Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Tref Cyfeillgar i Ddementia – lle rydym ni arni?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Photo showing the eisteddfod site on a bright day with clear blue skies. The huge eisteddfod letters are in he foreground with the main pavillion in the background.
Cynllun mynediad am ddim i’r Eisteddfod i deuluoedd lleol ar incwm isel
Digwyddiadau Pobl a lle
Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith
Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith
Busnes ac addysg
trees
Fandaleiddio coed ym Mhlas Madog yn ennyn dicter y gymuned
Pobl a lle
9000
Wrecsam yn dathlu plannu dros 9000 o goed newydd
Pobl a lle Y cyngor
Ty Mawr
Parciau gwledig Wrecsam o’r awyr
Fideo Pobl a lle Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Tref Cyfeillgar i Ddementia – lle rydym ni arni?
Pobl a lleY cyngor

Tref Cyfeillgar i Ddementia – lle rydym ni arni?

Diweddarwyd diwethaf: 2019/09/09 at 10:25 AM
Rhannu
Darllen 6 funud
Tref Cyfeillgar i Ddementia - lle rydym ni arni?
RHANNU

Dros y misoedd diwethaf mae nifer o fusnesau lleol a grwpiau cymunedol o amgylch bwrdeistref Wrecsam wedi mynychu sesiynau ffrindiau dementia er mwyn cael mwy o ymwybyddiaeth o sut mae byw gyda Dementia.

Cynnwys
“Bws Teithiol Dementia““Yn y cymunedau““Grantiau bychain ar gael““Canmoliaeth i Dacsis Apollo“

Mae’r sesiynau hefyd wedi ymestyn i athrawon ysgol, CA5 a CA6, grwpiau plant a sgowtiaid, gyda mwy o sesiynau wedi eu trefnu ar gyfer y dyfodol.

Mae nifer o’n hadrannau ein hunain hefyd wedi cymryd rhan mewn sesiynau ffrindiau Dementia ac mae hyn wedi cael ei ymestyn i’r adran blant hefyd. Ar hyn o bryd mae 19 Cefnogwr Dementia o fewn yr awdurdod sydd wedi’u hyfforddi i ddarparu sesiynau ffrindiau Dementia sy’n para awr, ac am ddim. Os hoffech ddarganfod mwy am y sesiynau hyn, cysylltwch â commissioning@wrexham.gov.uk.

DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Mae 850,000 o bobl yn byw gyda dementia yn y DU, ac mae disgwyl i’r nifer hwn godi o 1 miliwn erbyn 2021.

Mae’n hanfodol ein bod yn cynllunio ymlaen llaw a chwilio am ffyrdd i gefnogi’r cynnydd hwn mewn niferoedd, a sut i barhau i godi ymwybyddiaeth o sut mae byw gyda Dementia a’r effaith mae’n ei gael ar ofalwyr.

“Bws Teithiol Dementia“

Mae Dementia yn gwneud i bobl deimlo’n ddryslyd, ar eu pennau eu hunain, ar goll, yn ofnus ac yn ddiamddiffyn. Er mwyn gwybod sut mae hyn yn teimlo, rydym yn falch o weithio gyda thîm y Bws Teithiol Dementia, sy’n rhoi cyfle i bobl gerdded yn esgidiau’r bobl sy’n byw gyda dementia. Yna, gallwn fod mewn sefyllfa well i newid yr amgylchedd ac arferion gweithio, er mwyn galluogi pobl gyda dementia i aros yn eu cartrefi yn hirach a gwella gofal.

Hyd heddiw, mae tua 900+ yn Wrecsam wedi bod yn y bws, ac mae’r adborth wedi bod yn wych –

  • Rŵan rwy’n deall pam bod fy mam yn gwneud y pethau hyn, roeddwn i’n arfer gweiddi arni am wneud y pethau hynny
  • Dylai’r hyfforddiant hwn fod yn orfodol i bawb
  • Mae hyn wedi fy annog i fynd ymlaen i wneud mwy o hyfforddiant
  • Bydd hyn yn fy helpu yn fy rôl
  • Anhygoel, gallaf newid fy arferion nyrsio i weddu hyn
  • Yn hynod o ddiddorol a defnyddiol, bydd yr hyfforddiant yn aros gyda mi am amser maith

Mae’r bws yn parhau i fod yn boblogaidd iawn, a ddoe yn ystod y daith gerdded yn Erddig, roedd yn orlawn.

Byddwn yn rhoi gwybod i chi os ddaw’r bws teithiol Dementia yn ôl i Wrecsam.

“Yn y cymunedau“

Yn ogystal â’r Bws Teithiol Dementia yn y fwrdeistref sirol, mae ein llyfrgelloedd hefyd wedi ymuno, ac wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau hyfforddi Ymwybyddiaeth Dementia. Mae’r digwyddiadau hyn yn boblogaidd iawn fel arfer, felly cadwch lygad am ddigwyddiad yn eich llyfrgell leol dros y misoedd nesaf.

