Mae’n bwysig iawn fod gan bobl hŷn rywun y gallant ymddiried ynddynt i wneud penderfyniadau ynglŷn â’u hiechyd a’u harian, os na allant wneud y penderfyniadau hyn drostynt eu hunain mwyach.
Mae Atwrneiaeth Arhosol (LPA) yn ddogfen gyfreithiol sy’n caniatáu i rywun wneud y penderfyniadau pwysig hyn dros unigolyn, neu weithredu ar eu rhan.
Mae llawer o fanteision i greu LPA:
- Mae’n gyfle i siarad â theulu a ffrindiau ynghylch sut rydych yn dymuno rheoli eich arian, eich iechyd a’ch lles.
- Bydd yn rhoi tawelwch meddwl i chi ac yn caniatáu i chi gadw rheolaeth.
- Mae’n ffordd gyflymach a rhatach nag eraill o ymdrin â’ch penderfyniadau – megis gwneud cais i’r Llys Gwarchod.
Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru a Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi gweithio mewn partneriaeth i lunio canllaw hwylus ar Atwrneiaeth Arhosol.
Nod y canllawiau yw helpu pobl ar draws Cymru i ddeall pwysigrwydd bod ag Atwrneiaeth Arhosol yn well, fel y gall pobl hŷn a’u hanwyliaid gynllunio ar gyfer eu dyfodol.
Os hoffech ddysgu mwy am yr hyn y gallai bod ag Atwrneiaeth Arhosol ei olygu i chi a’ch teulu, gallwch ofyn am ganllaw trwy fynd i wefan y Comisiynydd, anfon e-bost at gofyn@comisiynyddph.cymru neu ffonio 03442 640 670.
Ydych chi’n ofalwr di-dâl?
Ydych chi’n darparu gofal di-dâl i oedolyn neu blentyn anabl? Gallant fod yn aelod o’r teulu neu’n ffrind, na all, oherwydd salwch, anabledd, problem iechyd meddwl neu ddibyniaeth, ymdopi heb eich cefnogaeth. Mae llawer o wybodaeth, cyngor a chymorth ar gael i chi fel gofalwr di-dâl.
Os hoffech gyngor, cymorth neu ragor o wybodaeth, cysylltwch â GOGDdC.
Hyfforddiant Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru Yn Fuan
Fe fydd Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru, sydd yn darparu gwasanaethau gofalwyr di-dâl ar ein rhan, yn cynnal Cwrs Hyfforddiant Atwrneiaeth Arhosol ddydd Gwener 29 Medi, am 10am yn 3a, Edison Court, Rhodfa Ellice, Wrecsam, LL13 7YT