Mae Maethu Cymru Wrecsam wedi lansio gwasanaeth newydd sydd wedi anelu at gefnogi plant a phobl ifanc fel y maent yn gadael gofal preswyl.
Mae canolbwynt Cefnogwyr Gofalwyr Maeth yn ffocysu ar y bobl ifanc hynny sydd yn gadael gofal preswyl. Mae’n eu cefnogi mewn cartref teulu cariadus, cefnogol a diogel yn hanfodol fel y maent yn symud i fod yn oedolion.
Mae’r canolbwynt yn cynnwys pedwar cefnogwr gofalwr maeth, dau gefnogwr gofalwr seibiant byr a gweithiwr cymdeithasol goruchwyliol. Bydd gan y bobl ifanc weithiwr cymdeithasol plant yr un. Bydd gofalwyr hefyd yn cael cymorth saith diwrnod yn ogystal â chefnogaeth gan weithiwr cefnogi teulu. Yn ogystal â’r gefnogaeth mae ein gofalwyr maeth prif ffrwd yn ei gael.
Mae rhagor o wybodaeth am gefnogwyr gofalwyr maeth ar wefan Maethu Cymru Wrecsam.
Fel rhan o’r lansiad hwn, mae Maethu Cymru Wrecsam yn chwilio am bobl sydd yn teimlo y gallent gynnig amgylchedd cefnogol a diogel i lenwi dwy swydd gofalu ar gyfer pobl ddiamddiffyn ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam.
Mae’r ddwy swydd ar gyfer Cefnogwyr Gofalwyr Maeth a Chefnogwyr Gofalwyr Maeth seibiant byr i fod yn rhan o’r canolbwynt Cefnogwyr Gofalwyr Maeth, a fydd yn cefnogi pobl ifanc sydd yn gadael gofal preswyl.
Cefnogwyr Gofalwyr Maeth
Yn gyntaf rydym yn chwilio am ofalwyr maeth sy’n gallu cefnogi pobl ifanc sydd yn gadael eu lleoliad cyfredol fel y gallent bontio o ofal preswyl i amgylchedd teulu diogel, lle gallent gael eu cefnogi o fewn cartref teulu cariadus.
Cefnogwyr Gofalwyr Maeth Seibiant Byr
Fel cefnogwr gofalwyr maeth seibiant byr byddwch yn darparu gofal hanfodol i’n cefnogwyr gofalwyr llawn amser. Mae eich rôl yn eu galluogi i gael eu cefn atynt gan hefyd sicrhau bod y person ifanc yn derbyn gofal cyson mewn lleoliad teuluol.
Dywedodd y Cynghorydd Rob Walsh, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Plant: “Mae’r ddwy swydd Cefnogwr Gofalwr Maeth yn golygu y byddwch yn cael effaith gadarnhaol ar fywyd yr unigolyn ifanc. Rydym yn gwybod y gall faethu fod yn her, ond mae’n hynod werthfawr hefyd. Gobeithio bydd y gefnogaeth yr ydym yn ei gynnig, y gallwch eu gweld ar wefan Maethu Cymru, yn dangos i chi y cewch chi bopeth yr ydych ei angen i wneud gwahaniaeth gwirioneddol.”
Dywedodd Alwyn Jones, Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol, “Mae Canolbwynt Cefnogwyr Gofalwyr Maeth yn sicrhau bod gan Gefnogwyr Gofalwyr Maeth fynediad at dîm cefnogi dynodedig, gan gynnwys gweithiwr cymdeithasol, gweithiwr cymdeithasol goruchwylio, gweithiwr cymdeithasol therapiwtig a gweithiwr cefnogi teuluoedd.
“Drwy ymuno â ni, byddwch yn derbyn ffi broffesiynol gystadleuol, cymorth aml-asiantaeth helaeth a mynediad at gyfleoedd hyfforddiant arbennig. Er ei fod yn ymrwymiad mawr, cofiwch hefyd y gallwch fod yn sicr y bydd ein tîm maethu ar gael i’ch cefnogi trwy gydol y siwrnai.”