Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ffeithiau ailgylchu am Gymru…Bydd Wych. Ailgylcha.
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Ffeithiau ailgylchu am Gymru…Bydd Wych. Ailgylcha.
Y cyngor

Ffeithiau ailgylchu am Gymru…Bydd Wych. Ailgylcha.

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 17, 2020 10:12 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Ffeithiau ailgylchu am Gymru...Bydd Wych. Ailgylcha.
RHANNU

Hoffech chi ddarllen ffeithiau diddorol am ailgylchu yng Nghymru? Edrychwch ar y rhain…

Cynnwys
  • Ffeithiau ailgylchu am Gymru:
  • Ailgylchu bwyd:
  • Ailgylchu gwydr a metel:
  • Ailgylchu plastig:
  • Ailgylchu cerdyn a phapur:

Ffeithiau ailgylchu am Gymru:

• Cymru yw’r drydedd wlad orau yn y byd am ailgylchu. Ni yw’r cyntaf yn y Deyrnas Unedig o bell ffordd.
• Yng Nghymru, rydyn ni’n ailgylchu 65% o’n gwastraff. 37% oedd y ffigur hwn yn 2009.
• Mae 55% o bobl yng Nghymru yn ailgylchu mwy o pethau i gymharu â 2019.
• Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed i ailgylchu 70% o’n gwastraff erbyn 2025, a bod yn genedl ddiwastraff erbyn 2050.
• Oedolion ifanc yng Nghymru sydd wedi gwneud y cynnydd mwyaf fesul blwyddyn, gydag 80% o bobl 18–34 oed yn dweud eu bod yn ailgylchu mwy yn 2020 nag a wnaethon nhw yn 2019.

Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.

Ailgylchu bwyd:

• Mae ailgylchu gwastraff bwyd yn helpu’n uniongyrchol i fynd i’r afael â newid hinsawdd.
• Mae POB cyngor yng Nghymru’n cynnig gwasanaeth ailgylchu bwyd.
• Mae mwy na 80% o bobl yng Nghymru yn ailgylchu eu gwastraff bwyd.
• Mae 6 o fagiau te wedi’u hailgylchu yn gallu cynhyrchu digon o ynni i ferwi’r tegell i wneud disgled arall.
• Gall llond cadi o wastraff bwyd bweru teledu am dros 2 awr.

O baned te i de ffrwythau, mae 69%o bobl Cymru'n ailgylchu eu bagiau te. https://t.co/Gywfu0V0sT #ByddWychAilgylcha pic.twitter.com/sI41jcm94D

— Cyngor Wrecsam (@cbswrecsam) December 14, 2020

Ailgylchu gwydr a metel:

• Gellir ailgylchu gwydr a metel dro ar ôl tro heb i’w ansawdd ddirywio.
• Defnyddir tua 95% yn llai o ynni i wneud eitemau gwydr a metel o ddeunyddiau eilgylch o’i gymharu â defnyddio deunyddiau ‘crai’.
• Mae’r eitemau gwydr a metel y gellir eu hailgylchu o’r ystafell wely a’r ystafell ymolchi yn cynnwys poteli persawr a phersawr eillio, ac erosolau diaroglydd, chwistrell gwallt a gel eillio.
• Mae ailgylchu 1 can cwrw yn arbed digon o ynni i bweru cawod am dros 5 munud.
• Mae ailgylchu 1 potel wydr o win yn atal allyriadau CO2 sylweddol rhag cyrraedd ein hatmosffer.
• Mae ailgylchu 6 casys ffoil mins peis yn arbed digon o ynni i wylio EastEnders ar Ddydd Nadolig.

Ailgylchu plastig:

• Gellir ailgylchu’r rhan fwyaf o eitemau plastig o amgylch y cartref.
• Mae’r poteli plastig y gellir eu hailgylchu o’r ystafell ymolchi yn cynnwys hylif golchi dwylo, gel cawod, poteli siampŵ a chyflyrydd gwallt, poteli ewyn bath a photeli nwyddau glanhau plastig.
• Mae 85% o ddinasyddion Cymru’n ailgylchu eu poteli nwyddau ymolchi plastig. Mae 88% yn ailgylchu poteli diodydd plastig.
• Mae’n cymryd 75% yn llai o ynni i wneud potel blastig o blastig eilgylch o’i gymharu â defnyddio deunyddiau ‘crai’.
• Mae ailgylchu 1 potel cannydd yn arbed digon o ynni i bweru stereo gartref am 9 awr. Dyna lot o ganeuon Nadolig!
• Mae ailgylchu 3 botel diod 500ml yn arbed digon o ynni i bweru oergell am 4 awr.

Mae 85% o bobl Cymru yn golchi, rinsio ac ailgylchu. https://t.co/Hn2Mhr9Fa2 #ByddWychAilgylcha pic.twitter.com/xbwzsjxTi6

— Cyngor Wrecsam (@cbswrecsam) December 15, 2020

Ailgylchu cerdyn a phapur:

• Yn ystod y Nadolig, defnyddiwn ddigon o ddeunydd pacio cardbord i orchuddio maes Stadiwm y Principality bron i 140,000 o weithiau.
• Mae 86% o bobl yng Nghymru yn ailgylchu eu cardbord.
• Mae’r cardbord y gellir ei ailgylchu o’r ystafell ymolchi yn cynnwys bocsys past dannedd, bocsys nwyddau ymolchi a thiwbiau papur toiled.
• Mae ailgylchu 1 tiwb papur toiled yn arbed digon o ynni i wefru eich ffôn symudol ddwywaith.

Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.covid19.nhs.uk/”]Lawrlwythwch yr ap GIG[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Rhosddu FC Ymrwymiad i…. Clwb Pêl Droed Rhosddu
Erthygl nesaf North Wales Growth Deal being signed Creu miloedd o swyddi a rhoi hwb o £1bn i economi’r rhanbarth wedi i Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU ac aelodau’r Bwrdd Uchelgais lofnodi’r Cynllun Twf arloesol i’r Gogledd…

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn 2
Mae gwau lleol yn helpu i greu arddangosfa enfawr o’r Ail Ryfel Byd – peidiwch â cholli’ch cyfle i’w gweld!
Arall Digwyddiadau
Medi 15, 2026
Dysgu yn Wrecsam
Defnyddiwch yr offeryn defnyddiol hwn i ddarllen a gwrando ar newyddion a gwybodaeth y cyngor mewn unrhyw iaith
Busnes ac addysg
Medi 15, 2026
Mae hi'n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a'r brifysgol)
Mae hi’n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a’r brifysgol)
Datgarboneiddio Wrecsam Fideo
Medi 15, 2026
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Medi 15, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy
Y cyngor

Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy

Medi 15, 2026
Gwneuthurwr deunydd pecynnu o Wrecsam yn sicrhau grant Parth Buddsoddi i sbarduno twf a chreu swyddi
Y cyngor

Gwneuthurwr deunydd pecynnu o Wrecsam yn sicrhau grant Parth Buddsoddi i sbarduno twf a chreu swyddi

Medi 15, 2026
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Medi 14, 2026
Guildhall ceremony room
ArallPobl a lleY cyngor

Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd

Medi 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English