“Fydda i ddim yn gwneud hynna!” yw’r ateb fyddech chi’n ei gael mwyaf tebyg pe baech chi’n gofyn i rywun a wnaethon nhw ollwng sbwriel yn fwriadol!
Does neb yn cyfaddef eu bod yn gwneud, ond eto, mae’r sbwriel yna i’w weld ar ymyl ein ffyrdd, yn ein parciau, yng nghanol y dref, yn yr ardaloedd gwledig – ym mhobman.
Gallai fod yn stwmp sigarét wedi’i ollwng ar y llawr heb feddwl, neu’n fag mawr o focsys bwyd brys yn llawn plastigion a gwastraff bwyd – ond pwy sy’n ei daflu? Yr ateb yw fod llawer o bobl i’w gweld yn dweud celwydd wrth ateb y cwestiwn, neu efallai nad ydym ni’n holi’r bobl iawn.
“Bydd nifer y dirwyon godi os na fydd pobl yn newid eu harferion”
Fel y gŵyr mwyafrif pobl y fwrdeistref sirol, rydym ni’n defnyddio swyddogion gorfodi i roi dirwyon o £75 i unrhyw un sy’n cael ei ddal yn gollwng sbwriel. Yn ystod misoedd yr haf, wrth i fwy ohonom ni fynd am dro ar hyd parciau a mannau agored amrywiol y sir, rydym yn disgwyl i nifer y dirwyon godi os na fydd pobl yn newid eu harferion. Rydym ni eisiau i bawb fwynhau ein mannau cyhoeddus heb iddyn nhw fod yn llawn sbwriel.
Felly os byddwch chi’n gollwng sbwriel, gallwch ddisgwyl dirwy o £75 os cewch chi’ch dal gan un o’r swyddogion gorfodi. Os nad ydych chi wedi cael eich dal yn gollwng sbwriel, ond yn gwneud hynny beth bynnag – dim ond mater o amser fydd hi.
“chwiliwch am fin sbwriel “
Meddai’r Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae sbwriel yn felltith ar ein cymunedau, ac er bod rhoi dirwyon wedi newid ymddygiad rhai pobl, mae yna nifer o hyd sy’n parhau i wfftio’u cyfrifoldebau a’i ollwng lle bynnag y mynnant. Da chi, cofiwch yr effaith y mae hyn yn ei gael ar yr amgylchedd a naill ai ewch â’ch sbwriel adref gyda chi i’w ailgylchu, neu chwiliwch am fin sbwriel i gael gwared ohono.”
Dwedwch sut y medrwn ni ateb i’r heriau tai dros y pum mlynedd nesaf.
DW I EISIAU CYNNIG FY MARN AR DAI