Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gall y swydd TGCh hon wneud pobl yn hapus…allwch chi wneud y swydd?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Gall y swydd TGCh hon wneud pobl yn hapus…allwch chi wneud y swydd?
Busnes ac addysg

Gall y swydd TGCh hon wneud pobl yn hapus…allwch chi wneud y swydd?

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 23, 2020 4:08 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Digital Connectivity
RHANNU

Mae’r mwyafrif o bobl – rhyw dro neu’i gilydd – wedi cael profiad o dechnoleg sydd ddim yn gweithio fel y dylai.

Cynnwys
  • Posibilrwydd o wneud i rywun wenu
  • Arwain, datblygu a chefnogi
  • Cyfathrebu yn bwysig
  • Cydbwysedd gwaith-bywyd gwych

Gall fod yn boen, yn rhwystredig, ac yn eich atal rhag gwneud y pethau pwysig y mae arnoch angen eu gwneud. Pan fydd hyn yn digwydd, rydych yn debygol o fod angen ffonio’r ddesg gymorth.

Posibilrwydd o wneud i rywun wenu

Mae gennym dîm o ddatryswyr problemau, sydd â’r gallu i wneud i bobl wenu. Gelwir y pobl hyn yn ‘arwyr’, ‘sêr’ a hyd yn oed eu bod wedi ‘arbed eu bywyd’ drwy beidio â chynhyrfu, a defnyddio eu gwybodaeth arbenigol i ddatrys problemau TGCh sydd wedi bod yn poeni eraill…felly gallwch ddweud ei fod yn swydd sy’n rhoi llawer o foddhad.

Eisiau ‘arbed bywyd’? Efallai eich bod yn ffodus heddiw 🙂

Rydym yn chwilio am Ddadansoddwr Technegol i weithio yn ein gwasanaeth TGCh. Mae’n swydd llawn amser a swydd barhaol…ydi hyn yn rhywbeth y gallech chi ei wneud?

Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.

Arwain, datblygu a chefnogi

Mae ein tîm o arbenigwyr yn cefnogi a rheoli dyfeisiau, gan gynnwys gliniaduron, dyfeisiau symudol, ac argraffwyr i dros 2,400 o bobl.

Rydym eisiau ychwanegu un aelod arall i’r tîm i arwain, datblygu a chefnogi ystod o feysydd technegol Defnyddwyr.

Rydym eisiau rhywun sydd â phrofiad o weithredu a rheoli dyfeisiau mewn amgylchedd arloesol. Dylent feddu ar brofiad o Windows 10, ac adnoddau rheoli dyfeisiau megis SCCM a Blackberry UEM.

Gall y swydd TGCh hon wneud pobl yn hapus...allwch chi wneud y swydd?

Cyfathrebu yn bwysig

Yn ogystal â meddu ar y sgiliau a gwybodaeth angenrheidiol, mae’n bwysig iawn hefyd bod gennych sgiliau cyfathrebu a gwasanaeth i gwsmeriaid rhagorol.

Bydd rhaid i chi allu ysgogi eich hun a gallu gweithio dan bwysau i gyflawni’r swydd yn dda, ac yn ogystal mae’n gyfle i fentora aelodau eraill o’r tîm.

Cydbwysedd gwaith-bywyd gwych

Ac os ydych yn chwilio am swydd sydd gyda chydbwysedd gwaith a bywyd, yna mae digon o resymau dros ymgeisio.

Er enghraifft, mae ein cynllun gweithio’n hyblyg yn golygu y gallwch gamu nôl o’r dyddiau arferol 9 tan 5 a gorffen yn gynt un diwrnod a gweithio’n hwyrach y diwrnod canlynol – os ydych angen gwneud hynny.

Cewch lwfans gwyliau hael, mynediad at gynllun pensiwn da a buddiannau gweithwyr eraill.

I weld y disgrifiad swydd llawn ac i wneud cais, cliciwch ar y ddolen isod os gwelwch yn dda.

Y dyddiad cau yw 8 Tachwedd.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://saas.zellis.com/wrexham/wrl/pages/vacancy.jsf?latest=01004109&language=cy”]EWCH Â FI AT Y SWYDD[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Police Station Cynlluniau Dymchwel Hen Orsaf Heddlu
Erthygl nesaf Winter Paratoi am y gaeaf 2020 – 2021

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Minera Roof Trusses
Busnes ac addysg

Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi

Awst 28, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg

Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol

Awst 20, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr

Awst 20, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr

Awst 13, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English