FIDEO: Cipolwg ar fynedfa newydd Ysgol Clywedog

Yn ddiweddar, daeth y waith yn Ysgol Clywedog ar Ffordd Rhuthun, Wrecsam i ben.

Mae mynedfa’r ysgol wedi’i hailwampio’n llwyr, mae waliau gwydr smart wedi’u gosod ar hen safle’r fynedfa wreiddiol, sy’n cynnig golygfa newydd ac arbennig i ddisgyblion o flaen eu hysgol.

Mae’r ardal lobi newydd yn arwain at gyfleusterau cyffrous iawn ar y llawr cyntaf – bydd rhagor o wybodaeth ar gael ynghylch hyn maes o law.

DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.

Cawsom sgwrs â’r Pennaeth, Matt Vickery, a chipolwg ar y fynedfa newydd…gwyliwch y fideo uchod am fwy o wybodaeth!

“Wrth ein boddau”

Dywedodd Ian Roberts, Prif Swyddog Addysg ac Ymyrraeth Gynnar Cyngor Wrecsam: “Rydym ni wrth ein boddau â’r cyfleusterau newydd ac arbennig hyn yn Ysgol Clywedog.

“Mae llawer o waith wedi’i wneud i adeiladu’r fynedfa newydd hon ac i foderneiddio blaen yr ysgol, ac mae’r gweddnewidiad hwn – fel sydd wedi’i nodi gan y Pennaeth, Mr Vickery – wedi cyfrannu’n helaeth at falchder y disgyblion yn eu hysgol.

“Mae hefyd yn cynnig golygfa wych o’r ardal gyfagos, a fydd yn helpu i gyfrannu at naws am le’r disgyblion a’u rôl nhw o fewn cymuned ehangach Wrecsam.”

Rydym ni hefyd yn ailwampio cae chwaraeon aml-ddefnydd Ysgol  Clywedog – mewn cydweithrediad â’n partneriaid hamdden, Freedom Leisure – i fod yn gae 3G; gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ynghylch hyn yma.

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

COFRESTRWCH FI RŴAN