Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Fyddwch chi’n teithio ar draws y ffin rhwng Cymru a Lloegr? Sicrhewch eich bod yn deall y gwahaniaeth rhwng y cyfyngiadau Covid…
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Fyddwch chi’n teithio ar draws y ffin rhwng Cymru a Lloegr? Sicrhewch eich bod yn deall y gwahaniaeth rhwng y cyfyngiadau Covid…
Busnes ac addysgY cyngor

Fyddwch chi’n teithio ar draws y ffin rhwng Cymru a Lloegr? Sicrhewch eich bod yn deall y gwahaniaeth rhwng y cyfyngiadau Covid…

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 16, 2021 1:44 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Fyddwch chi’n teithio ar draws y ffin rhwng Cymru a Lloegr? Sicrhewch eich bod yn deall y gwahaniaeth rhwng y cyfyngiadau Covid...
RHANNU

Mae Prif Weinidog Llywodraeth Cymru, Mark Drakeford wedi nodi cynlluniau ar gyfer Cymru i symud i Lefel Rhybudd 0 ym mis Awst trwy lacio rhai – ond nid holl – gyfyngiadau Covid-19.

Cynnwys
  • Newidiadau yng Nghymru o 17 Gorffennaf
  • Newidiadau arfaethedig yng Nghymru o 7 Awst
  • Parchwch y gwahaniaethau

Mae hyn yn dilyn cynlluniau a amlinellwyd gan Lywodraeth y DU yn gynharach yr wythnos hon a fydd mewn grym yn Lloegr yn unig o 19 Gorffennaf.

Trefnwch eich apwyntiad brechlyn Covid-19 ar-lein.

Mae’r gwahaniaethau allweddol yn canolbwyntio o amgylch y defnydd o fasgiau wyneb, a’r nifer o bobl all gwrdd tu mewn.

Newidiadau yng Nghymru o 17 Gorffennaf

Yng Nghymru, bydd rhai newidiadau yn dod i rym ar 17 Gorffennaf, a bydd hyn yn golygu y gall hyd at chwech o bobl gwrdd tu mewn i gartrefi preifat a llety gwyliau.

Ni fydd unrhyw newidiadau yn y rheolau o ran masgiau wyneb yng Nghymru am y tro.

Mae hyn yn wahanol i Loegr, lle na fydd unrhyw gyfyngiadau ar y nifer o bobl all gyfarfod tu mewn ac ni fydd masgiau wyneb bellach yn orfodol – o 19 Gorffennaf.

Yng Nghymru, gall ddigwyddiadau trefnedig gael eu cynnal ar gyfer hyd at 1,000 o bobl yn eistedd a hyd at 200 yn sefyll, a bydd lloriau sglefrio yn gallu ailagor.

Mae clybiau nos yng Nghymru yn parhau i fod ar gau am y tro.

Cymraeg

Newidiadau arfaethedig yng Nghymru o 7 Awst

Os fydd popeth yn mynd rhagddo’n dda, bydd Cymru’n symud i Lefel Rhybudd 0 o 7 Awst, pan fydd holl eiddo yn gallu ailagor (gan gynnwys clybiau nos) a bydd mwyafrif – ond nid holl – gyfyngiadau yn cael eu codi.

Ni fydd unrhyw gyfyngiadau ar y nifer o bobl all gyfarfod tu mewn, gan gynnwys mewn cartrefi preifat. Fodd bynnag, bydd gwisgo masg wyneb tu mewn i siopau a gofodau cyhoeddus eraill dan do, oni bai am leoliadau lletygarwch megis tafarndai a bwytai, yn ofyniad cyfreithiol.

Efallai bydd angen i rai lleoliadau gyfyngu ar niferoedd, yn seiliedig ar asesiadau risg y bydd angen i holl leoliadau gyflawni.

Parchwch y gwahaniaethau

Mewn datganiad ar y cyd, mae Cynghorau Wrecsam, Sir y Fflint a Sir Ddinbych yn galw ar breswylwyr i fod yn ymwybodol o’r gwahaniaethau:

“Mae’r newidiadau o ran cyfyngiadau yn dilyn llwyddiant y rhaglen frechu, sydd wedi gwanhau’r cysylltiad rhwng heintiau, salwch difrifol a mynd i’r ysbyty yng Nghymru a Lloegr. Diolch i’r brechlyn, mae’r nifer o bobl sy’n mynd yn ddifrifol wael neu yn yr ysbyty yn parhau i fod yn isel ar hyn o bryd.

“Fodd bynnag, mae’r amrywiolyn Delta yn parhau i ledaenu ac mae’r feirws yn parhau i beri perygl difrifol i iechyd. Rydym hefyd yn gweld pobl ifanc a ffit yn dioddef o effeithiau Covid hir, sy’n cael effaith mawr ar eu bywydau.

“Gofynnir i bawb sy’n byw, gweithio ac yn ymweld â Chymru, barchu’r gwahaniaethau o ran cyfyngiadau rhwng Lloegr a Chymru, ac i lynu at y rheoliadau sydd mewn lle.

“Gofynnir i ymwelwyr sy’n dod i Gymru barchu staff sy’n gweithio yn y diwydiannau twristiaeth, lletygarwch a hamdden, sydd oll yn cyfrannu i wneud eu gorau i ofalu am iechyd a lles y rhai maent yn gweithio ar eu cyfer a gyda nhw. Diolch.”

Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://bipbc.gig.cymru/covid-19/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/brechiad-covid-19-trefnu-apwyntiad-ar-lein/”]TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Rhestr o Gwaith Chwarae Gwyliau yn eich ardal Rhestr o Gwaith Chwarae Gwyliau yn eich ardal
Erthygl nesaf Rhaglen Sgiliau Adeiladu Traddodiadol yn arwain at gyfle am brentisiaeth. Rhaglen Sgiliau Adeiladu Traddodiadol yn arwain at gyfle am brentisiaeth.

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Sam Gardner
Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 8, 2026
Horace outside Wrexham Library
Braw i bawb yn Llyfrgell Wrecsam
Fideo Pobl a lle Y cyngor
Hydref 8, 2026
All Saints School Pupils
Aur i Gresffordd – Ysgol yr Holl Saint yn creu hanes yn Wrecsam!
Busnes ac addysg Pobl a lle
Hydref 7, 2026
Housing Image
Adran Tai Cyngor Wrecsam yn parhau i ymrwymo i Safonau Ansawdd Tai Cymru
Y cyngor
Hydref 7, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Twf cynaliadwy gyda chefnogaeth Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam
Busnes ac addysg

Twf cynaliadwy gyda chefnogaeth Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam

Hydref 6, 2026
Occupational Therapy Week poster
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol

Hydref 1, 2026
Mae rhagolygon gyrfa newydd ychydig o gliciau i ffwrdd! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf...
Busnes ac addysg

Mae rhagolygon gyrfa newydd ychydig o gliciau i ffwrdd! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…

Medi 29, 2026
Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las
Y cyngor

Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las

Medi 29, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English