Mae pobl sy’n gymwys ledled gogledd Cymru’n cael llythyrau’n cynnig pigiad atgyfnerthu ac mae’n bwysig ichi beidio ag oedi cyn derbyn eich apwyntiad pan gewch chi un.
Pam fod arnaf angen pigiad atgyfnerthu?
Fel sy’n digwydd gyda brechlynnau eraill, mae’r amddiffyniad a gewch chi gan y brechlyn rhag Covid-19 yn dechrau pylu dros amser. Drwy gael dos atgyfnerthu byddwch yn ymestyn yr amddiffyniad a gawsoch chi o’ch dau ddos cyntaf.
Ac yn bwysicaf oll mae’n helpu i leihau’r perygl y bydd angen ichi fynd i’r ysbyty gyda Covid-19 y gaeaf hwn.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Sut ydym yn gwybod ei fod yn gweithio?
Mae tystiolaeth o raglen yn Israel a ddechreuodd yn gynharach eleni’n awgrymu’n gryf bod yno gyfraddau is o salwch difrifol ymysg y rhai hynny sy’n cael pigiad atgyfnerthu o gymharu â’r rhai hynny nad ydynt yn ei gael.
Roedd llai o heintiau wedi’u cadarnhau ymysg y grŵp a gafodd bigiadau atgyfnerthu na’r rhai na’u cafodd.
Yr hyn y dylem oll ei gadw mewn cof yw bod y pandemig yn dal yma, er bod bywyd wedi mynd yn ôl i’r arfer i raddau helaeth; mae pobl yn dal i gael profion positif ac yn anffodus, mae pobl yn dal i farw ar ôl cael Covid-19.
Meddai Gill Harris, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Mae’n destun pryder bod cyfraddau COVID-19 yn dal mor uchel, ac mae’r GIG yng Nghymru ar fin wynebu cyfnod mwyaf heriol y pandemig
“Mae’n bwysig iawn cael y pigiad atgyfnerthu wrth inni geisio sicrhau ein bod yn gwarchod cymaint o bobl â phosib yn ein cymunedau dros y gaeaf, a helpu gwasanaethau hanfodol ein GIG yn eu tro.”
Helpwch i gadw gogledd Cymru’n ddiogel a gwarchod y GIG dros y gaeaf drwy:
- Dderbyn y cynnig o bigiad rhag y ffliw a’r pigiad atgyfnerthu cyn gynted ag y cewch chi un.
- Dal i ddilyn y canllawiau coronafeirws
- Os oes arnoch angen gofal gan y GIG, dewiswch y gwasanaeth mwyaf perthnasol i’ch anghenion drwy fynd i wefan GIG 111 Cymru neu’r Bwrdd Iechyd.
Oes modd imi gael y pigiad rhag y ffliw a’r pigiad atgyfnerthu ar yr un pryd?
Oes, mae’n ddiogel ichi gael y ddau ar yr un pryd neu’n agos at ei gilydd. Peidiwch ag oedi cyn derbyn os cewch chi gynnig y naill bigiad neu’r llall.
Mae'r amddiffyniad gan frechlynnau COVID-19 yn lleihau dros amser. Dyna pam rydym yn gwahodd pobl i gael pigiad atgyfnerthu, o 6 mis ar ôl eu hail ddos.
Bydd eich bwrdd iechyd yn cysylltu â chi pan ddaw eich tro. Daliwch i amddiffyn eich hun y gaeaf hwn.https://t.co/XF1L7g4RFQ pic.twitter.com/Xp5jFrdFzv
— Llywodraeth Cymru Iechyd a Gofal (@LlCIechydaGofal) November 10, 2021
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL