Bydd Freedom Leisure yn Wrecsam sy’n rhedeg 9 o ganolfannau hamdden gan gynnwys Byd Dŵr, Gwyn Evans, Y Waun a Queensway yn agor ei ddrysau ddydd Mercher 21 Medi i gynnig gweithgareddau am ddim fel y gall pawb rhoi tro arnynt fel rhan o Ddiwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol 2022 – sef diwrnod mwyaf actif o’r flwyddyn y DU.
Mae Freedom Leisure yn Wrecsam yn cynnig tocyn 4 diwrnod AM DDIM i drigolion i fanteisio ar eu cyfleusterau gwych. Efallai eich bod chi awydd nofio, rhoi cynnig ar ddosbarth ymarfer corff neu’r gampfa, mae rhywbeth i bawb roi cynnig arni. Yn syml, galwch heibio un o’n canolfannau neu ewch i https://bit.ly/3R15iJz i roi eich tocyn 4 diwrnod AM DDIM ar waith.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol yw diwrnod mwyaf actif y flwyddyn yn y DU – yn 2021 cafodd dros 22 miliwn o bobl eu hysbrydoli i fod yn actif ar y diwrnod hwnnw. Eleni bydd yr ymgyrch yn parhau i annog pobl o bob oed, cefndir a gallu i ddod at ei gilydd i gydnabod pwysigrwydd blaenoriaethu bod yn actif ar gyfer ein lles meddyliol yn ogystal ag iechyd corfforol.
Gan ddefnyddio’r thema ‘Ffitrwydd yn ein Huno’ (Fitness Unites Us), mae trefnwyr ymgyrchoedd ukactive yn annog y rhai sy’n darparu ffitrwydd, chwaraeon a hamdden ledled y DU i ddangos pŵer cynhwysol gweithgaredd corfforol wrth ddod â phobl o bob cefndir at ei gilydd, ym mhob cymuned.
Dywedodd Richard Milne, Rheolwr Ardal Freedom Leisure yn Wrecsam “Dyma gyfle gwych arall i bawb ddod i ymweld ag unrhyw un o’n canolfannau ar y diwrnod hwn, mae gennym ystod eang o weithgareddau ar gael o nofio, y Gampfa, dosbarthiadau Ymarfer Corff a llawer mwy, os nad ydych wedi ymweld â ni o’r blaen, dyma ddiwrnod i wneud hynny. ”
Dywedodd Huw Edwards , Prif Weithredwr ukactive, sy’n cydlynu’r ymgyrch: “Heddiw, rydym i gyd yn wynebu ein heriau personol ein hunain, ac mae’n hawdd teimlo wedi’n llethu gan ddigwyddiadau gartref a thramor – o argyfwng costau byw a biliau ynni cynyddol, i wrthdaro byd-eang a rhyfel, neu bryderon amgylcheddol.”
“Dyna pam eleni, mae Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol yn addas iawn i’n hatgoffa i flaenoriaethu ein hiechyd a’n lles, beth bynnag yw’r heriau sy’n ein hwynebu.
“Gall eich campfa, pwll, canolfan hamdden, cyfleuster chwaraeon neu ddarparwr ar-lein eich helpu i gymryd y cam cyntaf tuag at wella eich iechyd corfforol a meddyliol, yn ogystal â chysylltu â phobl eraill yn eich cymuned oherwydd bod gan ffitrwydd allu gwych i ddod â ni at ein gilydd.
“Mae ystod enfawr o opsiynau i bawb roi cynnig arnyn nhw, gyda staff wrth law i’ch ysbrydoli a’ch cefnogi chi, pa bynnag gam ry’ch chi arni.”
Cofiwch i roi eich tocyn 4 diwrnod AM DDIM ar waith cyn y 21ain o Fedi yma https://bit.ly/3R15iJz neu ewch heibio eich canolfan hamdden leol, gymunedol:
Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Gwyn Evans, Gwersyllt, LL11 4HG
Canolfan Hamdden a Gweithgareddau y Waun, Y Waun, LL14 5NF
Stadiwm Queensway, Wrecsam, LL13 8UH
Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Byd Dŵr, Wrecsam, LL13 8DH
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH