Erthygl wadd: Groundwork Gogledd Cymru
Cynhelir Ffair Fwyd y Gwanwyn, sy’n addas i deuluoedd, er mwyn dathlu masnachwyr bwyd o bob cwr o Wrecsam a’r cyffiniau ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun ar 23 Mawrth.
Mae’r trefnwyr, elusen leol Groundwork Gogledd Cymru, yn awyddus i ddathlu balchder cymunedol Wrecsam, gan ddod â thrigolion lleol ynghyd i gefnogi a mwynhau bwyd blasus unwaith yn rhagor gan werthwyr o bob cwr o Wrecsam a’r cyffiniau, gan arddangos yr hyn sydd gan fusnesau bach yn y gymuned i’w gynnig.
Bydd amrywiaeth eang o stondinau ar gael i ymwelwyr, yn ddanteithion melys a sawrus, seidr lleol, olew blodau haul cywasgedig oer, danteithion cartref heb glwten a figan, a llawer mwy!
Meddai Hanna Clarke, y trefnydd, “Rydym yn hynod falch o weld ein ffair fwyd boblogaidd yn dychwelyd, ac yn edrych ymlaen at gefnogi ein cymuned. Mae disgwyl i’r ffair fod yn well nag erioed eleni.
“Gall ymwelwyr wylio arddangosiadau bwyd gan gynhyrchwyr lleol a mwynhau sesiynau blasu, crwydro mwy fyth o stondinau yn y babell awyr agored a bydd cyfle hefyd i rai bach fod yn greadigol ac addurno cacen fach i fynd adref gyda nhw, dan arweiniad busnes gwneud cacennau lleol.”
Cynhelir y Ffair Fwyd rhwng 11am a 3pm ddydd Sadwrn, 23 Mawrth, lle bydd modd i ymwelwyr alw heibio a phori drwy’r cynnyrch lleol. Gall ymwelwyr grwydro o amgylch y parc gwledig ar ôl ymweld â’r stondinau, ac felly mae’n ddiwrnod gwych i’r teulu cyfan.
Mae mynediad am ddim i’r Ffair Fwyd!
Mae mynediad am ddim i’r Ffair Fwyd, ac mae croeso i bawb, gan gynnwys cŵn. I ddysgu mwy am y digwyddiad, neu i gael cipolwg ar y stondinau fydd yno, ewch i’r dudalen digwyddiad Facebook yma.
I gael rhagor o fanylion, cysylltwch â 01978 757 524 / info@groundworknorthwales.org.uk
Efallai yr hoffech chi hefyd ddarllen Tŷ Pawb – Gwyliau’r Pasg 2024
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch