NODWCH – Mae’r ymgynghoriad hon wedi ei gau (01.12.17)
A ddylem ni godi tâl o 20c y tro ar bobl i ddefnyddio’r toiledau cyhoeddus yn Nhrefor, Y Waun a Froncysyllte?
A ddylid gofyn i rieni sy’n anfon eu plant i glybiau brecwast yn yr ysgol cyn 8.20am i dalu £1 y dydd er mwyn helpu i gynnal y gwasanaeth?
Os oes gennych chi farn, yna mae angen i chi adael i ni wybod.
Mae’n rhaid i Gyngor Wrecsam arbed £13 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf.
Ond cyn i ni benderfynu ble i wneud yr arbedion, rydym eisiau gwybod beth yw barn pobl am y gwahanol opsiynau.
Rydym yn ymgynghori ar wahanol gynigion, ac rydym wedi rhannu’r rhain yn ôl adrannau.
Yn yr erthygl hon, rydym am ganolbwyntio ar y syniadau a gyflwynwyd gan yr Adran Dai a’r Economi.
Rydym eisiau eich safbwyntiau ar ddau gynnig…
DYWEDWCH WRTHYM SUT RYDYCH CHI’N MEDDWL Y DYLEM NI ARBED £13M. LLENWCH YR HOLIADUR RŴAN.
Codi tâl o 20c i ddefnyddio’r toiledau cyhoeddus yn Nhrefor, Y Waun a Froncysyllte
Mae’r cyngor yn rheoli nifer o doiledau cyhoeddus ledled y fwrdeistref sirol.
Rydym yn cynnig codi tâl o 20c mewn toiledau cyhoeddus yn Nhrefor, Y Waun a Froncysyllte er mwyn talu am y gost o lanhau a staffio.
Rydym yn amcangyfrif y gallai hyn greu £5,000 y flwyddyn yn ychwanegol er mwyn ein helpu i reoli’r cyfleusterau.
Dywedwch wrthym beth yw eich barn drwy lenwi’r holiadur.
Codi £1 am ofal plant mewn clybiau brecwast cyn 8.20am
Mae’r cyngor yn rhedeg cynllun brecwast mewn 50 o ysgolion cynradd. Y bwriad yw darparu brecwast iach am ddim i blant cyn eu bod yn dechrau’r diwrnod ysgol.
Cost y gwasanaeth ar hyn o bryd yw £636,000.
Er mai dim ond hanner awr sydd ei angen arnom (8.20am-8.50am) i ddarparu brecwast, caiff staff eu cyflogi am awr yn y bore – gan ddarparu gofal plant am ddim i bob pwrpas am hyd at hanner awr (7.50am-8.20am) cyn i’r sesiwn brecwast ddechrau.
Rydym yn cynnig cyflwyno tâl o £1 y diwrnod y plentyn ar rieni sy’n awyddus i fanteisio ar yr elfen yma’n ymwneud â gofal plant. Felly os yw plentyn yn cyrraedd rhwng 7.50am a 8.20am, fe fyddai yna dâl o £1.
Ond os yw plentyn yn cyrraedd ar ôl 8.20am, ni fyddai unrhyw dâl.
Rydym yn credu y gallai hyn greu £106,000 ychwanegol yn 2018/19 a £52,000 mwy yn 2019/20.
Byddai’r arian ychwanegol yn gymorth i wneud y gwasanaeth yn gynaliadwy a’i wneud yn llai costus i’r cyngor ei redeg.
Drwy gymryd rhan yn ein hymgynghoriad, fe all eich cymydog gael dweud ei dweud. Ac fe all y dyn sy’n byw i lawr y stryd gael dweud ei ddweud.
Ac fe allwch chi gael dweud eich dweud. Felly peidiwch â cholli’r cyfle.
Llenwch ein holiadur rŵan, a sicrhewch eich bod yn dweud eich dweud am yr arbedion arfaethedig i’r gyllideb.
DWEUD EICH DWEUD COFRESTRU