A allai fod yn rhywbeth sydd yn eich cwpwrdd neu’ch oergell?
Mae’r broses galw bwyd yn ôl yn digwydd pan gaiff bwyd anniogel ei dynnu o’r gadwyn gyflenwi ac y cynghorir defnyddwyr i gymryd camau priodol, er enghraifft dychwelyd neu gael gwared ar fwyd anniogel.
Mae llawer o resymau pam y gallai cynnyrch bwyd gael ei alw’n ôl, gan gynnwys risg o wenwyn bwyd, problemau yn ystod y broses weithgynhyrchu, neu wallau labelu fel gwybodaeth anghywir neu wybodaeth am alergenau ar goll.
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn cynnig gwasanaeth rhad ac am ddim, lle bydd yn anfon neges atoch pan gyhoeddir rhybudd alergedd neu hysbysiad galw cynnyrch yn ôl. Ewch ati i danysgrifio nawr.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch