Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ffliw Adar yn ardal Y Waun – beth ddylwn i ei wneud i amddiffyn fy adar?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Ffliw Adar yn ardal Y Waun – beth ddylwn i ei wneud i amddiffyn fy adar?
Y cyngor

Ffliw Adar yn ardal Y Waun – beth ddylwn i ei wneud i amddiffyn fy adar?

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 9, 2021 10:13 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Avian Flu
RHANNU

Mae achosion o Ffliw Adar wedi cael eu canfod mewn adar domestig ac adar gwyllt yn ardal Y Waun o Wrecsam.

Cynnwys
  • Mae fy aderyn yn sâl, beth ddylwn i ei wneud?
  • Beth ddylwn i ei wneud os ydw i’n dod ar draws aderyn marw?

Mae Parth Gwarchod, Parth Gwyliadwriaeth a Pharth Gwaharddedig wedi cael eu sefydlu o amgylch yr eiddo dofednod sydd wedi’i heintio er mwyn cyfyngu ar ledaeniad yr afiechyd. Mae manylion y mesurau sydd yn berthnasol yn y parthau yma i’w canfod yn y Datganiad.

Mae Swyddogion Gwarchod y Cyhoedd ar y safle yn darparu cyngor ac arweiniad i breswylwyr yn yr ardal ac yn ceisio adnabod unrhyw un sy’n cadw dofednod.

Cynghorir preswylwyr sydd yn cadw adar i gysylltu â llinell gymorth DEFRA os ydynt angen cyngor – 03459 33 55 77.

Mae’r Parthau wedi’u Rheoli yn ymestyn o Wrecsam mewn i Sir Amwythig ac rydym ni’n cydweithio i ddiweddaru’r preswylwyr ac i reoli lledaeniad yr haint.

Mae’r perygl i iechyd y cyhoedd yn isel iawn ac mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi dweud bod y perygl i ddiogelwch bwyd defnyddwyr y DU yn isel iawn. Mae wyau a dofednod sydd wedi’u coginio’n iawn yn ddiogel i’w bwyta.

Mae ceidwaid dofednod masnachol yn yr ardal wedi cael gwybod ac fe fyddwn ni’n rhoi mesurau bioddiogelwch pellach ar waith er mwyn amddiffyn eu hadar.

Dylai aelodau’r cyhoedd sy’n cadw adar fel anifeiliaid anwes, sydd naill ai’n cael eu cadw tu mewn neu du allan, ddilyn yr un canllawiau syml i gadw eu hadar yn ddiogel.

  • Osgoi cyswllt rhwng eich adar sy’n anifeiliaid anwes ac adar gwyllt
  • Osgoi bwydo adar gwyllt a sicrhau nad ydi adar gwyllt yn gallu cyrraedd bwyd eich aderyn anwes.
  • Glanhau ar ôl delio â’ch adar, golchwch eich dwylo’n benodol
  • Peidio â dod â baw adar gwyllt mewn i’ch cartref drwy ddillad ac esgidiau budr
  • Sicrhau bod unrhyw aderyn newydd yn dod o ffynhonnell ddibynadwy

Mae fy aderyn yn sâl, beth ddylwn i ei wneud?

Os ydych chi’n poeni am iechyd eich aderyn, ceisiwch gyngor gan eich milfeddyg.

I gael rhagor o wybodaeth am ffliw adar a bioddiogelwch, ewch i wefan Llywodraeth Cymru https://llyw.cymru/ffliw-adar neu wefan DEFRA https://www.gov.uk/guidance/avian-influenza-bird-flu neu ffoniwch Llinell Gymorth DEFRA 03459 33 55 77.

Beth ddylwn i ei wneud os ydw i’n dod ar draws aderyn marw?

Peidiwch â’i bigo i fyny na chyffwrdd unrhyw adar sâl neu farw. Dylech gysylltu â llinell gymorth Defra ar 03459 33 55 77 i adrodd amdano.

Gellir casglu rhai o’r adar at ddibenion gorchwylio afiechydon. Ni fydd pob aderyn yn cael ei gasglu a chyfrifoldeb y tirfeddiannwr yw cael gwared ar adar marw.

I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut i gael gwared ar adar marw yn ofalus, tarwch olwg ar wefan Llywodraeth Cymru.

Os ydych chi angen gwirio a ydych chi yn un o’r parthau sydd wedi’u heffeithio, mae yna fap rhyngweithiol y gallwch chi ei ddefnyddio.

Gallwch ddarllen y wybodaeth ddiweddaraf am yr achosion o Ffliw Adar ar wefan Llywodraeth Cymru.

Os nad ydych chi’n cadw adar, yna ni fydd angen i chi weithredu, serch hynny, gallwch roi gwybod am unrhyw adar marw y byddwch chi’n dod ar eu traws.

Os byddwch chi’n dod o hyd i adar y dŵr gwyllt marw (elyrch, gwyddau neu hwyaid), neu adar gwyllt marw eraill megis gwylanod neu adar ysglyfaethus, dylech ffonio llinell gymorth Defra 03459 33 55 77 (dewis 7).

Rhannu
Erthygl flaenorol Flood Rydym yn barod am y gaeaf 2021 – 2022
Erthygl nesaf Booster Mae’r pigiad atgyfnerthu’n bwysig – derbyniwch y cynnig os gewch chi un

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Y cyngor Digwyddiadau Pobl a lle
Hydref 26, 2026
All Saints School fundraising activities
Disgyblion Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn rhedeg, yn pobi ac yn gwneud gwahaniaeth at achos da
Pobl a lle Busnes ac addysg
Hydref 26, 2026
Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

National Adoption Week 2026
Y cyngorPobl a lle

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru

Hydref 23, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu
Y cyngor

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi’u trefnu

Hydref 20, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English