Bydd grantiau rhwng £5,000 a £10,000 ar gael i fusnesau cymwys yn y sectorau manwerthu, lletygarwch a hamdden dan y Gronfa Paratoi at y Dyfodol gwerth £20 miliwn gan Lywodraeth Cymru.
Bydd y Gronfa yn helpu busnesau gryfhau eu sefyllfa fasnachu yn y dyfodol drwy gynyddu proffidioldeb drwy fuddsoddi mewn technoleg ynni adnewyddadwy, gwelliannau i ddeunydd eu heiddo ac uwchraddio systemau neu beiriannau i leihau eu defnydd o ynni.
Mae’r gwiriwr cymhwysedd ar gyfer y Gronfa Paratoi at y Dyfodol yn awr yn fyw ac anogir busnesau micro, bach a chanolig yn Wrecsam i gael golwg i weld a ydynt yn gymwys.
Bydd ceisiadau’n agor ym mis Mai. Bydd grantiau rhwng £5,000 a £10,000 ar gael drwy’r gronfa
I ymgeisio am y Gronfa Paratoi at y Dyfodol, rhaid i fusnesau
- fod yng Nghymru a chyflogi pobl yng Nghymru;
- cyflogi rhwng 1 a 249 o bobl;
- wedi bod yn masnachu ers cyn 1 Ebrill 2023;
- gweithredu o eiddo â gwerth trethiannol rhwng £6,001 a £51,000;
- un ai yn berchen neu’n prydlesu’r eiddo busnes ar brydles o 3 blynedd o leiaf sy’n ymestyn y tu hwnt i 1 Ebrill 2026.
Mae Busnes Cymru wedi cytuno i gynnal nifer o weminarau a bydd y cyntaf yn cael ei chynnal yr wythnos nesaf i drafod meini prawf y gronfa a’r broses ymgeisio. Os hoffech fynychu’r gweminarau, bydd arnoch angen archebu lle drwy’r ddolen hon.
Y dyddiadau sydd ar gael yw 25 a 30 Ebrill a 2 Mai.
Dywedodd y Cyng. Nigel Williams, Aelod Arweiniol yr Economi ac Adfywio, “Mae hwn yn gyfle i lawer o fusnesau lleol wella eu heiddo, systemau neu beiriannau, fydd yn ei dro yn lleihau eu defnydd o ynni.
Rwyf yn annog unrhyw un sydd â diddordeb i gael golwg i weld os ydynt yn gymwys yn barod at pan fydd y ceisiadau’n agor ym mis Mai.”
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch
Efallai yr hoffech chi hefyd ddarllen Byddwch yn wyliadwrus o Alwyr Diwahoddiad ECO 4