Mae Holt a’r Waun wedi cael eu cydnabod fel cymunedau sy’n gyfeillgar i ddementia, ac mae gwaith yn digwydd ar hyn o bryd i weithio gyda busnesau lleol o fewn yr ardaloedd hyn.

“Grantiau bychain ar gael“

Mae cyfle hefyd i dderbyn grant bychan os ydych yn ystyried sefydlu grŵp gweithgaredd yn y gymuned a fydd o fantais i’r rhai sy’n byw gyda Dementia. Dyma yw’r Grant Cynhwysiant Cymunedol a gellir gofyn am ffurflen gais gan y Tîm Comisiynu ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn, ond caiff ceisiadau eu hystyried gan y Panel Grantiau oddeutu bedair gwaith y flwyddyn.

E-bost:   commissioning@wrexham.gov.uk

Ffôn: 01978 292066

“Canmoliaeth i Dacsis Apollo“

Mae menter ddiweddaraf staff hyfforddi Ymwybyddiaeth Dementia wedi bod yn y byd masnachol, wrth i yrwyr tacsis Apollo arwain y ffordd, a chyflawni’r hyfforddiant. Rydym yn gobeithio mai dyma’r cyntaf o nifer o weithrediadau masnachol sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda’r cyhoedd ac yn debygol o fod mewn cysylltiad â’r rhai sy’n byw gyda Dementia.

Gyrwyr tacsis Apollo yn arwain y ffordd ar ymwybyddiaeth o ddementia

Os hoffech gysylltu â ni er mwyn derbyn hyfforddiant Ymwybyddiaeth Dementia, cysylltwch â commissioning@wrexham.gov.uk  neu os oes diddordeb gennych weithio yn y diwydiant gofal i helpu gofalu a chefnogi’r rhai sy’n byw gyda Dementia, cysylltwch â workforcedevelopment@wrexham.gov.uk.

Meddai’r Cynghorydd Joan Lowe, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Rydym yn gweithio’n galed gyda sefydliadau eraill i godi ymwybyddiaeth o sut mae byw gyda Dementia. Mae’n hynod o anodd i bawb sydd ynghlwm, ond os ydym yn gwybod mwy, gallwn baratoi yn well i helpu, cynghori a chefnogi. Hoffwn ddiolch i bawb am eu hymdrechion diddiwedd dros y misoedd diwethaf, ac rwy’n gwybod y bydd eu hymrwymiad yn parhau yn y dyfodol.”

Wrth edrych yn ôl, rydym wedi gwneud cynnydd mawr o ran codi ymwybyddiaeth o Ddementia, a gobeithiwn y bydd y gwaith yn parhau yn y dyfodol er mwyn ein gwneud ni oll yn ymwybodol o sut mae byw gyda Dementia.

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

COFRESTRWCH FI RŴAN

Rhannu
Erthygl flaenorol Parcio am ddim dros yr Ŵyl Fwyd, felly dewch draw i ymuno yn yr hwyl! Parcio am ddim dros yr Ŵyl Fwyd, felly dewch draw i ymuno yn yr hwyl!
Erthygl nesaf FIDEO: Gweithwyr dan hyfforddiant yn mynd i’r afael â morter calch FIDEO: Gweithwyr dan hyfforddiant yn mynd i’r afael â morter calch

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Photo showing the eisteddfod site on a bright day with clear blue skies. The huge eisteddfod letters are in he foreground with the main pavillion in the background.
Cynllun mynediad am ddim i’r Eisteddfod i deuluoedd lleol ar incwm isel
Digwyddiadau Pobl a lle Gorffennaf 4, 2025
Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith
Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith
Busnes ac addysg Gorffennaf 4, 2025
trees
Fandaleiddio coed ym Mhlas Madog yn ennyn dicter y gymuned
Pobl a lle Gorffennaf 4, 2025
9000
Wrecsam yn dathlu plannu dros 9000 o goed newydd
Pobl a lle Y cyngor Gorffennaf 4, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Photo showing the eisteddfod site on a bright day with clear blue skies. The huge eisteddfod letters are in he foreground with the main pavillion in the background.
DigwyddiadauPobl a lle

Cynllun mynediad am ddim i’r Eisteddfod i deuluoedd lleol ar incwm isel

Gorffennaf 4, 2025
trees
Pobl a lle

Fandaleiddio coed ym Mhlas Madog yn ennyn dicter y gymuned

Gorffennaf 4, 2025
9000
Pobl a lleY cyngor

Wrecsam yn dathlu plannu dros 9000 o goed newydd

Gorffennaf 4, 2025
Ty Mawr
FideoPobl a lleY cyngor

Parciau gwledig Wrecsam o’r awyr

Gorffennaf 4, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English