Rydym yn cefnogi ymgyrch genedlaethol newydd Caru Cymru i fynd i’r afael â baw cŵn trwy annog perchnogion cŵn i adael dim ond olion pawennau a glanhau ar ôl eu hanifeiliaid anwes.
Er bod oddeutu naw o bob deg perchennog cŵn yn glanhau ar ôl eu hanifeiliaid, mae baw cŵn yn dal i fod yn broblem barhaus mewn cymunedau ledled y wlad. Nod ymgyrch Cadwch Gymru’n Daclus yw codi ymwybyddiaeth o’r peryglon iechyd sy’n gysylltiedig â baw cŵn; nid yn unig i bobl ond i dda byw ac anifeiliaid anwes eraill hefyd.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Gall baw cŵn sy’n cael ei adael gynnwys bacteria niweidiol sy’n gallu aros yn y pridd ymhell ar ôl iddo bydru.
Mae’r ymgyrch genedlaethol yn cael ei rhedeg fel rhan o Caru Cymru – mudiad cynhwysol dan arweiniad Cadwch Gymru’n Daclus ac awdurdodau lleol i ysbrydoli pobl i weithredu ac i ofalu am yr amgylchedd.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth, “Mae baw cŵn yn rhywbeth y mae pawb yn casáu ei weld ac mae’n hynod bwysig ein bod yn cefnogi’r ymgyrch hwn ac yn annog pob perchennog ci i lanhau ar ôl eu hanifail.
“Nid oes esgus ac fe allai arwain at ddirwy felly cefnogwch yr ymgyrch a “gadewch ond olion pawennau” wrth i chi fynd â’ch chi am dro.”
Meddai Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus, Lesley Jones, “Rydym yn teimlo’n gyffrous am lansio’r ymgyrch pwysig hwn gyda’n awdurdodau lleol partner. Fel cenedl o garwyr cŵn, dylem i gyd wybod bod baw ci nid yn unig yn lanast amhleserus, ond gall hefyd fod yn beryglus.
“Rydym yn annog y lleiafrif bach o berchnogion cŵn anghyfrifol i wneud y peth cywir. Trwy beidio â chasglu baw eich ci, fe allech roi pobl, da byw a’r anifeiliaid anwes sy’n annwyl i chi mewn perygl. Rhowch o mewn bag, rhowch o yn y bin a gadewch ond olion pawennau pan ydych allan am dro.”
I ymuno â’r ymgyrch ac i ganfod mwy, ewch i wefan Cadwch Gymru’n Daclus
Mae Caru Cymru wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL