Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ffarwelio’n annwyl â Trevor
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Ffarwelio’n annwyl â Trevor
ArallPobl a lle

Ffarwelio’n annwyl â Trevor

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 28, 2018 4:38 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Ffarwelio’n annwyl â Trevor
RHANNU

Rydym yn ffarwelio ag un o’n staff uwch sydd wedi bod yn gwasanaethu ers amser maith.  TM100 Rydym yn ffarwelio ag aelod o staff sydd wedi bod yn gwasanaethu ers amser maith.

Bydd Trevor Coxon, Pennaeth Gwasanaethau Corfforaethol a Chwsmeriaid a Swyddog Monitro’r Cyngor yn ymddeol ddiwedd Mawrth eleni. Dechreuodd gyrfa Trevor, sydd wedi cymhwyso fel cyfreithiwr, yn 1979 a hynny gyda Chyngor Bwrdeistref Newcastle-under-Lyme yn Swydd Stafford lle cwblhaodd ei erthyglau a chymhwyso fel cyfreithiwr yn 1981.

Ymunodd â Chyngor Dosbarth Staffordshire Moorlands yn 1986 a daeth yn Brif Weithredwr Cynorthwyol a Swyddog Monitro cyn symud i’w Awdurdod Unedol Cymreig presennol yng Ngorffennaf 2003 fel Prif Swyddog Cyfreithiol a Gweinyddol. Mae wedi bod yn ei swydd bresennol sef Pennaeth Gwasanaethau Corfforaethol a Chwsmeriaid a Swyddog Monitro ers Ebrill 2011.

PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.

“Rwyf wedi mwynhau fy ngyrfa yn fawr, yn arbennig y 15 mlynedd olaf yma yn Wrecsam, sy’n gartref i mi bellach. Rwy’n edrych ymlaen at dreulio amser gyda fy ngwraig a fy nheulu a throi at fy hoffter o feicio, rhywbeth yr wyf wedi dechrau gwneud ers symud i Ogledd Cymru,” meddai Trevor.

Ei Ddirprwy Swyddog Monitro, Sioned Wyn Davies, fydd yn ei olynu i’r swydd Pennaeth Gwasanaethau Corfforaethol a Chwsmeriaid.

Talodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Mark Pritchard, deyrnged i Trevor:

“Aelod gwerthfawr o staff”

“Rwy’n credu mod i’n siarad ar ran yr holl gynghorwyr wrth i mi ddweud pa mor wirioneddol ddymunol yw Trevor. Mae’n aelod gwerthfawr o staff ac mae, ar sawl achlysur, wedi rhoi cyfoeth o gyngor gwerthfawr a rhagorol i ni. Mae’n ddyn o egwyddor a gonestrwydd ac wedi ymddwyn bob amser gydag ymroddiad a phroffesiynoldeb ac wedi ein cadw’n ddiogel. Mae ganddo synnwyr digrifwch heb ei ail, fel ei ymrwymiad i Gyngor Wrecsam. Bydd ei ddoethineb a’i ffraethineb yn cael ei golli. Hoffwn ddiolch iddo am ei holl wasanaeth gyda ni a dymuno ymddeoliad hir a hapus iddo.

Yn ei gyfarfod cyngor olaf fe dalodd aelodau o bob argyhoeddiad gwleidyddol deyrngedau pellach i Trevor a dymuno’n dda iddo yn ei ymddeoliad.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/env_services/recycling_waste_w/calendar.htm “] COFIWCH EICH BINIAU[/button]

Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.

Rhannu
Erthygl flaenorol Yn galw pawb sydd rhwng 11 – 25 oed – mae arnom eich angen! Yn galw pawb sydd rhwng 11 – 25 oed – mae arnom eich angen!
Erthygl nesaf Push notifications Byddwch yn gwthgar :)

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026
Minera Roof Trusses
Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi
Busnes ac addysg
Awst 28, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
Tattoo Cymru 2026
DigwyddiadauPobl a lle

Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam gyda Salíwt i Filwr y Môr

Awst 26, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English