Marchnadoedd Lleol', fe wnaethom wahodd yr holl fasnachwyr yn y Farchnad Gyffredinol a Marchnad y Cigyddion i ddweud ychydig wrthym am eu busnesau yn eu geiriau eu hunain...
Fel rhan o'r ymgyrch 'Caru Eich Marchnadoedd Lleol', fe wnaethom wahodd yr holl fasnachwyr yn y Farchnad Gyffredinol a Marchnad y Cigyddion i ddweud ychydig wrthym am eu busnesau yn eu geiriau eu hunain...
TAGGED:Marchnadoedd
Rhannu
Erthygl flaenorol Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM
Erthygl nesaf Dim casgliadau biniau ar ddydd Llun Gŵyl y Banc Dim casgliadau biniau ar ddydd Llun Gŵyl y Banc (25 Mai)

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026
Minera Roof Trusses
Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi
Busnes ac addysg
Awst 28, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
Tattoo Cymru 2026
DigwyddiadauPobl a lle

Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam gyda Salíwt i Filwr y Môr

Awst 26, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English