Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Bydd y Ffair Fwyd yn dychwelyd i Barc Gwledig Dyfroedd Alun ym mis Mawrth 2024!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Bydd y Ffair Fwyd yn dychwelyd i Barc Gwledig Dyfroedd Alun ym mis Mawrth 2024!
Pobl a lleArall

Bydd y Ffair Fwyd yn dychwelyd i Barc Gwledig Dyfroedd Alun ym mis Mawrth 2024!

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 18, 2024 11:19 am
Rhannu
Darllen 2 funud
Bydd y Ffair Fwyd yn dychwelyd i Barc Gwledig Dyfroedd Alun ym mis Mawrth 2024!
RHANNU

Erthygl wadd: Groundwork Gogledd Cymru

Cynhelir Ffair Fwyd y Gwanwyn, sy’n addas i deuluoedd, er mwyn dathlu masnachwyr bwyd o bob cwr o Wrecsam a’r cyffiniau ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun ar 23 Mawrth.

Mae’r trefnwyr, elusen leol Groundwork Gogledd Cymru, yn awyddus i ddathlu balchder cymunedol Wrecsam, gan ddod â thrigolion lleol ynghyd i gefnogi a mwynhau bwyd blasus unwaith yn rhagor gan werthwyr o bob cwr o Wrecsam a’r cyffiniau, gan arddangos yr hyn sydd gan fusnesau bach yn y gymuned i’w gynnig.

Bydd amrywiaeth eang o stondinau ar gael i ymwelwyr, yn ddanteithion melys a sawrus, seidr lleol, olew blodau haul cywasgedig oer, danteithion cartref heb glwten a figan, a llawer mwy!

Meddai Hanna Clarke, y trefnydd, “Rydym yn hynod falch o weld ein ffair fwyd boblogaidd yn dychwelyd, ac yn edrych ymlaen at gefnogi ein cymuned. Mae disgwyl i’r ffair fod yn well nag erioed eleni.

“Gall ymwelwyr wylio arddangosiadau bwyd gan gynhyrchwyr lleol a mwynhau sesiynau blasu, crwydro mwy fyth o stondinau yn y babell awyr agored a bydd cyfle hefyd i rai bach fod yn greadigol ac addurno cacen fach i fynd adref gyda nhw, dan arweiniad busnes gwneud cacennau lleol.”

Cynhelir y Ffair Fwyd rhwng 11am a 3pm ddydd Sadwrn, 23 Mawrth, lle bydd modd i ymwelwyr alw heibio a phori drwy’r cynnyrch lleol. Gall ymwelwyr grwydro o amgylch y parc gwledig ar ôl ymweld â’r stondinau, ac felly mae’n ddiwrnod gwych i’r teulu cyfan.

Mae mynediad am ddim i’r Ffair Fwyd!

Mae mynediad am ddim i’r Ffair Fwyd, ac mae croeso i bawb, gan gynnwys cŵn.  I ddysgu mwy am y digwyddiad, neu i gael cipolwg ar y stondinau fydd yno, ewch i’r dudalen digwyddiad Facebook yma.

I gael rhagor o fanylion, cysylltwch â 01978 757 524 / info@groundworknorthwales.org.uk

Efallai yr hoffech chi hefyd ddarllen Tŷ Pawb – Gwyliau’r Pasg 2024

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch

Food Fair
Food Fair
Food Fair
Food Fair
Food Fair
Food Fair
Food Fair
Rhannu
Erthygl flaenorol Market Datgelu cyfrinachau hanesyddol marchnad Wrecsam
Erthygl nesaf Parents Porth Lles ar-lein Wrecsam yn cipio gwobr genedlaethol

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein
Y cyngor
Medi 24, 2026
Illegal Tobacco
Adran Safonau Masnach Wrecsam dan sylw
Y cyngor
Medi 24, 2026
All Saints School Library Opening
Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn agor drysau ei llyfrgell newydd
Busnes ac addysg Pobl a lle
Medi 23, 2026
Gŵyl gerddorol a diwylliannol Gymraeg newydd yn dod i Wrecsam
Gŵyl gerddorol a diwylliannol Gymraeg newydd yn dod i Wrecsam
Digwyddiadau
Medi 23, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Pobl a lle

Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell

Medi 22, 2026
Gresford memorial wheel
Pobl a lle

Colli 266 o fywydau yn enw glo – Trychineb Gwaith Glo Gresffordd 92 mlynedd yn ddiweddarach

Medi 22, 2026
Street lighting
Arall

Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd

Medi 21, 2026
Horse Riders
ArallPobl a lle

Cyngor ar gyfer gyrru ystyriol o gwmpas marchogion

Medi 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English