Byddwn yn cefnogi’r Llynges Fasnachol unwaith eto ar 3 Medi drwy chwifio’r Lluman Coch i anrhydeddu’r dynion a’r merched dewr a wasanaethodd yn ystod y ddau ryfel byd, a’r rhai sy’n parhau i wasanaethu er mwyn sicrhau bod gennym ni gyflenwadau i gynnal ein hynys.
Fel ynys, mae’r DU yn dibynnu ar forwyr y Llynges Fasnachol ar gyfer 95% o’n mewnforion, yn cynnwys hanner y bwyd rydym ni’n ei fwyta. Y DU sydd â’r diwydiant porthladdoedd mwyaf yn Ewrop. Mae 75% o’n hallforion (yn ôl cyfaint) yn cael eu cludo mewn llongau o borthladdoedd y DU.
Pam mae Diwrnod y Llynges Fasnachol ar 3 Medi?
Dioddefodd y gwasanaeth ei golled gyntaf yn yr ail ryfel byd pan gafodd llong fasnach yr S.S. Athenia ei suddo â thorpido a bu farw 128 o deithwyr a chriw, oriau yn unig ar ôl cyhoeddi’r rhyfel. Ers hynny, mae’r 3ydd o Fedi wedi’i gydnabod fel Diwrnod y Llynges Fasnachol.
Yn anffodus, nid colledion yr Athenia oedd yr olaf, a dioddefodd cannoedd o longau a miloedd o forwyr yr un dynged yn y blynyddoedd i ddilyn.
Dywedodd y Cyng. Beverley Parry Jones, Cefnogwr y Lluoedd Arfog, “Mae llawer yn Wrecsam wedi neu’n dal i wasanaethu yn y Llynges Fasnachol. Mae eu gwasanaeth ffyddlon yn deyrnged i’w hymroddiad a’r cyfraniad anhygoel maent yn ei wneud i economi’r DU.”
Dywedodd Maer Wrecsam, y Cyng. Beryl Blackmore, “Braint yw cael chwifio’r lluman hwn dros Neuadd y Dref fel arwydd o barch i’r Llynges Fasnachol ac i ddiolch iddynt am eu gwasanaeth i fywydau unigolion ar hyd a lled y DU, yn ogystal ag yma yn Wrecsam.”
Seremoni Codi’r Lluman yn Neuadd y Dref
Ddydd Mawrth 3 Medi, byddwn yn cynnal seremoni fer i godi’r lluman y tu allan i brif fynedfa Neuadd y Dref am 10.30am. Mae croeso i bawb.
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Sioe gerddorol fawreddog “Tattoo Cymru” yn dod i Neuadd William Aston ym mis Tachwedd
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch