Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen FIDEO: Gweithwyr dan hyfforddiant yn mynd i’r afael â morter calch
Rhannu
Notification Show More
Latest News
key in door - wrexham council housing
Llwyddiant i Gynllun Prydlesu Cymru yn Wrecsam
Y cyngor
Councillor Nigel Williams visits The Uncommon Practice
Busnes arbennig o dda ;)
Busnes ac addysg
Hands
Ymgyrch John i’r rheini sy’n byw gyda Dementia
Y cyngor Fideo Pobl a lle
The Guildhall, Wrexham
Cyngor Wrecsam yn ystyried mwy o gynigion i arbed costau wrth i’r wasgfa ariannol aruthrol barhau
Y cyngor
Council Tax
Siapio dyfodol Treth y Cyngor yng Nghymru
Y cyngor Fideo Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > FIDEO: Gweithwyr dan hyfforddiant yn mynd i’r afael â morter calch
Busnes ac addysgFideoPobl a lle

FIDEO: Gweithwyr dan hyfforddiant yn mynd i’r afael â morter calch

Diweddarwyd diwethaf: 2019/09/09 at 10:42 AM
Rhannu
Darllen 3 funud
RHANNU

Efallai eich bod wedi gweld rhai o’r sesiynau hyfforddiant rydym wedi eu cynnig fel: rhan o’n rhaglen sgiliau adeiladu traddodiadol.

Yn ddiweddar, cynhaliom gwrs Cyflwyniad i Forter Calch yng Nghlwb Criced Bradle.

Rhoddwyd golwg agosach i’r gweithwyr dan hyfforddiant ar y defnydd o forter calch gan Terence Lee.

DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.

Cawsant y cyfle i brofi eu sgiliau ar un o waliau’r clwb criced ar ail noson y cwrs.

Edrychwch ar rai o’r ffotograffau isod neu’r fideo uchod i weld beth oedd gan y cwrs i’w gynnig.

Mae angen JavaScript ar y sioe sleidiau hon.

Roedd y Cyng David Griffiths, Aelod Arweiniol Tai yn bresennol yn un o’r sesiynau hyfforddiant.

Meddai: “Roeddwn yn falch iawn i gael y cyfle i ddod draw a gweld yr hyfforddiant yn cael ei gynnal.

“Mae mor bwysig ein bod yn gallu cynyddu’r gronfa sgiliau ar gyfer y mathau hyn o grefftau arbenigol yn Wrecsam.

“Po fwyaf sy’n gallu gwneud hynny, y mwyaf o grefftwyr a chontractwyr y bydd gennym ni’n lleol, a fydd yn gallu gwneud y math o waith sydd ei angen i gynnal a chadw ein stoc ardderchog o adeiladau treftadaeth a thraddodiadol.

“Hyd yn oed os nad ydynt yn rhestredig, mae adeiladau o’r fath yn ased i’n hardal a gallent chwarae rhan fawr yn ei bywyd economaidd.”

Dywedodd y Cyng. Terry Evans, Aelod Arweiniol Perfformiad Economaidd ac Adfywio: “Roeddwn yn falch iawn i weld y diddordeb yn y cwrs hwn, a’r nifer a gymerodd ran.

“Mae sicrhau fod hyfforddiant o’r fath ar gael yn rhan allweddol o’n rhaglen sgiliau adeiladu traddodiadol – sydd, yn ei dro, yn cysylltu â’r gwaith gyda phwyslais ar dreftadaeth i adfywio canol y dref.

“Byddwn yn parhau i gynnal y cyrsiau hyn a chyrsiau tebyg wrth symud ymlaen a, gan hynny, byddwn yn cynghori unrhyw un sydd â diddordeb i gadw golwg ar ein blog newydd ac yn y cyfryngau i gael diweddariadau pellach.”

Mae’r cyrsiau uchod am ddim diolch i gyllid gan gydweithrediad Seilwaith Canolbarth Cymru a Rhaglen Sgiliau Adeiladu Traddodiadol Wrecsam; sydd wedi’u hariannu drwy Raglen Datblygu Gwledig 2014-2020 – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru, a gaiff eu hariannu gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

COFRESTRWCH FI RŴAN

Rhannu
Erthygl flaenorol Tref Cyfeillgar i Ddementia - lle rydym ni arni? Tref Cyfeillgar i Ddementia – lle rydym ni arni?
Erthygl nesaf Hanes Teulu i Ddechreuwyr Hanes Teulu i Ddechreuwyr

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

key in door - wrexham council housing
Llwyddiant i Gynllun Prydlesu Cymru yn Wrecsam
Y cyngor Rhagfyr 7, 2023
Councillor Nigel Williams visits The Uncommon Practice
Busnes arbennig o dda ;)
Busnes ac addysg Rhagfyr 7, 2023
Hands
Ymgyrch John i’r rheini sy’n byw gyda Dementia
Y cyngor Fideo Pobl a lle Rhagfyr 6, 2023
The Guildhall, Wrexham
Cyngor Wrecsam yn ystyried mwy o gynigion i arbed costau wrth i’r wasgfa ariannol aruthrol barhau
Y cyngor Rhagfyr 6, 2023

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Councillor Nigel Williams visits The Uncommon Practice
Busnes ac addysg

Busnes arbennig o dda ;)

Rhagfyr 7, 2023
Hands
Y cyngorFideoPobl a lle

Ymgyrch John i’r rheini sy’n byw gyda Dementia

Rhagfyr 6, 2023
Council Tax
Y cyngorFideoPobl a lle

Siapio dyfodol Treth y Cyngor yng Nghymru

Rhagfyr 6, 2023
20mph
Y cyngorPobl a lle

Gallwch gael eich cosbi am ddifrodi neu symud arwyddion 20mya

Rhagfyr 6, 2023
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Fy Niweddariadau
  • Hysbysiadau awtomatig
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English