Mae Gweithredu ar Newid Hinsawdd yn ceisio creu Cymru sy’n gryfach, gwyrddach a thecach drwy ddangos sut mae ‘newidiadau bach yn cyfrif’.
Gyda dros dair miliwn ohonom yng Nghymru, ni all neb wneud popeth ar eu pen eu hunain i fynd i’r afael â newid hinsawdd, ond fe all pawb wneud rhywbeth.
Mae yna gamau syml dyddiol y gallwn ddechrau gyda nhw i leihau ein heffaith ar y blaned.
Dewisiadau ynni gwyrdd
Mae yna lawer o bethau y gallwch eu gwneud i leihau’r defnydd o ynni a lleihau allyriadau carbon gan gynnwys:
- Gosod thermostat eich ystafell 1°C yn is na’r arfer. Gallai hyn leihau eich biliau gwresogi hyd at 10%. Gallwch ychwanegu haen o ddillad thermol i’ch cadw chi’n gynnes.
- Lleihau tymheredd llif eich boeler. Mae nifer o foeleri wedi eu gosod i gynhesu dŵr i 75-80°C. Os oes gennych foeler cyfunol dylai 60°C fod yn ddigon cynnes. Gallai gwneud hyn arbed rhwng 8 a 13% ar eich bil nwy.
- Rhoi cynnig ar awyr sychu. Gall defnyddio hors ddillad yn hytrach na pheiriant sychu dillad leihau eich defnydd o ynni yn sylweddol, lleihau eich biliau a hyd yn oed ymestyn oes eich dillad. Sicrhewch nad ydych yn sychu eich dillad ar reiddiaduron gan y gall hyn achosi llwydni, a dim ond os y gallwch agor eich ffenestri y dylech sychu eich dillad dan do. Os y gallwch sychu eich dillad ar y lein ddillad y tu allan yna dyna’r dewis gorau.
- Atal drafft. Sicrhewch eich bod wedi atal drafft o unrhyw fylchau, er enghraifft o amgylch ffenestri neu o dan ddrysau fel nad oes gwres yn dianc.
Dewisiadau cludiant gwyrdd
Gall gwneud newidiadau i sut rydym yn teithio helpu i leihau ein heffaith ar y blaned. Mae newidiadau y gallwn ni eu gwneud yn cynnwys:
- Dod yn fwy egnïol Mae dewis ffyrdd mwy egnïol o deithio, fel cerdded, beicio neu fynd ar olwynion nid yn unig yn ymarfer corff gwych ond mae’n ddewis mwy fforddiadwy, gwyrdd a chynaliadwy o ran cludiant.
- Defnyddio mwy ar gludiant cyhoeddus. Dewiswch ddulliau mwy gwyrdd o ran cludiant, fel bysiau neu drenau i osgoi tagfeydd traffig a lleihau’r nifer o geir sydd ar y ffordd. Os nad yw cludiant cyhoeddus yn ddewis i chi, rhowch gynnig ar rannu car.
- Cerdded i’r ysgol. Os ydych yn byw’n ddigon agos, a’ch bod yn gallu gwneud hynny, mae cerdded i’r ysgol yn ffordd wych o gadw’n heini, treulio amser gyda’ch gilydd ac osgoi’r straen o fynd i’r ysgol yn y car.
- Osgoi teithio diangen. Manteisiwch ar dechnoleg a threfnwch gyfarfodydd neu gynadleddau rhithiol pan allwch wneud hynny. Bydd chwilio am ffyrdd o deithio llai yn lleihau allyriadau niweidiol.
Dewisiadau dyddiol gwyrdd
Bydd gwneud dewisiadau dyddiol gwyrdd yn lleihau faint o allyriadau carbon niweidiol sy’n cael eu rhyddhau i’r atmosffer, sef prif sbardun newid hinsawdd. Gall y dewisiadau hyn fod yn bethau fel:
- Defnyddio llai o ddŵr. Mae yna nifer o ffyrdd syml o arbed dŵr – cymryd cawodydd byrrach, diffodd y tapiau a gosod dyfeisiau arbed dŵr.
- Trwsio ac ailddefnyddio. Gall y rhan fwyaf o bethau gael eu trwsio – gennych chi neu weithiwr proffesiynol neu gaffi trwsio. Pan nad ydych angen rhywbeth mwyach, rhowch yr eitem i rywun, gwerthwch yr eitem ar-lein, uwchgylchwch yr eitem neu fynd ag ef i gyfleuster ailddefnyddio. Gallwch hefyd roi cynnig ar rentu, benthyg neu rannu eitemau nad ydych ond yn eu defnyddio’n achlysurol.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd a Chefnogwr Hinsawdd: “Nid dim ond problem ar gyfer y dyfodol yw newid hinsawdd, mae’n broblem sy’n fater o frys a sydd angen mynd i’r afael â hi’n gyflym ac mae’n eglur fod angen ymdrech fawr gennym ni i gyd i newid pethau. Gall y newidiadau bach rydym yn eu gwneud yn ein bywydau dyddiol fod o gymorth mawr i wneud gwahaniaeth.”
I gael rhagor o wybodaeth, awgrymiadau a chyngor ewch i dudalen we Gweithredu ar Newid Hinsawdd.
Mae’n Fis Rhyngwladol Cerdded i’r Ysgol – ydych chi’n cymryd rhan? – Newyddion Cyngor Wrecsam
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.